Arestio dyn ar amheuaeth o ddynladdiad bachgen, 16, fu farw

Llŷr DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llŷr Davies yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn yn ei 60au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad mewn cysylltiad â marwolaeth bachgen 16 oed mewn chwarel.

Bu farw Llŷr Davies yn dilyn "digwyddiad yn ymwneud â thryc" yn chwarel Gilfach ger Efailwen yn Sir Benfro ar 12 Mawrth eleni.

Ar y diwrnod, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod tryc wedi ei ganfod mewn afon fas, tra bod unigolyn wedi ei ddarganfod mewn lleoliad arall.

Fe wnaeth teulu Llŷr Davies, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul, ei ddisgrifio fel "bachgen caredig, doniol a hoffus".

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Llun bod dyn yn ei 60au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad o ganlyniad i esgeulustod difrifol.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

Mae achos llys yn digwydd ar hyn o bryd, ble mae athro yn gwadu ymosod ar Llŷr Davies dridiau cyn ei farwolaeth.

Clywodd y llys nad yw'r achos hwnnw yn gysylltiedig â'i farwolaeth mewn unrhyw ffordd.

Pynciau cysylltiedig