Rhyddhau dau ar fechnïaeth ar ôl gwrthdrawiad angheuol

A465
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw dyn 20 oed o Frynmawr yn y fan a'r lle wedi'r digwyddiad fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn a gafodd eu harestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar yr A465 rhwng Rhymni a Dowlais, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol, meddai Heddlu Gwent.

Bu farw dyn 20 oed o Frynmawr yn y fan a'r lle tua 04:50 ar 31 Mai, ar ôl i feic cwad gael ei ddarganfod wedi troi drosodd ar y ffordd tua'r gorllewin.

Cafodd dyn 40 oed o Ferthyr Tudful ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a gyrru dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol.

Fe gafodd ail ddyn 37 oed o Ferthyr ei arestio hefyd ar amheuaeth o newid cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Matthew Edwards, fod yr heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth gan bobl oedd yn teithio ar y ffordd rhwng 02:00 a 05:00 fore Sadwrn.

"Ein barn ni o hyd yw y gallai ail gerbyd – BMW gwyn a gafodd ei ddarganfod wedi ei losgi yn ardal Dowlais – fod wedi bod yn rhan o'r gwrthdrawiad," meddai.

Pynciau cysylltiedig