Reform UK yn 'gwlt personoliaeth un dyn', medd Darren Millar

Darren MillarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Reform wedi methu â chynnig atebion o ddifrif i broblemau Cymru, meddai Darren Millar

  • Cyhoeddwyd

"Cwlt personoliaeth un dyn" yw Reform UK, ac nid oes gan blaid Nigel Farage unrhyw atebion o ddifrif i broblemau Cymru, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae disgwyl i Darren Millar ddefnyddio ei araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yn Llangollen ddydd Sadwrn i amlygu "dŵr glas clir" rhwng Reform a'i blaid ei hun.

Fe fydd Mr Millar yn honni fod Reform UK "wedi methu'n llwyr" â chynnig atebion "o ddifrif, wedi eu hariannu ac sy'n bosib eu gweithredu".

Mae Reform wedi perfformio'n well na'r blaid Geidwadol mewn arolygon barn diweddar ar gyfer etholiad y Senedd, gyda phlaid Mr Farage yn brwydro gyda Llafur a Phlaid Cymru i fod y ceffyl blaen.

Mae'r arolwg diweddaraf yn awgrymu bod Plaid Cymru ar y blaen (30%), bod Reform yn ail (25%), Llafur yn drydydd (18%) a'r Ceidwadwyr yn bedwerydd (13%).

Fe orffennodd Reform yn ail mewn 13 o etholaethau yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol y llynedd, ond ni lwyddon nhw i gipio unrhyw seddi.

Dyw'r blaid dal heb ddewis arweinydd na llefarydd Cymreig, a dyw hi ddim yn glir pwy fydd yr ymgeiswyr.

Nigel FarageFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arolygon barn wedi bod yn awgrymu mai ras rhwng Llafur, Plaid Cymru a Reform fydd hi i fod y blaid fwyaf yn y Senedd

Mae disgwyl i Mr Millar roi sylw i'r syniad "mai'r ffordd o gael Llafur allan yw drwy gefnogi Reform".

Bydd yn dweud: "Dwi'n rhannu nifer o'ch pryderon am lefelau mewnfudo anghynaladwy, effaith net sero ar filiau ynni a swyddi a'r agenda 'woke'.

"Ond mae ysgwyd bys a gweiddi am y pethau hyn o'r ymylon yn hawdd.

"Mae Reform wedi methu'n llwyr â chynnig atebion o ddifrif, wedi eu hariannu ac sy'n bosib eu gweithredu i'r problemau maen nhw'n eu trafod.

"Dydyn nhw chwaith heb fod yn onest am bŵer y Senedd, a'u gallu i fynd i'r afael â rhai o'r materion yma."

'Dŵr clir glas'

Bydd yn nodi fod "dŵr clir glas rhwng y Ceidwadwyr Cymreig a Reform", gan gyfeirio at yr ymadrodd enwog gafodd ei ddefnyddio gan Rhodri Morgan i esbonio'r gwahaniaeth rhwng y blaid Lafur ym Mae Caerdydd a Llafur yn San Steffan.

"Cwlt personoliaeth un dyn ydyn nhw. Rydyn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn dîm unedig.

"Maen nhw'n gwmni cyfyngedig, rydyn ni'n blaid wleidyddol broffesiynol.

"A lle maen nhw'n cynnig sloganau, rydyn ni'n cynnig atebion cadarn."

Fe fydd Mr Millar hefyd yn sôn am Blaid Cymru, gan honni eu bod wedi cydweithio'n agos gyda Llafur ers blynyddoedd, gan nodi fod "methiannau Llafur yn fethiannau Plaid hefyd".

Y Ceidwadwyr yw'r wrthblaid fwyaf yn y Senedd ar hyn o bryd, ac maen nhw'n awyddus i bortreadu eu hunain fel dewis realistig i ffurfio'r llywodraeth nesaf.

Fe fydd cyfres o newidiadau yn cael eu cyflwyno yn yr etholiad nesaf, sy'n debygol o adlewyrchu'n well y gyfran o'r pleidleisiau i bob plaid.

Mae hynny'n golygu, oni bai bod canlyniad syfrdanol, ei bod hi'n debygol y bydd raid i bleidiau gydweithio er mwyn ffurfio'r llywodraeth nesaf.

Gallai hynny fod mewn clymblaid, neu mewn cytundeb llai ffurfiol.

Dywedodd Darren Millar ddydd Gwener ei fod yn fodlon "gweithio gydag unrhyw un i gael gwared â'r llywodraeth Lafur".

Fe amlinellodd gyfres o bolisïau, gan gynnwys addewid i leihau arosiadau am driniaeth y GIG i ddim mwy na 12 mis.

Pynciau cysylltiedig