Adfer gardd furiog hanesyddol sydd mewn perygl o fynd yn angof

- Cyhoeddwyd
Bydd gardd furiog hanesyddol o'r 18fed ganrif, sydd mewn perygl o fynd yn angof, yn cael ei thrawsnewid gyda £1.2m o arian loteri.
Bu'r ardd yn Abergwili ger Caerfyrddin yn tyfu ffrwythau a llysiau i Esgob Tyddewi ar un cyfnod.
Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn sydd wedi bod yn gyfrifol am adfer Parc yr Esgob ers 2017, gan dderbyn cefnogaeth ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer y prosiect fydd yn rhedeg am 30 mis.
Bydd tri thŷ gwydr hanesyddol yn cael eu hailadeiladu ynghyd â bwthyn neu loches garddwr fel rhan o brosiect yr ardd, a oedd ar un adeg yn rhan o ystad yr esgob.

Mae'r ardd yn Abergwili ger Caerfyrddin
Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd yr ardd furiog yn cynnal digwyddiadau cymunedol ac addysgol ynghyd â pherfformiadau cyhoeddus.
Dywedodd rheolwr y prosiect, Louise Austin, fod y prosiect yn ymwneud â "dysgu o'r gorffennol wrth greu rhywbeth ystyrlon ar gyfer y presennol".
"Rydym eisiau i ymwelwyr a gwirfoddolwyr fel ei gilydd deimlo cysylltiad personol â'r lle hwn, ac i dynnu ysbrydoliaeth a phrofiadau all gyfrannu at eu bywydau heddiw."

Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd yr ardd furiog yn cynnal digwyddiadau cymunedol a pherfformiadau cyhoeddus
Mae cynlluniau hefyd i greu "archif fyw" o'r rhai a weithiodd yn yr ardd dros y canrifoedd.
Mae dyddiaduron Gwenonwy Davies (1887-1981), merch hynaf yr Esgob John Owen a fagwyd yn y palas, yn awgrymu bod pinafalau wedi cael eu tyfu yn yr ardd yn y gorffennol.
"Fe wnaethon ni dyfu pinafal am flynyddoedd," ysgrifennodd.
"Hefyd, roedd gennym ni dŷ gwinwydd hyfryd, wedi'i rannu'n ddwy ran felly roedd dilyniant o rawnwin yma. Mewn rhan arall, roedd tegeirianau a llawer o redyn gwallt morwyn yn tyfu."

Bydd tri thŷ gwydr hanesyddol yn cael eu hailadeiladu ynghyd â bwthyn neu loches garddwr
Ers 2018, mae'r ymddiriedolaeth wedi bod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i glirio sbwriel a thyfiant, plannu coed ffrwythau newydd, a cheisio gwneud yr ardd furiog yn lle defnyddiadwy a chynhyrchiol.
Mae'r cynllun adfer hefyd wedi derbyn cyllid cyfatebol o £300,000 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, £150,000 gan Sefydliad Garfield Weston, £100,000 gan ddyngarwr treftadaeth o Gymru a £20,000 gan y Pilgrim Trust. Mae cyfanswm gwerth y prosiect tua £2m.
Dyma ail ran y gwaith o adfer Parc yr Esgob - roedd rhan gyntaf y gwaith yn cynnwys creu canolfan ymwelwyr a chaffi poblogaidd sydd bellach yn "galon y gymuned ar gyfer ymwelwyr".

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn, Betsan Caldwell, fod y cynlluniau yn hynod o gyffrous, ond mai'r hyn fydd yn bwysig fydd codi incwm ar gyfer yr elusen.
"Mae gynnon ni weledigaeth reit gyffrous - mae hon mewn ffordd wedi bod yn ardd gyfrinachol a neb llawer wedi cael mynediad oherwydd ei chyflwr."

Gobaith Betsan Caldwell yw y bydd yr ardd yn cynnal digwyddiadau amrywiol
"Y gobaith ydy y byddwn ni'n cychwyn y gwaith rŵan a bod ni'n agor yr ardd furiog yma i'r cyhoedd yn 2027.
"Y bwriad ydy bod e'n mynd i fod yn safle amlbwrpas - yn cynnig pob math o weithgareddau, digwyddiadau, theatr awyr agored, hyfforddiant garddwriaethol a chyfle i greu incwm ar gyfer yr elusen gyda dathliadau fel priodas ayb.
"Gan ein bod yn barc agored ni ddim yn gallu codi tâl mynediad a hwn yw'r unig safle lle mae un mynediad ac mae digwyddiadau yn mynd i fod yn bwysig o ran codi incwm - bydd un o'r tai gwydr yn addas ar gyfer hynny."
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2021
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.