Merch fu farw yn Sir Gâr 'wedi'i chanfod yn anymwybodol mewn bath'

Llangynnwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Langynnwr ar 20 Chwefror gan y gwasanaeth ambiwlans

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth merch bedair oed o Sir Gaerfyrddin wedi cael ei agor a'i ohirio.

Dywedodd swyddog y crwner, Hayley Rogers wrth y cwest yn neuadd y dref Llanelli ddydd Llun bod yr heddlu wedi derbyn galwad gan y gwasanaeth ambiwlans am 17:59 ddydd Iau, 20 Chwefror.

Roeddwn nhw'n galw am gymorth i ferch bedair oed oedd yn cael ataliad ar y galon.

Cafodd y ferch - Cali Marged Lewis-Mclernon - ei darganfod yn anymwybodol mewn bath yn ei chartref yn Llangynnwr.

Fe gafodd ei chludo i Ysbyty Glangwili ond er gwaethaf ymdrechion tîm meddygol yno i'w hachub, bu farw am 02:45 y diwrnod canlynol.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn yr ysbyty ar 28 Chwefror, ond maen nhw'n aros am ymchwiliad pellach.

Mae ymchwiliad ac ymholiadau'r heddlu'n parhau.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys arestio dynes 41 oed y diwrnod canlynol ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd yn dilyn marwolaeth y plentyn.

Mae'r ddynes bellach wedi cael ei rhyddhau tra bod yr heddlu'n ymchwilio ymhellach i'r mater.

Cafodd y cwest ei ohirio tan 30 Mehefin.

Pynciau cysylltiedig