Gwrthdrawiad trên Powys: System argyfwng 'wedi methu'

Y ddau drên ar y cledrau wedi'r gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiad yr RAIB yn nodi fod y ddau drên oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad yn symud ar y pryd

  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad i wrthdrawiad rhwng dau drên ym Mhowys yn awgrymu bod system argyfwng ar frêcs un o'r trenau wedi methu.

Bu farw dyn 66 oed yn y digwyddiad ger Llanbrynmair ar 21 Hydref, tra bod 15 o bobl eraill wedi eu trin yn yr ysbyty am anafiadau - pedwar ohonynt am anafiadau difrifol.

Yn ôl y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB), mae ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu nad oedd y system sy'n rhyddhau tywod er mwyn arafu cerbydau sy'n llithro wedi gweithio ar y trên oedd yn teithio o Amwythig i Aberystwyth.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi fod y ddau drên oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad yn symud ar y pryd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 19:29, ar ôl adroddiadau o ddamwain cyflymder isel ger Llanbrynmair.

Cafodd pedwar o bobl eu hanafu'n ddifrifol ac roedd angen triniaeth ysbyty ar 11 arall, gan gynnwys aelodau o staff y trên.

Roedd cyfanswm o 41 o deithwyr ar y ddau drên ar y pryd.

Bu farw Tudor Evans, oedd yn 66 oed o Gapel Dewi ger Aberystwyth, wedi'r gwrthdrawiad.

Roedd yn teithio ar y trên o Amwythig i Aberystwyth, a chlywodd cwest i'w farwolaeth fod ei wraig wedi adnabod ei gorff yn swyddogol yn y fan a'r lle.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain bellach wedi ymddiheuro i'w deulu yn dilyn cyhuddiadau eu bod wedi methu â chefnogi’r teulu.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cwest i farwolaeth Tudor Evans i agor a'i ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal

Mae'r adroddiad i'r digwyddiad, a gafodd ei gyhoeddi fore Mawrth, yn nodi fod y trên oedd yn teithio o Amwythig i Aberystwyth fod i stopio yn Nhalerddig er mwyn gadael i'r ail drên fynd heibio.

Ond mae dadansoddiad o'r data gafodd ei gofnodi yn y trên yn dangos fod y gyrrwr wedi ceisio arafu wrth agosáu at Dalerddig, ond tua 40 eiliad yn ddiweddarach fe wnaeth o ddefnyddio'r brêc argyfwng.

Awgryma'r data hefyd fod olwynion y trên wedi dechrau llithro pan ddechreuodd yr arafu, a bod y llithro wedi parhau drwy'r brecio argyfwng hefyd.

Er bod y cerbydau wedi arafu wrth basio Talerddig ni ddaeth y trên i stop, ac ar ôl teithio tua 900m wedi'r man stopio fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

'Pibelli wedi eu rhwystro'

Mae'r RAIB yn awgrymu fod y trên i Aberystwyth yn teithio ar gyflymder o rhwng 15mya a 24mya pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, tra bod yr ail drên - oedd yn teithio o Fachynlleth i Amwythig - yn teithio ar gyflymder o 6mya.

Ond mae'r RAIB yn pwysleisio eu bod yn dal i ddadansoddi data yn ymwneud a chyflymder y gwrthdrawiad ar hyn o bryd, ac nad yw'r darganfyddiadau hyn yn rai terfynol.

Daeth i'r amlwg yn dilyn archwiliad o'r system argyfwng sy'n rhyddhau tywod er mwyn arafu cerbydau sy'n llithro, fod y pibelli ar y trên i Aberystwyth wedi eu rhwystro, a'u bod wedi methu â rhyddhau tywod.

Mae ymchwiliadau'r RAIB yn parhau.

Yn ôl asiantaeth newyddion PA, mae ffrind agos i deulu Mr Evans, nad oedd am gael ei enwi, wedi galw am ymchwiliad annibynnol i'r digwyddiad.

"Mae'r adroddiad yn gwbl glir bod methiannau gyda'r systemau.

"Mae'n bryder mawr bod hyn wedi digwydd.

"Yn sgil yr adroddiad cychwynnol, dwi'n galw am ymchwiliad gwbl annibynnol, o bosib ymchwiliad cyhoeddus, sy'n edrych ar bob elfen o'r ymchwiliad a beth aeth o'i le."

'Aros am y casgliadau llawn'

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail: "Wedi'r gwrthdrawiad ym Mhowys ar 21 Hydref 2024, mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi cydweithredu'n llawn ag ymchwiliadau Heddlu Trafnidiaeth Prydain a'r RAIB.

"Gyda'r ymchwiliadau hynny yn parhau, byddwn yn dal i weithio gydag ymchwilwyr er mwyn deall yn union beth ddigwyddodd tra'n aros am y casgliadau llawn a'r argymhellion.

"Diogelwch yw'r flaenoriaeth i ni, ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr, ac rydyn ni wedi cynnal gwiriadau manwl ar y trenau a'r rheilffyrdd er mwyn sicrhau bod modd ailagor lein y Cambrian ar 28 Hydref.

"Ar y pwynt yma yn yr ymchwiliad mae'n hanfodol ein bod yn aros i dderbyn yr adroddiad llawn, a'n bod yn dangos sensitifrwydd tuag at y cwsmeriaid, cydweithwyr, y gymuned leol a'r teuluoedd gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad yma."

Pynciau cysylltiedig