Ysbytai nid 'spreadsheets' sy'n dangos heriau'r GIG, meddai BMA Cymru

Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mynnodd Jeremy Miles ei fod yn ymweld yn gyson ag ysbytai ac adrannau brys

  • Cyhoeddwyd

Dylai'r ysgrifennydd iechyd Jeremy Miles ymweld â mwy o ysbytai yn hytrach na "gwneud penderfyniadau gyda spreadsheets," yn ôl cadeirydd y corff sy'n cynrychioli meddygon.

Dywedodd Dr Iona Collins, o BMA Cymru, fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru angen ei redeg "yn fwy effeithiol", gyda'r sefyllfa'n gwaethygu o ddydd i ddydd.

Daeth 'digwyddiad argyfwng' y gwasanaeth ambiwlans i ben ar 1 Ionawr, ond mae "cynnydd sylweddol" yn achosion ffliw yn benodol wedi ychwanegu ar faich ysbytai sydd eisoes dan bwysau, meddai Dr Collins.

Dywedodd Mr Miles ei fod yn "ymweld yn gyson gydag ysbytai ac adrannau brys" a bod "paratoadau sylweddol" wedi bod yn y gwasanaeth iechyd am y gaeaf.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd yr ysgrifennydd iechyd bod "cyfuniad o bwysau ar y gwasanaeth a chynnydd sylweddol iawn yn bobl sy'n diodde' gyda ffliw" dros y gaeaf.

"Beth y'n ni wedi gweld dros yr wythnosau diwethaf yw cynnydd sylweddol iawn mewn lefelau ffliw ac anhwylderau anadlu sy' wedi golygu bod mwy nag erioed o alwadau coch i'r gwasanaeth ambiwlans," meddai Mr Miles.

"Ac ar y llaw arall, gofynion rheoli heintio yn yr ysbytai oherwydd bod cynnydd yn y ffliw, a chyfuniad o'r ddau beth yna wedyn yn rhoi pwysau ar y gwasanaethau yn gyffredinol, ond yn benodol ar y gwasanaeth ambiwlans, ac wedyn pobl yn gorfod aros yn hir."

Ychwanegodd fod llai o bobl wedi derbyn y brechiad ffliw eleni, sydd wedi cynyddu'r pwysau ar ysbytai a'r gwasanaeth ambiwlans.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i fwy o bobl gael y brechiad ffliw i leihau'r straen, meddai Dr Iona Collins

Yn siarad ar yr un rhaglen, dywedodd Dr Iona Collins bod "pobl yn ofnus o ddod i ysbytai" oherwydd y straen sydd ar y gwasanaeth iechyd.

Roedd hi'n cydnabod bod angen i fwy o bobl gael y brechiad ffliw i leihau'r straen.

Ychwanegodd bod angen i arian y GIG gael ei wario'n fwy effeithiol, gan flaenoriaethu achosion brys dros gwtogi rhestrau aros.

Dywedodd y dylai Jeremy Miles a'r "pobl mewn grym" ddibynnu llai ar y ffigyrau ac ymweld ag ysbytai i weld y sefyllfa drostyn nhw'u hunain.

Ymatebodd Mr Miles: "Fi'n ymweld yn gyson gydag ysbytai ac adrannau brys... Ni wedi cael amryw o drafodaethau gyda meddygon sy'n esbonio'n glir ac yn dangos beth yw'r pwysau.

"Yr hyn rwy' i eisiau gwybod wastad yn y trafodaethau yw beth allwn ni newid er mwyn sicrhau bod ni'n cefnogi ysbytai yn well neu beth all ysbytai newid er mwyn cefnogi'r cyhoedd yn well - mae'r trafodaethau hynny yn [rhai] cyson iawn."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae tymor y ffliw wedi dechrau'n gynt na'r eleni gan gynyddu'r pwysau ar y GIG

Dadansoddiad Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke

Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru dan bwysau gydol y flwyddyn, ond yn draddodiadol mae'r straen yn cynyddu ymhellach ar ôl y Nadolig ac yn ystod wythnosau cyntaf y flwyddyn newydd

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, mae'r ffaith fod y tymor ffliw wedi dechrau'n gymharol gynnar eleni, gyda thua 900 o gleifion mewn ysbytai â'r feirws yn ôl y ffigyrau diweddaraf, yn golygu fod y pwysau wedi bod yn fwy na'r disgwyl.

Ond mae'r gwasanaeth iechyd wedi gorfod ymdopi â lefelau uwch o ffliw yn y gorffennol, felly ai diffyg cynllunio sy'n gyfrifol?

Mae Jeremy Miles yn gwadu hynny, gan ddweud fod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £180m o ddechrau'r flwyddyn ariannol er mwyn sicrhau fod y gwasanaeth iechyd mewn sefyllfa gryfach i ddelio â heriau'r gaeaf.

Ei ddadl, yn y bôn, yw y gallai'r sefyllfa bresennol fod wedi bod cymaint â hynny'n waeth heb y buddsoddiad.

Eto i gyd, yn ystod gaeaf lle mae'r gwasanaeth ambiwlans eisoes wedi gorfod datgan argyfwng a lle mae unedau brys ysbytai a gwasanaethau fel meddygfeydd a fferyllfeydd yn ymddangos dan straen parhaol, y cwestiwn yw: a yw hyn yn dangos system sy'n methu delio â heriau'r gaeaf bellach. beth bynnag yr amgylchiadau?