Llai o bobl yn derbyn brechiad ffliw yn ychwanegu at bwysau ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffaith bod llai o bobl wedi cael brechlyn rhag y ffliw eleni wedi arwain at gynnydd mewn achosion, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).
Y gred yw y bydd nifer yr achosion yn cyrraedd uchafbwynt yn ystod yr wythnosau nesaf, gan ychwanegu at faich ysbytai sydd eisoes dan bwysau.
Mae llai o bobl oedrannus a gweithwyr gofal iechyd wedi derbyn brechlyn o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd, yn ôl cyfarwyddwr yr ICC Dr Giri Shankar.
"Mae'r darlun presennol yn awgrymu bod cynnydd yng ngweithgarwch firysau anadlol tymhorol (RSV)," meddai.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2024
Dywedodd Dr Shankar fod ffigyrau'n awgrymu bod achosion RSV eisoes wedi cyrraedd y brig, tra bod niferoedd Covid yn parhau i fod yn "sefydlog".
Er hyn, dywedodd hefyd fod disgwyl i nifer yr achosion o'r ffliw godi ymhellach a bod "cyfraddau yn uwch o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd".
"Rydym yn amlwg yn poeni am y cynnydd mewn achosion o'r ffliw," meddai.
"Rydym yn deall fod y ffliw yn gallu bod yn arbennig o ddifrifol i unigolion sydd â rhai cyflyrau meddygol, yn enwedig pobl ifanc iawn neu bobl mewn oed."
Ychwanegodd mai "brechu yw'r ymyriad pwysicaf a all amddiffyn pobl, unigolion, teuluoedd a chymunedau".
Ddim yn rhy hwyr i gael brechiad
Er hyn, dywedodd Dr Shankar nad oedd y nifer a dderbyniodd brechlyn eleni "cystal ag y byddem wedi hoffi iddo fod".
"Mae'r nifer sy'n derbyn brechiad ffliw (ymhlith y rhai dros 65 oed) rhwng 65-70% ar draws gwahanol fyrddau iechyd Cymru. Tua 73% oedd y ffigwr y llynedd.
"Yn yr un modd, mewn gweithwyr gofal iechyd, ar hyn o bryd mae'n 27%. Roedden ni tua 33% y llynedd."
Awgrymodd y gallai'r ffaith fod llai o weithwyr gofal iechyd wedi derbyn brechlyn ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau os yw staff yn treulio amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch.
"Rydym yn annog pobl sy'n gymwys i ddod ymlaen a chymryd y brechlyn," ychwanegodd.
"Nid yw fyth yn rhy hwyr i gymryd y brechlyn o fewn y tymor, a bydd y brechlyn sy'n cael ei gymryd nawr hefyd yn cynnig amddiffyniad sylweddol am weddill y tymor."