Cofnodi'r ganran isaf o siaradwyr Cymraeg ers 12 mlynedd

CymraegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd plant a phobl ifanc 3 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg nag unrhyw grŵp oedran arall

  • Cyhoeddwyd

Roedd 828,600 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025, yn ôl yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth (ABB).

Dyma'r ganran isaf i'w chofnodi ers Medi 2013, sef 26.9% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Mae'r amcangyfrif diweddaraf tua 1.1% yn is na'r flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024 pan amcangyfrifwyd fod 28.0% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad yr iaith.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn gweithio ar amrywiaeth eang o gamau i gyflawni ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac i gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio eu Cymraeg".

"Mae hyn yn cynnwys Bil y Gymraeg ac Addysg a basiwyd yn ddiweddar, ein hymateb i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg... gwersi Cymraeg am ddim i bobl rhwng 16 a 25 oed, a chynyddu'r dechnoleg iaith Gymraeg sydd ar gael," meddai'r llefarydd.

Mae targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi'i seilio ar ddata'r cyfrifiad.

Mae nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng nghyfrifiad 2001, 2011 a 2021 yn 582,400, 562,000 a 538,300 yn y drefn honno.

Mae'r ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos:

  • Roedd plant a phobl ifanc dair i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (46.9%, 228,900) nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae hyn yn gyson dros amser ond mae canran y plant a phobl ifanc dair i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.

  • Yng Ngwynedd (89,000), Sir Gaerfyrddin (86,400) a Chaerdydd (78,900) y mae'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg.

  • Ym Mlaenau Gwent (7,800) a Merthyr Tudful (9,700) y mae'r niferoedd isaf.

  • Yng Ngwynedd (72.7%) ac Ynys Môn (62.5%) y mae'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.

  • Ym Mlaenau Gwent (11.6%) a Rhondda Cynon Taf (14.4%) y mae'r canrannau isaf.

  • Adroddodd 13.8% (423,900) o bobl dair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.3% (161,800) yn wythnosol a 6.7% (205,400) yn llai aml. Dywedodd 1.2% (36,800) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 73.1% yn gallu siarad Cymraeg.

  • Dywedodd 31.2% (958,600) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 23.9% (735,400) ddarllen yn Gymraeg a 21.6% (665,500) ysgrifennu'n Gymraeg.

Beth ydy'r arolwg blynyddol?

Mae'r llywodraeth yn ystyried mai'r cyfrifiad o'r boblogaeth ydy'r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ond yn cydnabod bod yr arolwg "yn ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau".

Mae'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau.

Esboniodd y Swyddfa Ystadegau wrth y BBC mai'r sampl ar gyfer y cwestiynau ar yr iaith Gymraeg y tro hwn oedd 15,180, gyda 4,195 o bobl yn ateb 'ydw' a 10,984 'nac ydw' i'r cwestiwn ar y gallu i siarad Cymraeg.

Mae'r arolwg yn "ystadegau swyddogol" ond ddim yn "achrededig".

Mae'r arolwg wedi gweld gostyngiad ym maint y sampl dros y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn. Fodd bynnag, nodwch yr ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r ABB".