Defnyddiwr cadair olwyn 'wedi aros dros ddegawd am gartref parhaol'

Mae Tom Weaver yn eistedd yn ei gadair olwyn yn ei ystafell fyw yn edrych i mewn i'r camera ac yn gwenu. Mae ganddo wallt gwyn byr ac mae'n gwisgo crys-t coch. Yn y cefndir mae cabinet pren gyda drysau gwydr.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Weaver yn dweud ei fod ansicr iawn ynglŷn â'i ddyfodol

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-filwr sydd wedi treulio dros ddegawd ar restr aros am gartref cymdeithasol yn dweud bod yr ansicrwydd wedi cael "effaith fawr" ar ei iechyd meddwl.

Mae Tom Weaver, o Ben-y-bont ar Ogwr, yn byw mewn llety dros dro sy'n cael ei redeg gan elusen digartrefedd The Wallich, ac oherwydd yr addasiadau sydd eu hangen arno fel defnyddiwr cadair olwyn, mae wedi ei chael yn anodd dod o hyd i gartref parhaol.

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r hyn y mae e'n ei alw'n "ddiffyg sylweddol o lety addas" ar gyfer unigolion a theuluoedd.

Mae disgwyl i Fil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) gael ei gyhoeddi yn y Senedd ddydd Llun, sydd, yn ôl y llywodraeth, yn "gam hanfodol" i ddod â digartrefedd yng Nghymru i ben.

'Byddai cael cartref parhaol fel ennill y loteri'

Fe gafodd Mr Weaver waedlif ar yr ymennydd yn 2012 a arweiniodd ato'n cael ei barlysu ar ei ochr chwith a'i adael yn rhannol ddall.

Mae'n defnyddio cadair olwyn drydanol bellach.

Ar y pryd, fe wnaeth yr awdurdod lleol addasu ychydig ar ei gartref ond ers hynny mae wedi gorfod symud sawl gwaith.

Ar ôl bod ar y rhestr aros, sylweddolodd Mr Weaver nad oedd llawer o'r tai'n addas.

"Dwi wedi bod mewn tai ble dydw i ddim yn gallu troi i mewn i'r ystafell ymolchi na'r ystafell wely," meddai.

"Mewn un tŷ doeddwn i ddim yn gallu mynd i mewn i'r gegin gyda chadair olwyn drydanol. Roedd wedi ei ddylunio mor wael ond ar bapur roedd e'n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn."

Llun o Tom Weaver yn ei gadair olwyn drydanol yn ei gegin, gyda'i gefn i'r camera. Mae cabinet i'w weld ar y dde, gyda sinc y gegin, peiriant golchi a chownter o'i flaen.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Weaver yn dweud ei fod wedi cael cynnig tai sydd ddim yn addas

Mae Mr Weaver wrth ei fodd yn ei gartref presennol, a gafodd ei gynnig iddo gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac sy'n cael ei reoli gan The Wallich, ond mae'n poeni am y dyfodol.

"Ar ôl 13 mlynedd byddai cael cartref parhaol ble gallaf osod gwreiddiau fel ennill y loteri," meddai.

Mae Mr Weaver yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i'r afael â'r hyn a ddisgrifiodd fel "diffyg sylweddol o lety addas, yn gyffredinol, nid yn unig i mi ond i deuluoedd".

Llun o Reece Moss Owen yn eistedd yn yr haul. Mae Reece yn gwisgo crys-t gwyn
Disgrifiad o’r llun,

"Mae cael tŷ rhent yn anodd i bobl ifanc" meddai Reece

Mae Reece Moss Owen yn 21 oed ac yn byw mewn fflat gyda chefnogaeth elusen GISDA yng Nghaernarfon.

Er bod Reece ar frig y rhestr fel blaenoriaeth, mae wedi bod yn aros i gael llety gyda'r cyngor ers dwy flynedd a hanner.

"Mae cael tŷ rhent yn gymaint o broblem anodd i bobl ifanc achos does dim digon o dai'n cael eu creu" meddai Reece.

"Ti'n sbïo fatha blynyddoedd yn ôl ac oedd digon o dai'n cael eu hadeiladu, ond nawr does dim digon o dai'n cal eu creu - nunlla'n agos i faint sydd eu hangan."

Mae data ar gais Rhyddid Gwybodaeth yn flaenorol wedi canfod bod 139,000 o bobl yng Nghymru'n aros am gartref cymdeithasol ar ddiwedd 2023. Ond, mae hynny'n debygol o fod yn amcangyfrif rhy isel.

Yn ôl StatsCymru roedd yna 11,057 o bobl ddigartref yn byw mewn llety dros dro ym mis Chwefror 2025.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth ddydd Llun y mae'n dweud y bydd yn trawsnewid y ffordd mae Cymru'n ymateb i ddigartrefedd.

Bydd Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Trawsnewid y system ddigartrefedd yng Nghymru fel ei bod yn canolbwyntio ar adnabod ac atal yn gynharach.

  • Targedu camau gweithredu at y rhai sydd fwyaf mewn perygl. Yn benodol, darparu'r cyfle i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc sy'n gadael gofal.

  • Canolbwyntio ar ymateb amlasiantaeth i ddigartrefedd, gan ddod â gwasanaethau cyhoeddus Cymru ynghyd i ymateb i achosion a chanlyniadau amrywiol digartrefedd.