Cyngor Wrecsam wedi methu cydymffurfio â safonau'r Gymraeg

Canolfan Hamdden Byd DŵrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y comisiynydd nad oedd y cyngor wedi asesu'r gofynion ieithyddol ar gyfer swydd athro nofio yng Nghanolfan Hamdden Byd Dŵr

  • Cyhoeddwyd

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod Cyngor Sir Wrecsam wedi methu â chydymffurfio â safonau'r Gymraeg wrth hysbysebu swyddi mewn canolfan hamdden.

Nododd adroddiad gan swyddfa'r comisiynydd nad oedd wedi ei "argyhoeddi bod y cyngor wedi asesu'r gofynion ieithyddol ar gyfer y swydd athro nofio".

Ychwanegodd fod hynny'n wir hefyd am swyddi eraill sy'n cael eu hysbysebu gan gwmni Freedom Leisure, sy'n darparu gwasanaethau hamdden ar ran y cyngor.

Mae'r cyngor wedi methu â chydymffurfio a sawl safon arall hefyd, yn ôl yr adroddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam: "Byddwn yn gweithio gyda Freedom Leisure a Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod mesurau newydd yn cael eu cyflwyno a bod y wefan yn cydymffurfio o fewn yr amserlen y cytunwyd arni."

'Saesneg yn unig i'w weld'

Dechreuodd y comisiynydd ymchwiliad yn dilyn cwyn oedd yn codi amheuon nad oedd y cyngor yn asesu'r angen am sgiliau Cymraeg ar gyfer swyddi yng Nghanolfan Hamdden Byd Dŵr yn y ddinas.

Nododd hefyd nad oedd hysbysebion am swyddi athrawon nofio yn nodi categori iaith ar gyfer y swyddi.

Dywed adroddiad y comisiynydd fod hyn yn codi amheuaeth nad ydy'r cyngor yn datgan, wrth hysbysebu swyddi, fod modd caniatáu ceisiadau yn Gymraeg.

Ychwanegodd adroddiad y comisiynydd fod amheuaeth hefyd "nad yw'r tudalennau gwefan sy'n berthnasol i hysbysebion swyddi, gan gynnwys y ffurflenni cais ar-lein, yn cydymffurfio gyda'r safonau gan fod testun Saesneg yn unig i'w weld".

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg fod hynny'n "siomedig", gan ychwanegu: "Fe ddylai gwefan sy'n cael ei darparu gan Freedom Leisure ar ran y cyngor fod yn cydymffurfio yn llawn gan ei fod wedi bod yn destun ymchwiliad gennyf fwy nag un waith yn y gorffennol, a chamau gorfodi penodol wedi eu gosod i fynd i'r afael â'r broblem".

Dysgu nofioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid oedd hysbysebion am swyddi athrawon nofio yn nodi categori iaith ar gyfer y swyddi

Dywedodd y cyngor mai Freedom Leisure sy'n gyfrifol am sicrhau bod y wefan yn cydymffurfio â'r safonau o dan y cytundeb sydd rhyngddyn nhw, a bod y rheolwr marchnata yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i'r wefan.

Mewn perthynas â'r ffurflenni cais sy'n ymddangos yn Saesneg yn unig ar y wefan, dywedodd y cyngor nad oes modd cael fersiwn Cymraeg a bod Freedom Leisure yn defnyddio cwmni allanol i'w darparu.

Mae camau gorfodi bellach wedi eu gosod ar y cyngor, gan gynnwys sicrhau bod ffurflenni cais ar-lein sy'n cael eu darparu gan y trydydd parti ar gael yn Gymraeg.

Mae amserlen gweithredu ar gyfer cyflawni'r camau gorfodi yn amrywio.

'Sgiliau Cymraeg yn amlwg yn fantais'

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith: "Wrth ddarparu gwersi nofio, ac yn wir holl weithgareddau hamdden yng Nghymru, mae sgiliau Cymraeg yn amlwg yn fantais i'r gweithlu, p'unai a oes dyletswydd statudol i ystyried hynny neu beidio, does dim synnwyr anwybyddu'r Gymraeg yn gyfan gwbl fel sydd wedi digwydd fan hyn."

Ychwanegon nhw fod "sawl cwyn am wersi nofio wedi ei chyflwyno dros y blynyddoedd a'r esgus o hyd yw ei bod yn anodd cael athrawon nofio sy'n siarad Cymraeg".

"Mae'n warthus hefyd bod y cyngor yn gweithredu yn groes i amcanion Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg 2022-2027 ei hun o ran cynyddu defnydd o'r Gymraeg a'r cyfleoedd i fyw bywyd pob dydd yn Gymraeg."

Mewn ymateb i'r sylwadau, dywedodd Cyngor Wrecsam a Freedom Leisure: "Yn ddiweddar, derbyniodd y cyngor hysbysiad o benderfyniad terfynol a chamau gorfodi mewn perthynas â'r broses rheoli swyddi gwag a'r wefan un o'n partneriaid a gomisiynwyd.

"Byddwn yn gweithio gyda Freedom Leisure a Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod mesurau newydd yn cael eu cyflwyno a bod y wefan yn cydymffurfio o fewn yr amserlen y cytunwyd arni.

"Mae'n werth nodi bod y cyngor wedi cynnal cyfres o wersi nofio Cymraeg mewn partneriaeth ag Urdd Fflint a Wrecsam yn gynharach yn 2024 a oedd yn anffodus wedi gorfod dod i ben gan nad oedd hyfforddwyr ar gael bellach".

Pynciau cysylltiedig