Gwleidyddion Llafur yn ymosod ar doriadau i uned mân anafiadau
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidyddion Llafur yn Llanelli wedi beirniadu'r penderfyniad i dorri’n ôl ar wasanaeth dros nos mewn uned mân anafiadau am gyfnod o chwe mis.
Mae'r Aelod lleol o'r Senedd, Lee Waters wedi galw ar arweinydd ei blaid Eluned Morgan i ymyrryd er mwyn gwarchod gwasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip.
Yn ogystal, mae maer Llanelli a'r Aelod Seneddol lleol - sydd hefyd yn aelodau Llafur - wedi codi pryderon am y newidiadau.
Dywedodd y prif weinidog wrth y Senedd fod bwrdd iechyd Hywel Dda wedi methu â recriwtio meddygon cymwys i gefnogi'r uned.
- Cyhoeddwyd26 Medi
- Cyhoeddwyd25 Medi
- Cyhoeddwyd26 Medi
Bydd yr uned ar gau rhwng 20:00 ac 08:00 am chwe mis o 1 Tachwedd, fel rhan o benderfyniad gafodd ei wneud gan benaethiaid Bwrdd Iechyd Hywel Dda yr wythnos diwethaf.
Clywodd y bwrdd mai'r rheswm am y cau dros nos oedd "diffyg sylweddol a pharhaus o ofal meddygol", oedd wedi arwain at bryderon am ddiogelwch cleifion a lles staff.
Cytunodd y bwrdd hefyd i dorri capasiti ward plant yn ysbyty Bronglais Aberystwyth, a chau Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion.
Clywodd Senedd Cymru fod gwersyll protest bellach wedi ei sefydlu y tu allan i Ysbyty Tywysog Philip.
Yn y Senedd ddydd Mawrth, fe ddywedodd Lee Waters fod y bwrdd iechyd wedi addo y byddai gofal dros nos yn cael ei gynnal.
“Ar fyr rybudd a heb unrhyw ymgynghori nac ymgysylltu maen nhw wedi newid eu meddwl nawr.”
Dywedodd nad oedd staff y bwrdd iechyd wedi bod yn gwneud ymdrech weithredol i recriwtio meddygon teulu ac mai "rheolaeth wael o'r uned sy'n digalonni pobl".
Gan alw ar Lywodraeth Cymru i gamu i'r adwy, dywedodd: "Pe bai gwasanaeth heddlu neu dân dros nos yn cael ei dynnu o un o drefi mwyaf Cymru byddwn yn disgwyl ymyrraeth. Dydw i ddim yn gweld pam y dylai gofal iechyd fod yn wahanol."
"Mae'n amlwg nad yw'r bwrdd iechyd yn deall Llanelli os ydyn nhw'n meddwl y bydd pobl yn gadael i hyn fynd."
Wrth ymateb, dywedodd Eluned Morgan ei bod yn deall "y rhwystredigaeth yn llwyr".
"Mae'r bwrdd iechyd wedi ceisio, yn ôl yr hyn dwi'n ei ddeall, i recriwtio meddygon cymwys i gefnogi'r uned ond wedi bod yn aflwyddiannus," meddai.
Clywodd y Senedd fod hyn yn golygu bod yr uned wedi cael ei harwain gan nyrsys, a bod 42 o shifftiau heb eu llenwi ar y rota rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf.
Dywedodd Ms Morgan fod yn rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod gwasanaethau'n ddiogel, ond ei bod yn bwysig eu bod yn gwrando ar y boblogaeth leol.
Ychwanegodd y prif weinidog fod 32% o weithgarwch dros nos yn dod gan bobl â chyflyrau difrifol "na ddylent fod yn dod i uned mân anafiadau mewn gwirionedd".
"Mae'r straen o bobl yn troi lan gyda materion mawr yn achosi nifer sylweddol o absenoldebau. Rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ymarferol ac yn realistig am y sefyllfa."
'Pobl Llanelli sy'n talu'r pris'
Dywedodd Nia Griffith, AS Llafur Llanelli, ar wefan X ei bod yn “bryderus iawn” am y cynigion am yr uned mân anafiadau.
Ar ddiwrnod cyfarfod y bwrdd dywedodd ei bod wedi gofyn pam y gwnaed y penderfyniad cyn ymgynghoriad, a'i bod wedi gofyn am wneud mwy i gadw'r uned yn "barhaol ar agor 24/7".
Mae maer tref Llanelli, y cynghorydd Llafur John Prosser, wedi ysgrifennu at weinidog iechyd Cymru yn galw arno i ymyrryd.
Ysgrifennodd Mr Prosser y llythyr fel ysgrifennydd Save Our Services Prince Philip Action Network (SOSPPAN), grŵp ymgyrchu wnaeth ddweud wrth BBC Cymru eu bod yn "anwleidyddol".
"Mae pobl yn Llanelli yn gandryll," meddai'r maer, "mae'r staff yn gefnogol iawn. Does neb eisiau ei weld yn cau, oherwydd os ydyn nhw'n ei chau yn y nos ni fydd byth yn cael ei hail-agor."
Yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd Cefin Campbell, AS Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, mai'r dewis arall yw teithio i Glangwili yn Sir Gaerfyrddin, neu Dreforys yn Abertawe, gyda'r "ddau eisoes yn wynebu pwysau a galwadau aruthrol ar eu gwasanaethau".
"Methiant i recriwtio mwy o feddygon, cynllunio gweithlu gwael, cyllidebau'n crebachu, dyma fethiannau Llywodraeth Cymru. Ond, yn y pen draw, pobl Llanelli a'r cyffiniau sy'n talu'r pris," meddai.
Dywedodd y prif weinidog fod cyllid y gwasanaeth iechyd wedi cynyddu 4%, o'i gymharu â chynnydd o 1% yn Lloegr.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael cais am sylw.