Dyn yn pledio'n ddieuog i lofruddiaeth yng Nghasnewydd

Lee CreweFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Lee Crewe wedi marw wedi iddo gael ei drywanu

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 21 oed wedi ymddangos mewn llys a phledio'n ddieuog i lofruddio dyn arall yng Nghasnewydd.

Cafodd Lee Crewe, 36, ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Cas-gwent yn y ddinas ar 14 Mai a bu farw yn y fan a'r lle.

Siaradodd David Sisman, a gafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth ddyddiau yn ddiweddararch, ond i gadarnhau ei enw yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener.

Clywodd y llys bod Mr Crewe wedi marw o ganlyniad gael ei drywanu unwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lee Crewe ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Cas-gwent, Casnewydd ar 14 Mai

Cafodd Mr Sisman ei ddychwelyd i'r ddalfa.

Mae disgwyl i'w achos ddechrau ar 28 Hydref, gan bara am saith diwrnod.

Mewn teyrnged gan eu deulu, fe gafodd Mr Crewe ei ddisgrifio fel person "hyfryd, y tu mewn a thu allan".

Ychwanegodd y datganiad bod ganddo "bersonoliaeth heintus oedd wastad yn goleuo'r ystafell".

Pynciau cysylltiedig