'Pensiynwyr yn wynebu tlodi tanwydd os yn dileu budd-dal'

Jane HuttFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jane Hutt ei bod yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU ar drechu tlodi

  • Cyhoeddwyd

Mae "perygl o wthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd" pe bai Llywodraeth y DU yn dileu taliadau tanwydd y gaeaf, yn ôl gweinidog Llafur Cymru.

Daeth sylwadau Jane Hutt mewn ymateb i gwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies.

Cyhoeddodd y Canghellor newydd Rachel Reeves fis diwethaf na fyddai pensiynwyr sydd ddim ar gredyd pensiwn neu fudd-daliadau prawf modd eraill yn cael y taliadau blynyddol mwyach o’r hydref hwn ymlaen.

Dywedodd fod y newid yn ymateb i'r etifeddiaeth economaidd a adawyd iddi.

Galwodd Mr Davies y polisi yn "anfaddeuol".

Cafodd taliadau tanwydd y gaeaf eu cyflwyno ym 1997 i helpu pawb dros oedran pensiwn gyda'u biliau gwresogi gaeaf.

Mae tua 10 miliwn o bensiynwyr yng Nghymru a Lloegr am golli eu taliadau tanwydd y gaeaf - gwerth rhwng £100 a £300 - o ganlyniad i gyhoeddiad Ms Reeves.

Mewn cwestiwn ysgrifenedig i'r Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt, gofynnodd Mr Davies pa ystyriaeth a roddwyd i effaith y penderfyniad.

Yn ei hymateb dywedodd Ms Hutt: "Mae'r penderfyniad na fydd y taliad tanwydd gaeaf yn un cyffredinol bellach yn peryglu gwthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.

“Dyma pam rydw i’n awyddus i weithio’n agos gyda llywodraeth newydd y DU ar ein huchelgais gyffredin o drechu tlodi i ddatblygu ffordd barhaol, effeithiol o amddiffyn aelwydydd mewn angen."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 10 miliwn o bensiynwyr yng Nghymru a Lloegr am golli eu taliadau tanwydd y gaeaf

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helena Herklots wedi disgrifio’r penderfyniad fel un “sy’n peri pryder mawr” ac wedi annog y canghellor i ailystyried.

“Amcangyfrifir bod tua 80,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli allan ar Gredyd Pensiwn er eu bod yn gymwys, sy’n golygu bod pobl hŷn eisoes yn colli allan ar dros £200m y mae ganddynt hawl iddo.

“Byddai penderfyniad y canghellor yn golygu y gallai’r aelwydydd hyn nawr hefyd golli allan ar ddegau o filiynau o bunnoedd yn fwy a allai wneud gwahaniaeth mawr o ran cyllid pobl.”

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.