Taliadau tanwydd: Sioc a dicter am doriadau 'annheg'
- Cyhoeddwyd
Mae Age Cymru wedi disgrifio ymateb pobl hŷn i'r cynllun i dorri ar lwfans taliadau tanwydd y gaeaf fel "sioc" a "dicter".
"Maen nhw wir yn grac," meddai Michael Phillips o'r elusen wrth ymateb ar ôl i Lywodraeth y DU ennill pleidlais ar y mater.
Bydd miliynau o bensiynwyr yn colli'r taliadau o ganlyniad i'r bleidlais honno, a dim ond y bobl dlotaf fydd yn gymwys am y cymorth yn y dyfodol.
Mae Age Cymru yn honni iddyn nhw weld 25% o gynnydd yn nifer y bobl sydd yn cysylltu â nhw am gyngor ariannol, gyda Mr Phillips yn dweud bod "pobl hŷn yn wynebu coctel o heriau".
Dywed Llywodraeth y DU eu bod "methu fforddio talu budd-dal i bensiynwyr mwy cefnog" ac y byddan nhw'n gweithio i adnabod y rhai sy'n gymwys ar gyfer tâl.
Mae Iona David, 80 oed o ardal Meisgyn ger Pont-y-clun, yn dweud ei bod hi'n teimlo'n gryf iawn fod y toriad yn annheg.
Mae hi'n poeni am bobl fydd ar eu colled oherwydd bod eu hincwm cymedrol ychydig yn rhy uchel i fod yn gymwys am y lwfans.
“Mae lot fawr o bobl yn mynd i golli mas," meddai.
"Fi wir yn poeni sut bydd pobl yn ymdopi. A beth am bobl sydd yn sâl â phrobleme y galon neu â gwynegon.
"Mae lot ohonyn nhw yn gorfod eistedd am amser hir a methu cerdded o gwmpas.
"Hefyd mae rhai ar feddyginiaeth sydd yn 'neud nhw deimlo yn oer.”
'Pobl hŷn wedi eu targedu gyntaf'
Dywed Ms David fod pobl hŷn yn teimlo ei bod hi'n annheg bod y taliad iddyn nhw yn cael ei dorri.
"Pobl hŷn sydd wedi eu targedu gyntaf gan y llywodraeth," meddai.
"Maen nhw yn ofnus iawn nawr ac yn becso beth ddaw yn y misoedd nesa', ac a fyddan nhw'n colli hyd yn oed rhagor.
"Mae pobl hŷn yn arfer a bod yn gynnil, ond ma' pendraw i beth allwn ni neud.”
Dywed Age Cymru ei bod hi yn annheg mai dim ond tri mis o rybudd sydd wedi bod am y newid a bod dim digon o amser i bobl hŷn i fedru cynllunio a pharatoi.
Yn ôl Rhian Morgan, swyddog materion cyhoeddus gyda'r elusen: "Ma' pobl wir yn poeni am y gaeaf a sut y byddan nhw'n ymdopi os bydd y taliad yn cael ei dorri.
"Mae rhai pobl â chyflyrau iechyd a thostrwydd sy’n golygu bo' nhw angen cael y gwres 'mlaen - sut fyddan nhw'n ymdopi?
"Ni wedi clywed gan rai pobl y byddan nhw yn gorfod dewis rhwng bwyta neu ddefnyddio ynni.”
'£600 yn llai y gaeaf hwn'
Dywed Liz Kendall, ysgrifennydd pensiynau Llywodraeth y DU eu bod “methu fforddio talu budd-dal i bensiynwyr mwy cefnog", ac mae ei hadran yn gweithio i adnabod y rheiny fydd yn gymwys ar gyfer cefnogaeth.
Mae Age Cymru yn dadlau nad dyma'r unig gefnogaeth sy'n diflannu eleni, a bod hynny'n golygu “y gallai fod gan bensiynwyr £600 yn llai’r gaeaf hwn er bod biliau ynni dal yn ddrud".
Ar hyn o bryd mae'r elusen yn cydweithio â Age UK ar ddeiseb yn gwrthwynebu'r toriad, ac eisoes mae dros hanner miliwn wedi llofnodi, gan gynnwys 18,000 o Gymru.
Yn ôl yr elusen: “Mae y rhan fwya' sydd wedi llofnodi o Gymru yn dweud eu bod yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad i wneud y Taliad Tanwydd gaeaf yn seiliedig ar brawf modd.
"Mae ychydig dan chwarter wedi dweud eu bod ychydig uwchlaw y trothwy i dderbyn credyd pensiwn.”
- Cyhoeddwyd21 Awst 2024
- Cyhoeddwyd22 Awst 2024
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae cynyddu incwm, adeiladu gwytnwch ariannol, a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl yn brif flaenoriaethau.
"Rydym yn buddsoddi £30m eleni yn ein cynllun Nyth - Cartrefi Cynnes i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ar gyfer perchnogion tai ac aelwydydd sy’n rhentu gan landlordiaid preifat.
"Mae cyngor ynni arbenigol am ddim ar gael i bawb sy'n berchen ar, neu'n rhentu tŷ yng Nghymru drwy linell gymorth Nyth.
“Rydym yn annog pobl i gysylltu â llinell gymorth 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' Advicelink Cymru i gael gwybod am y cymorth ariannol y gallent fod â hawl iddo, gan gynnwys credyd pensiwn.”