Beti a'i Phobol: Pedwar peth o sgwrs y chwaraewr rygbi Teleri Wyn Davies

Teleri Wyn DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae rygbi yn y gwaed i Teleri Wyn Davies. Gan ennill pedwar cap dros Gymru a mynd i chwarae ac hyfforddi yn China, mae'r gyfreithwraig o'r Bala yn sôn am ei bywyd a'i gyrfa gyda Beti George ar Beti a'i Phobol.

Yn byw yn Shenzhen erbyn hyn, mae Teleri hefyd yn cofio am ei thad, y diweddar Bryan 'Yogi' Davies, gafodd ei barlysu mewn damwain rygbi yn 2007. Roedd Teleri yn naw mlwydd oed ar y pryd ac mae hi'n siarad am y diwrnod ofnadwy wnaeth newid ei bywyd hi a'i theulu.

Dyma bedwar peth rydyn ni wedi ei ddysgu amdani o'i chyfweliad gyda Beti George ar Beti a'i Phobol.

Teulu: "Dwi'n edmygu Mam yn fawr iawn am bob ddim mae wedi ei wneud i ni, a chadw ni efo'n gilydd."

Mae Teleri yn ferch i Sue a'r diweddar Bryan 'Yogi' Davies o'r Bala. Cafodd ei thad ei barlysu mewn damwain ar y cae rygbi yn 2007. Roedd yn chware yn erbyn Nant Conwy pan dorrodd ei wddf yn ystod ei gêm olaf i dîm y Bala.

Naw oed oedd Teleri ar y pryd, ac mae hi'n cofio'r diwrnod yn glir. Wedi'r ddamwain, cafodd dros £200,000 ei gasglu yn y gymuned a thu hwnt oedd yn galluogi i'r teulu addasu'r cartref er mwyn i Bryan gael byw adref yn hytrach na mewn ysbyty. Bu farw chwe mlynedd wedi'r ddamwain, yn 56 oed.

Meddai Teleri: "Mae'r diwrnod yna, dwi'n gallu gweld o yn fy mhen. Mae o mor ffres. Dwi'n cofio Dad yn gadael y tŷ yn mynd i chwarae gêm rygbi fel bob Dydd Sadwrn arall. A fi'n mynd i'r ganolfan hamdden i nofio gyda'n ffrindiau. A dwi'n cofio cerdded adra ac oedd cymdogion draw yn tŷ ni.

"A dyma nhw'n dweud i fi, 'mae Dad wedi cael damwain, 'da ni'n mynd i edrych ar dy ôl di tan mae Nain a Taid yn cyrraedd o Gaernarfon'.

"Dwi'n cofio gweld yr hofrennydd yn glanio yn y clwb rygbi. Ac yn amlwg naw oed o'n i, ac ar y pryd, doedd gen i ddim math o ddealltwriaeth, o'n i ddim yn ymwybodol fod ffasiwn anafiadau'n gallu digwydd.

"Felly dwi'n cofio'n meddwl, mae'n rhaid bod Dad wedi torri coes, wedi torri braich neu rhywbeth."

Bryan 'Yogi' DaviesFfynhonnell y llun, Teleri Wyn Davies

"Y bore ar ôl y ddamwain, dyma'r papur newydd yn cyrraedd drwy'r drws. Ac ar dudalen flaen y papur newydd, y llun o Dad yn mynd mewn i'r hofrennydd, a fi'n amlwg 'rioed 'di gweld y ffasiwn beth. Felly mae'r diwrnod ei hun, dwi'n cofio fo fel bod o wedi digwydd ddoe, er bod fi mor mor ifanc.

"Nath o adael drwy'r drws y bore yna, a doedd o ddim yn ôl adra am flwyddyn a hanner wedyn. Felly oedd o'n gyfnod hir, ac o edrych yn ôl, rŵan bod fi'n hŷn, dwi'n edmygu Mam gymaint.

"Oedd ganddi blentyn naw oed a phlentyn 11 oed. Oedd hi'n gweithio llawn amser, efo gŵr mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, a ddim ysbyty lawr lôn ond ysbyty oedd dros ddwy awr i ffwrdd.

"Dwi ddim yn gwybod sut 'naeth hi ymdopi efo hynna."

Rygbi yn y gwaed

Teleri Wyn DaviesFfynhonnell y llun, OMEGA
Disgrifiad o’r llun,

Teleri'n chwarae dros Sale

Roedd tad Teleri'n hyfforddi'r tîm ieuenctid yn Y Bala ac awgrymodd fod Teleri yn cychwyn ymarfer gyda nhw yn ifanc iawn.

Rhoddodd hi'r gorau i chwarae am gyfnod wedi damwain ei thad. Ond, wedi iddi benderfynu mynd nôl at y gêm, fe enillodd bedwar cap dros Gymru.

Ond ar ôl ei chap cyntaf cafodd ei gollwng gan Gymru, fel mae'n esbonio: "Dyma nhw'n gofyn i fi os fuaswn i'n newid safle i chwarae rheng flaen.

"Ac yn amlwg, rheng flaen oedd Dad yn chwarae. Ac o'n i wedi addo i Mam buaswn i byth yn chwarae rheng flaen. Dyna'r unig amod oedd fi a'm mrawd i yn cael chwarae rygbi.

"Felly, pryd ofynnodd Cymru i fi newid safle i rheng-flaen, dyma fi'n dweud, 'na sori, dwi ddim yn mynd i chwarae rheng-flaen. Mae'n barch i at Mam yn fwy na fy mharch i at y gêm'.

"Ar ôl y chwe gwlad yn 2018, dyma nhw'n gollwng fi, gan bo' fi wedi gwrthod chwarae rheng-flaen. Ac mae fy mharch i dal efo Mam hyd at heddiw."

Yn ystod cyfnod covid bu Teleri'n chwarae i dîm Sale Sharks pan ddaeth galwad eto gan Gymru, a chwaraeodd eto dros ei gwlad yng ngêm gynta'r Chwe Gwlad yn 2021.

Ar ddiwedd 2021, penderfynodd ymddeol o'r gêm.

Bywyd yn China

Ar ôl graddio yn y gyfraith ym mhrifysgol Bangor bu Teleri'n gweithio fel cyfreithwraig ond erbyn hyn mae'n byw yn China lle mae'n chwarae ac yn hyfforddi rygbi, ac yn gweithio fel athrawes yn dysgu Saesneg i blant bach.

Meddai: "Oedd dod i China yn rhywbeth 'nes i erioed feddwl fuaswn i'n neud. Dim dyma oedd y llwybr o'n i wedi meddwl fyddwn i'n ei gymryd, ond roedd yna rhywbeth tu mewn i mi'n dweud bod rhaid i fi gymryd y llwybr yma.

"Mae o'r peth gorau dwi erioed wedi ei wneud."

Bywyd: "Dim ond unwaith rydyn ni'n byw yn y byd yma"

Mae damwain ei thad wedi cael dylanwad mawr ar feddylfryd Teleri, fel mae'n esbonio: "Mae'n rhaid i ni fyw i bob un munud, cymryd bob cyfle sy'n dod i wneud y gorau o bob sefyllfa, a thrio gweld y da ymhob dim drwg sydd yn digwydd.

"'Dan ni ddim yn gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd fory, 'dyn ni ddim yn gwybod be' sy' rownd y gornel, felly 'dan ni gyd yn gorfod byw i rŵan yn hytrach na byw i fory.

"Mae bywyd wedi bod yn anodd iawn. Gweld Dad yn cerdded allan o'r drws y diwrnod yna, a dod yn ôl adra mewn cadair olwyn, cael dau ofalwr yn y tŷ 24 awr y dydd, wedyn colli Dad yn amlwg.

"Fuaswn i ddim yn pwy ydw i rŵan heb bod hynna i gyd wedi digwydd. Dwi'n teimlo fatha bod o wedi dysgu fi i gymryd bob cyfle sy'n dod tuag ato fi i wneud y mwyaf o bob un profiad ac hefyd i werthfawrogi bywyd yn fwy, gwerthfawrogi teulu, gwerthfawrogi ffrindiau a'r profiadau sydd yn dod efo bywyd.

"'Dach chi'n gorfod cael yr adegau tywyll yma er mwyn gweld y goleuni ar ddiwedd y dydd."

Pynciau cysylltiedig