Taid 'heb daro' ei ŵyr fu farw o niwed i'w ymennydd

Ethan IvesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar 16 Awst 2021

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Mae taid sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei ŵyr dwy oed wedi dweud na wnaeth o erioed daro'r plentyn.

Mae Michael Ives a'i wraig Kerry wedi eu cyhuddo o ladd Ethan Ives yn eu cartref yn Sir y Fflint yn 2021.

Mae eu merch Shannon Ives - mam Ethan - hefyd wedi ei chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i blentyn.

Mae'r tri yn gwadu'r holl gyhuddiadau.

'Byr ei thymer'

Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun, fe ddisgrifiodd Michael Ives sut y byddai'n helpu i ofalu am Ethan.

Yn ôl Mr Ives, roedd Ethan yn fachgen bach tawel, ei fod ond yn medru dweud ychydig eiriau, ac yn dal i ddysgu cerdded pan aeth i fyw gyda'i daid a'i nain ar ei ben ei hun am wythnos ym mis Mehefin 2021.

Yn y llys, fe ofynnwyd i Mr Ives gan ei fargyfreithiwr David Elias KC a wnaeth o erioed daro neu gosbi Ethan yn gorfforol.

"Naddo" atebodd Mr Ives.

Pan ofynnwyd iddo am y cyfnod ar ôl i fam Ethan, Shannon Ives, symud i fyw gyda nhw, fe ddywedodd Michael Ives ei bod hi yn taro ei mab.

Yn ôl Mr Ives, roedd ei ferch Shannon yn "fyr ei thymer" ac fe fyddai'n taro Ethan ar gefn ei ben, gan achosi i'w ben "neidio ymlaen".

Kerry a Michael Ives
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kerry Ives, 46, a Michael Ives, 47, wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr Ethan

Pan fyddai Ethan yn ymateb trwy chwerthin byddai Shannon yn gwylltio ymhellach gan "weiddi a sgrechion" arno, meddai Mr Ives.

Fe aeth Ethan trwy gyfnod ble roedd yn brathu ei wefus hyd nes oedd gwaedu, ychwanegodd.

Byddai Shannon yn ei gosbi trwy ei daro ar ei geg gyda chefn ei llaw, honnodd Mr Ives.

Yn ôl Michael Ives, pan ddywedodd o wrth ei ferch am beidio taro Ethan, ymateb Shannon oedd dweud "meindia dy fusnes".

'Clywed clec'

Fe gafodd Michael Ives ei holi ynglŷn â'r diwrnod cyn i Ethan gael ei daro'n wael.

Fe ddisgrifiodd sut yr oedd yn yr ystafell fyw gyda'i ferch Shannon a bod Ethan yn "cambihafio" ar y llawr.

Wrth i Michael Ives droi i ffwrdd i wneud sigarét, meddai, fe glywodd "glec".

Pan drodd yn ôl i wynebu'r plentyn, roedd Ethan yn gorwedd ar y llawr yn ddiymadferth a Shannon Ives wedi gadael yr ystafell, meddai Mr Ives.

Pan ofynnwyd i Mr Ives beth oedd y sŵn, fe atebodd mai sŵn Ethan yn cael ei daro ydoedd.

Fe alwodd y taid ar ei ferch i ddod yn ôl i'r ystafell cyn mynd at y plentyn a cheisio ei ddadebru.

Fe ddywedodd bod Ethan wedi dod at ei hun ar ôl rhyw ddau neu dri munud.

Cartref nain a taid Ethan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ethan Ives Griffiths ei ddarganfod wedi ei anafu yng nghartref ei nain a'i daid ar Lannau Dyfrdwy yn 2021

Cafodd Mr Ives ei holi ynglŷn â'r diwrnod canlynol pan gafodd Ethan ei gymryd yn wael ar y 14 Awst 2021.

Fe ddywedodd bod ei ferch Shannon wedi mynd i fwydo brecwast i Ethan mewn ystafell wely lawr grisiau.

Pan aeth o i mewn gyda'i ferch arall hanner awr yn ddiweddarach, fe sylwodd ar "farc coch" uwchben llygad y plentyn, meddai Mr Ives.

Gofynnwyd i'r taid yn y llys a wnaeth o godi hyn gyda Shannon Ives ac yn ôl Mr Ives, fe wnaeth o, ac ymateb Shannon oedd dweud bod y plentyn "wedi disgyn".

Fin nos, roedd Michael a'i wraig Kerry Ives yn gwylio'r teledu yn y 'stafell fyw lle'r oedd Ethan yn eistedd ar y llawr.

Fe ddywedodd Mr Ives ei fod wedi ceisio codi Ethan ar ei draed amser gwely ond ei fod wedi dechrau disgyn yn ôl.

"Fe drodd ei goesau'n jeli," meddai Mr Ives wrth y llys.

Fe alwodd ar ei ferch Shannon oedd ar ei ffôn i fyny'r grisiau.

Ar ôl i'w wraig alw'r gwasanaethau brys, fe aeth Mr Ives i nôl diffibriliwr calon.

Shannon Ives
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shannon Ives wedi gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn

Mae'r llys wedi gweld lluniau camerâu cylch cyfyng o Michael Ives yn cario Ethan gerfydd un fraich.

Gofynnodd ei fargyfreithiwr David Elias KC i Mr Ives a oedd hi'n briodol iddo gario'r plentyn fel yna?

"Nac oedd" atebodd Mr Ives.

"Pam y gafaeloch chi yn y plentyn fel yna?" gofynnodd Mr Elias.

"Dwi ddim yn gwybod" atebodd Mr Ives.

Wrth gael ei groes holi gan Owen Edwards - bargyfreithiwr ar ran ei wraig - gofynnwyd iddo lle'r oedd Kerry Ives yn eistedd ar y soffa pan gafodd Ethan ei gymryd yn wael.

Fe ddywedodd bod ei wraig yn eistedd ar ben pella'r soffa oddi wrth y plentyn.

Gofynnodd Mr Edwards a wnaeth Kerry Ives daro Ethan erioed.

"Naddo" atebodd Mr Ives.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig