Pryder am hiliaeth o fewn gwaith cymdeithasol

Jade Forbes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jade Forbes yn dweud bod ei hil yn golygu ei bod hi wedi gorfod gweithio'n galetach i gyrraedd y brig yn ei gweithle

  • Cyhoeddwyd

Mae Jade Forbes yn dweud bod yr hiliaeth mae hi'n ei brofi yn ddyddiol yn ei "llorio".

Fel uwch-weithiwr cymdeithasol, mae sylwadau anwybodus yn rhywbeth mae'n ei brofi'n barhaus.

Mae angen mwy o wybodaeth i fynd i'r afael â hiliaeth o fewn gwaith cymdeithasol, yn ôl y corff sy'n cynrychioli'r gweithlu yng Nghymru.

Rhaid cael mwy o ddata i daclo hiliaeth yn ôl BASW, y corff sy'n cynrychioli'r gweithlu yng Nghymru.

Mae'r corff yn pwysleisio bod angen i Gymru gyhoeddi'r un math o ddata sydd ar gael yn Lloegr.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn dweud ei fod am sicrhau nad oes hiliaeth o fewn y sector.

'Gallu bod yn lle unig iawn'

Mae Jade Forbes hefyd yn awdur gwaith cymdeithasol ac yn gweithio yn y maes ers 13 blynedd.

Pan mae hi wedi profi hiliaeth yn y gweithle, un ai ar lefel fach neu ar lefel fawr, mae wedi effeithio ar ei hiechyd meddwl, ond mae'n dweud nad yw hi'n ystyried ei hun fel dioddefwr.

"Mae'n fy ngwneud i'n eitha' crac am bethau, a theimlo anghyfiawnder," meddai.

"Mae'n gallu bod yn lle unig iawn fel gweithiwr cymdeithasol du yn ceisio mynegi fy rhwystredigaeth am hiliaeth, pan yn aml nad oes ganddyn nhw yr un profiad bywyd."

Mae'n dweud bod angen polisïau cliriach i ddelio gyda hiliaeth.

"Gan fod gennym ni hyfforddiant gorfodol ar bethau fel GDPR ac elfennau mwy biwrocrataidd o'n gwaith, mae'n sicr angen cael mwy o hyfforddiant am hiliaeth," meddai.

"Achos os ydw i'n wynebu hiliaeth fel gweithiwr cymdeithasol yna mae'n rhaid bod arwyddion clir o unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau sy'n profi hiliaeth - un ai'n uniongyrchol neu ynghudd."

Dyw Jade ddim wedi profi unrhyw rwystrau uniongyrchol wrth iddi ddatblygu yn ei gyrfa ond mae'n dweud ei bod wedi gorfod gweithio'n galetach i gyrraedd y brig.

Mae'n dweud mai'r cyfnod caletaf iddi hi oedd wedi marwolaeth George Floyd - y dyn du a gafodd ei ladd gan blismon gwyn ym Minneapolis yn 2020.

Sylwodd Jade bryd hynny ar weithwyr proffesiynol yn gwneud sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol oedd yn mynd yn erbyn symudiad Black Lives Matter.

"Roedd yn heriol iawn am fod consensws ar draws y byd bod hwn yn rhywbeth ofnadwy ac roedd sgyrsiau yn cyfiawnhau gweithredoedd y llofrudd," meddai Jade.

"Ro'n i'n ei weld yn hurt bost ac hefyd roedd yn codi ofn arna i achos mae mab gen i, ac ro'n i'n meddwl os yw pobl broffesiynol yn cyfiawnhau llofruddio dyn du mewn golau dydd ar y stryd, yna dwi'n poeni am ddiogelwch fy mab wrth iddo dyfu a'r ffordd y bydd yn cael ei weld fel dyn du."

Mwy o wybodaeth ar gael yn Lloegr

Mae BASW Cymru yn dweud bod yr hiliaeth sydd wedi ei nodi gan eu haelodau yn digwydd ymhlith staff yn hytrach na chleientiaid.

Dywedodd y corff bod angen mwy o wybodaeth i fynd i'r afael â hiliaeth o fewn gwaith cymdeithasol.

Mae’r corff hefyd yn pwysleisio bod angen i Gymru gyhoeddi'r un math o ddata sydd ar gael yn Lloegr.

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Abyd Quinn Aziz fod angen mwy o ddata i wella'r dealltwriaeth o hiliaeth o fewn y sector cymdeithasol

Yn ôl Abyd Quinn Aziz o BASW Cymru, mae llawer mwy o wybodaeth ar gael yn Lloegr, ac mae’n galw ar Ofal Cymdeithasol Cymru i gyhoeddi mwy er mwyn gwella dealltwriaeth.

“Ryn ni’n gwybod bod hiliaeth yn digwydd, ond mae angen deall sut mae’n digwydd, ble mae’n digwydd ac os yw’r pethau ry'n ni’n eu gwneud yn herio hiliaeth," meddai.

Mae’n dweud bod hiliaeth "yn brifo llawer mwy" pan mae’n digwydd ymhlith cydweithwyr ac o fewn sefydliadau gwaith.

“Yng Nghymru, yn yr 20 mlynedd ddiwethaf dim ond un cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sydd ddim yn wyn sydd wedi bod.

"Dwi ddim yn dweud bod yn rhaid i chi fod yn ddu i ddeall y sefyllfa - rwy’n meddwl bod diffyg hyder a gweithredu cadarnhaol."

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac mae Abyd yn gobeithio y bydd o gymorth, ond mae’n dweud y dylai Gofal Cymdeithasol Cymru edrych yn benodol ar y gweithlu.

Dywedodd bod angen nodi faint o weithwyr cymdeithasol sy’n ddu neu o gefndir ethnig leiafrifol, faint sy’n hyfforddi, faint sy’n llwyddo yn eu hyfforddiant a faint sy'n cael eu dyrchafu.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru, sy’n rheoleiddio’r gweithlu yng Nghymru, yn dweud bod tua 80% o weithwyr cymdeithasol yn wyn a bod y gweddill o amrywiaeth o ethnigrwydd.

Yn ôl y corff mae tua 6% o’r holl weithlu gofal cymdeithasol - sy’n cynnwys gweithwyr cymdeithasol yn ogystal â’r rhai sy’n gofalu am bobl hŷn a phlant - yn ddu, a tua 5% o gefndir Asiaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Price o Gofal Cymdeithasol Cymru eisiau sicrhau gweithlu sy'n adlewyrchu poblogaeth Cymru

Dywedodd Bethan Price o Gofal Cymdeithasol Cymru eu bod nhw’n cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol y llywodraeth.

“Un o’r pethau hoffen ni neud yw sicrhau bo' ni’n cael gweithlu sy’n adlewyrchu’r boblogaeth ma' nhw’n gweithio gyda, sef poblogaeth Cymru," meddai.

“Ma' recriwtio a denu pobl i’r sector yn anodd beth bynnag - 'da ni’n gwybod bod problemau mawr recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol ar draws Cymru."

Ychwanegodd fod angen sicrhau nad y gweithlu rheng flaen yn unig sy’n adlewyrchu’r boblogaeth maen nhw’n gweithio gyda.

“Mae’n bwysig sicrhau bod rheolwyr ac arweinwyr hefyd yn adlewyrchu’r boblogaeth a gwneud yn siŵr bod cyfleoedd i bobl o gefndiroedd gwahanol,” meddai.