20 mlynedd ers i wirfoddolwyr achub 'ased cyhoeddus hollbwysig'

Gwirfoddolwyr lleol sydd wedi bod yn gyfrifol am y toiledau yn Llandrillo ers 2005
- Cyhoeddwyd
Mewn cyfnod pan mae toriadau i gyllidebau cynghorau ar draws y wlad wedi arwain at gau nifer o doiledau cyhoeddus, mae un pentref yn Sir Ddinbych yn nodi 20 mlynedd o gynnal y gwasanaeth yn lleol.
Fe benderfynodd Cyngor Sir Ddinbych i stopio ariannu'r toiledau ym mhentref Llandrillo ger Corwen nôl yn 1998.
Ond, wrth ystyried anghenion y trigolion lleol yn ogystal â'r ffaith bod yr ardal yn boblogaidd iawn ymhlith cerddwyr - daeth y gymuned i'r casgliad fod angen achub y safle.
"Fe wnes i gwblhau astudiaeth dichonoldeb a chynnal ymgynghoriad cymunedol," esboniodd David Robinson, a lansiodd yr ymgyrch i gymryd rheolaeth o'r toiledau ac sy'n ysgrifennydd ar y grŵp sydd dal yn gyfrifol amdanynt.
"Gymerodd hi dair blynedd i ni agor y drysau ar ôl gorffen yr astudiaeth."

Mae David Robinson bellach yn rhannu ei brofiad a'i wybodaeth gyda chymunedau eraill sydd eisiau lansio ymgyrchoedd tebyg
Fe gytunodd y cyngor sir i roi prydles yr adeilad i'r gwirfoddolwyr am 21 mlynedd, ac mae trafodaethau yn digwydd ar hyn o bryd ynglŷn â beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
Mae'r gwirfoddolwyr, gan weithio mewn parau, yn cynnal a chadw a chloi'r toiledau yn eu tro - gyda phob person yn barod i weithio un wythnos ymhob deg.
Mae'r costau cynnal a chadw o thua £1,500 yn cael eu talu drwy gyfuniad o grantiau gan Gyngor Sir Ddinbych, y cyngor cymuned lleol, yn ogystal â rhoddion o ddigwyddiadau lleol a blwch codi arian y tu allan i'r safle.
Yn ddiweddar mae'r arian sy'n cael ei gasglu yn y blwch hwnnw wedi cynyddu, a hynny ers i wyres David Robinson, Gwenllian Roberts, ysgrifennu cerdd fach sy'n cael ei dangos y tu mewn i doiledau'r dynion a'r merched.
"Mae faint o arian 'da ni'n ei dderbyn wedi bron a dyblu ers i ni ddechrau arddangos y gerdd," meddai Gwenllian, 11 oed.

Roedd Ken Skates AS yn rhan o'r seremoni i ddadorchuddio'r plac newydd
Roedd yr aelod lleol o'r Senedd a'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn bresennol mewn digwyddiad i ddadorchuddio plac yn nodi 20 mlynedd ers agor y toiledau fel adnodd cymunedol.
Awgrymodd Ken Skates AS y gallai cymunedau eraill fynd ati i ddilyn esiampl trigolion Llandrillo.
"Mae arian yn brin ymhob man ar hyn o bryd - dim problem yng Nghymru a'r DU yn unig yw hyn, mae'n wir ar draws Ewrop," meddai.
"O ganlyniad, mae pobl yn cael eu hannog i wneud mwy o fewn eu cymunedau. Dyw trethi ond yn mynd i allu talu am hyn a hyn, a gyda'r costau sydd ynghlwm â gwasanaethau cyhoeddus allweddol fel gofal cymdeithasol ac iechyd, mae penderfyniadau anodd yn gorfod cael eu gwneud o dro i dro.
"Ond mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi mynd ati i achub asedau cymunedol, yn debyg i'r hyn sydd wedi digwydd yn Llandrillo.
"A dyna'n union yw'r rhain - asedau cymunedol sy'n hollbwysig i'r cyhoedd."

Mae David Robinson bellach yn rhannu'r hyn y mae o a gweddill y gwirfoddolwyr wedi ei ddysgu ers dechrau'r ymgyrch gyda gwahanol gymunedau sydd yn gobeithio cadw toiledau ar agor yn sgil toriadau gan awdurdodau lleol.
"Dydy hyn wir ddim yn anodd, yr oll sydd ei angen yw trefn, dod o hyd i bobl sydd yn barod i wneud y gwaith a sicrhau bod digon o arian ar gael i dalu'r biliau," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
- Cyhoeddwyd6 Mehefin
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2024