£500,000 i ailwampio toiledau cyhoeddus Powys

Y cyfleuster yma ger gorsaf Llandrindod fydd y cyntaf yn y canolbarth i gynnig toiled Changing Places
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Powys wedi derbyn bron i £500,000 i adnewyddu toiledau cyhoeddus ar draws y sir.
Bydd yr arian, o grant gan Lywodraeth Cymru, yn galluogi gwaith "uwchraddio sylweddol" i chwe chyfleuster cyhoeddus ar lwybrau teithio allweddol, gan gynnwys gwella cyfleusterau i bobl anabl.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae toiledau cyhoeddus yn "hollbwysig ar gyfer hygyrchedd".
Dywedodd Cyngor Powys y bydd y buddsoddiad yn helpu i sicrhau bod y toiledau'n "addas i'r diben" ac yn "diwallu anghenion ein cymunedau".
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2021
Bydd grant Llywodraeth Cymru yn galluogi i doiledau gael eu hadnewyddu ar draws pedair tref yn Sir Powys - Trefyclo, Llandrindod, Llanwrtyd a Rhaeadr Gwy.
Fe fydd cyfanswm o chwe chyfleuster cyhoeddus yn cael eu hadnewyddu ar draws yr ardaloedd hynny.
Bydd cyfleusterau i bobl anabl yn cael eu gwella a'u hailaddurno, ynghyd ag ychwanegu lleoedd newid cewynnau babanod, lle nad ydyn nhw ar gael ar hyn o bryd.
Mae cynlluniau hefyd yn cynnwys ymdrechion i osod paneli solar lle bo hynny'n bosibl er mwyn helpu i leihau costau ynni, ynghyd â systemau casglu dŵr i sicrhau bod y cyfleusterau'n fwy hunan-gynaliadwy.
Mae disgwyl i Landrindod hefyd fod y dref gyntaf yn y canolbarth i gynnig toiled Changing Places, dolen allanol - rhai penodol ar gyfer pobl ag anableddau - ochr yn ochr â chiwbiclau unigol.
'Hollbwysig ar gyfer hygyrchedd'
Mae eleni'n Flwyddyn Croeso ac mae Croeso Cymru'n dathlu'r ffyrdd gwahanol ac amrywiol y gall pobl o bob rhan o'r DU a'r byd deimlo eu bod yn cael croeso pan fyddant yn dod ar wyliau i Gymru.
Mae'r Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans o'r farn fod toiledau cyhoeddus hygyrch yn ffordd o ddenu pobl i Gymru.
Dywedodd fod y llywodraeth "yn gwybod bod cael y pethau sylfaenol yn iawn yn hanfodol, a dyna pam mae'r gwelliannau hyn mor bwysig".
"Mae seilwaith o safon fel toiledau cyhoeddus yn hollbwysig ar gyfer hygyrchedd ac yn hanfodol er mwyn ein galluogi i estyn ein croeso cynnes a Chymreig i bawb."
Sicrhawyd y cyllid ar gyfer y gwaith drwy'r cytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Mae disgwyl i'r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2026.