Rygbi'n 'ddihangfa' i Gymraes wedi marwolaeth ei rhieni

Megan JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Megan Jones wedi dewis parhau i chwarae wrth ddelio gyda cholli ei rhieni

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gymraes Megan Jones wedi bod yn sôn am sut mae rygbi yn ei helpu wedi marwolaeth ei rhieni o fewn misoedd i'w gilydd.

Dywedodd Jones, sydd o Gaerdydd ond yn chwarae'n rhyngwladol dros Loegr, mai "gobaith yw'r unig beth i afael ynddo" yn ystod y cyfnod.

Bu farw tad Jones o ganser yr ysgyfaint yn haf 2024, ac yna bedwar mis yn ddiweddarach bu farw ei mam.

A hithau'n dal i wneud trefniadau ar gyfer angladd ei mam, mae Jones wedi dewis parhau i chwarae dros ei chlwb, Leicester Tigers.

"Fe wnaeth fy rhieni fy magu i weithio'n galed a deall nad yw popeth yn para am byth, mae popeth dros dro gan gynnwys emosiwn," meddai.

"Falle'ch bod chi'n teimlo'n drist un diwrnod ond chi'n gwybod, os allwch chi dal i fynd, bydd yn pasio.

"Fi'n gwneud lot o waith arna i fy hun i ddod drwy hyn. Mae gen i rwydwaith arbennig o fy nghwmpas, fy mhartner Celia, a fy ffrindiau gartre' yng Nghaerdydd.

"Mae'n wych cael y bobl yma o fy nghwmpas, a cyd-chwaraewyr wrth gwrs."

Disgrifiad,

Siaradodd Megan Jones gyda'r BBC cyn y Gemau Olympaidd ym Mharis yn 2024

Er ei bod wedi ei magu yng Nghaerdydd ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Glantaf yn y brifddinas, dewisodd Jones chwarae ei rygbi rhyngwladol dros Loegr.

Ag yntau'n "Gymro balch", doedd ei thad "ddim yn caru mod i'n gwisgo'r rhosyn coch", meddai wrth siarad yn 2024.

Ond wrth ddelio gyda'r galar o golli ei mam hefyd, dywedodd y canolwr bod rygbi wedi bod yn ddihangfa.

"Be' fi'n caru am rygbi yw bod neb yn sôn am y peth [colli ei rhieni]," meddai.

"Dyna beth fi'n caru. Mae fel dihangfa i fi, ac mae'n fy nghadw ar y llwybr cywir, gyda phwrpas, achos dyna mae pawb eisiau - y cysylltiad a phwrpas - ac mae rygbi wedi rhoi hynny i fi."

Ychwanegodd bod rygbi wedi ei galluogi i frwydro wrth wynebu heriau: "Mae pawb yn dweud bod nhw yna, ond ar ddiwedd y dydd ni moyn mynd ar y cae ac ennill."

Pynciau cysylltiedig