Dylanwad Prosser Rhys ar gymuned LGBT, canrif ers ei gerdd feiddgar
- Cyhoeddwyd
Cynhaliwyd trafodaeth yn ddiweddar am un o ffigyrau amlycaf y gymuned LGBT+ yng Nghymru, Prosser Rhys, achosodd sgandal ganrif yn ôl wedi iddo ennill y Goron gyda cherdd oedd yn sôn am berthynas hoyw.
Un fu'n rhan o'r drafodaeth, gafodd ei drefnu gan Pontio i nodi mis Pride, oedd Arwel Gruffydd, wnaeth bortreadu'r bardd mewn ffilm yn yr 1990au.
Yma mae'r actor, sydd bellach yn gyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn ysgrifennu am y profiad o chwarae rhan cymeriad hoyw am y tro cyntaf a'r dylanwad ar ei yrfa.
Pan gefais fy nghastio yn 1998 i chwarae rhan Prosser Rhys mewn ffilm gan Ceri Sherlock, roeddwn eisoes wedi bod yn byw bywyd agored fel dyn hoyw ers bron i ddeng mlynedd; ond dyma oedd y tro cyntaf i mi fel actor proffesiynol chwarae rhan cymeriad hoyw, hynny yw, cymeriad lle roedd ei rywioldeb yn cael ei drafod yn agored yn y ddrama (yn wir yn gwbl ganolog iddi, yn yr achos hwn).
Roedd y ffilm yn canolbwyntio ar un elfen o fywyd Prosser Rhys, a'r elfen fwyaf adnabyddus, ac o bosibl, fwyaf dylanwadol, sef ei goroni yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl yn 1924 am ei bryddest, Atgof (a dyma hefyd enw'r ffilm).
Mae'r bardd yn disgrifio sawl perthynas ramantus yn ei gerdd, ond mewn un rhan nodedig mae'n disgrifio perthynas gariadus a rhywiol rhyngddo ef â dyn arall.
Fe achosodd hyn gryn ddadlau ar y pryd, gyda nifer o feirdd a beirniaid llenyddol y cyfnod yn mynnu na ddylai'r fath destun, am resymau moesol, fod wedi cael ei wobrwyo. Os ydw i'n cofio'r gwaith ymchwil yn iawn, awgrymwyd bod perygl hyd yn oed iddi beri gormod o ddychryn i hen wragedd a phlant!
Mae'n amlwg, o gyfeiriadau yn y gerdd at leoedd neilltuol, bod gwrthrych y gerdd yn byw yng Nghaernarfon, fel yn wir yr oedd Prosser ei hun yn y cyfnod hwnnw.
Prosser a Morris T. Williams
Roedd Prosser yn cyd-letya gyda Morris T. Williams (a ddaeth, rai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn ŵr i'r Dr Kate Roberts), a hynny yn ardal Twthill o'r dre, gyda'r ddau ohonynt yn gweithio i'r Herald Gymraeg ar y pryd.
Yn fuan wedyn, ymfudodd Morris i Baris am gyfnod, ac mae llythyrau Prosser at Morris o'r cyfnod hwnnw yn datgelu bod Prosser wedi ceisio annog Morris i arddel yn agored natur rywiol a chariadus eu perthynas. Cesglir o hynny felly mai at ei berthynas ef a Morris y mae Prosser yn cyfeirio yn ei bryddest; neu dyma, o leiaf, safbwynt y ffilm.
Ymddengys o'r llythyrau fod Prosser yn frwd dros arddel eu perthynas yn agored ond bod Morris yn amharod, ac yn ofni ymateb eraill. Mae'r llythyrau ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol i bobl ddod i'w casgliadau eu hunain. Gresyn bod llythyrau Morris at Prosser wedi eu colli.
Rhagfarn ddychrynllyd
Roedd pethau'n bur wahanol yng Nghymru'r 1920au a 1930au. Arhosodd cyfathrach rywiol rhwng dau ddyn yn anghyfreithlon nes 1967 - blwyddyn fy ngeni.
Roedd agweddau ceidwadol a rhagfarn ddychrynllyd tuag at bobl gyfunrywiol yn golygu bod byw bywyd yn agored fel person hoyw yn ddewis anodd eithriadol, a doedd dim enghreifftiau o bobl agored hoyw yng nghyd-destun y bywyd diwylliannol Cymraeg.
Tybed a fyddai pethau wedi newid yng Nghymru yn fwy cyflym petai Prosser wedi llwyddo i berswadio Morris bryd hynny? Pwy a ŵyr?
Beth bynnag am hynny, ymddengys na wnaeth eu perthynas gariadus barhau, ac fe aethant ymlaen o'u dau i fyw bywydau cyhoeddus fel pobl syth.
I mi, yn actor ifanc, dim ond ychydig flynyddoedd yn hŷn bryd hynny na Prosser pan enillodd y Goron, cafodd y profiad o ddarlunio'r berthynas hoyw hon effaith tra dylanwadol arnaf.
Cyn hynny, dim ond rhannau dynion syth yn unig yr oeddwn wedi'i chwarae. Roedd hynny, ambell dro, wedi cynnwys hefyd ddarlunio golygfeydd caru rhwng dyn a dynes.
Pe na byddai rhywioldeb cymeriad wedi'i ddatgan yn glir yn y sgript, fe fyddwn i wastad yn dychmygu eu bod nhw'n hoyw ac yn gadael i hynny ddylanwadu'n dawel bach ar y portread - nid na fyddai neb wedi sylwi, dwi'n siŵr. Rhyw fuddugoliaeth fach dawel, bersonol, efallai.
Ond nid yn unig yr oedd cymeriad Prosser Rhys yn y ffilm hon yn ddigamsyniol hoyw, roedd y ffilm hefyd yn darlunio perthynas a chyfathrach rywiol nad oedd yn gadael llawer iawn i'r dychymyg (fe ellid dweud).
Yn hynny o beth, roedd y ffilm mor herfeiddiol yn ei chyfnod, efallai, â cherdd Prosser yn ei chyfnod hithau. Yn wir, rwy'n cofio i'r ffilm gael ei darlledu ar S4C wedi un ar ddeg y nos (wedi i 'hen wragedd a phlant' fynd i'w gwelyau, efallai!), ac i rai beirniaid teledu feirniadu'n hallt ei hagweddau rhywiol amlwg.
Ond fe wnaeth cofnodi'r digwyddiad pwysig hwn yn ein hanes fel Cymry, ac yn arbennig fel Cymry hoyw, roi imi ryw gryfder a hyder newydd.
Rai blynyddoedd wedyn, fe euthum yn fy mlaen i gyfarwyddo ffilm fy hun ac yna ddramâu ar gyfer y theatr a fyddai'n darlunio bywyd hoyw mewn modd cwbl agored a hyderus, yn fwyaf nodedig felly, Llwyth, gan Daf James, yn 2011. Arweiniodd hynny yn ei dro imi ddod yn Gyfarwyddwr Artistig ar Theatr Genedlaethol Cymru.
Dylanwad Prosser Rhys
Oni bai am Prosser, ac oni bai i mi gael y fraint o chwarae ei ran yn y ffilm, tybed a fyddwn i wedi cael yr hyder i fod mor agored am fy rhywioldeb fel actor, fel cyfarwyddwr ac fel cyfarwyddwr ein Theatr Genedlaethol - yr hyder i fod yn fi fy hun? Eto, pwy a ŵyr?
Ond mi wn, hyd heddiw, rwyf wastad yn ymdrechu, pan fyddaf yn cwrdd â rhywun am y tro cyntaf, i wneud pwynt o arddel fy hunaniaeth rywiol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd; wedi'r cwbl, proses, ac nid digwyddiad, ydi 'dod allan', a honno'n broses di-derfyn.
Oni bai fod pobl hoyw, ac yn arbennig bobl hoyw sydd mewn rhyw fath o sefyllfa o awdurdod, yn arddel eu rhywioldeb yn agored a gyda balchder, go brin y gwelwn ni fyth sefyllfa lle na fydd pobl hoyw yn dioddef unrhyw fath o ragfarn, neu gymdeithas lle bydd bod yn hoyw wedi ei 'normaleiddio' yn llwyr.
Dyma'r baton y teimlais i Prosser ei phasio i mi ym 1998, fel petai, a'r un sy'n dal i gael ei phasio gennym ni, bobl hoyw, o un genhedlaeth i'r nesaf.
Hefyd o diddordeb: