Jac Morgan yn dechrau i'r Llewod yn y tîm ganol wythnos

A fydd Jac Morgan yn creu digon o argraff i gael ei gynnwys ar gyfer yr ail gêm brawf?
- Cyhoeddwyd
Mae Jac Morgan wedi'i ddewis yn nhîm y Llewod i wynebu First Nations and Pasifika XV ym Melbourne ddydd Mawrth.
Bydd y Cymro yn gwisgo'r crys rhif 6 am y tro cyntaf ar y daith, gan obeithio gwasgu ei hun i fewn i'r garfan i wynebu Awstralia yn yr ail gêm brawf ddydd Sadwrn.
Er gwaethaf perfformiadau da drwy gydol y daith, ni chafodd Morgan ei ddewis ar gyfer y gêm brawf agoriadol, gyda'r Llewod yn ennill 27-19.
Dyna'r tro cyntaf i Gymro beidio gael ei ddewis ar gyfer gêm gyntaf cyfres y Llewod ers y daith i Dde Affrica yn 1896, yn ôl un ystadegydd rygbi.
Bydd Owen Farrell yn gapten ar y tîm ddydd Mawrth, gyda Josh van der Flier a Henry Pollock yn ymuno gyda Morgan yn y rheng-ôl.
Mae'n annhebygol y bydd nifer o'r 23 - sy'n cynnwys naw Albanwr - yn llwyddo i berswadio Andy Farrell i newid gormod ar ei dîm ar gyfer yr ail gêm brawf.
Tîm y Llewod
Kinghorn, Graham, Osborne, Farrell (capt), Van der Merwe, F Smith, White; Schoeman, George, Bealham, Ryan, Cummings, Morgan, Van der Flier, Pollock
Eilyddion: Ashman, Sutherland, Clarkson, Brown, Earl, Mitchell, M Smith, Ringrose
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl