Angen 'shifft mewn polisi' ar addysg Gymraeg - comisiynydd
- Cyhoeddwyd
Mae angen "shifft mewn polisi" o ran addysg Gymraeg yn ôl y comisiynydd iaith.
Fe ddaw'r alwad ar ôl i ffigyrau dangos bod fawr o newid wedi bod o ran canran y disgyblion sy'n derbyn addysg Gymraeg iaith gyntaf ers 2011.
Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones, mae'n amlwg na fydd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 os yw polisïau'n parhau fel y maen nhw ar hyn o bryd.
Galwodd am "bolisïau a deddfwriaeth mwy beiddgar ym maes addysg a sgiliau os ydyn ni am wyrdroi sefyllfa a dyfodol y Gymraeg".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu defnydd dyddiol o'n hiaith erbyn 2050".
1% o gynnydd ers 2011
Targed strategaeth Cymraeg 2050 ydy i 40% o ddisgyblion derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050.
Ond ar hyn o bryd y ffigwr ydy 23% - 1% yn unig o gynnydd ers 2011.
Yn ôl cyfrifiad ysgolion Llywodraeth Cymru roedd 442 o ysgolion cynradd, canol ac uwchradd cyfrwng Cymraeg ym mis Ionawr 2024.
Roedd 106,605 o ddisgyblion - 23% o'r holl ddisgyblion yng Nghymru - yn cael addysg Gymraeg iaith gyntaf yn yr ysgolion hynny.
Mae 24% o ddisgyblion cynradd yn derbyn addysg Gymraeg iaith gyntaf, ond mae'r ffigwr yn gostwng i 19% o ran disgyblion uwchradd.
Targed Llywodraeth Cymru ydy y bydd 40% o ddisgyblion Cymru yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050.
Mae gan y llywodraeth hefyd darged o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn honno hefyd - targed a gyhoeddwyd yn 2016.
Yn ymateb i'r ffigyrau hynny dywedodd Efa Gruffudd Jones mai "cynnydd araf" sydd wedi bod o ran y niferoedd mewn addysg Gymraeg, ond ei bod yn gobeithio y bydd cyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg yn "gam arwyddocaol".
"Cynnydd araf sydd wedi bod dros yr 20 mlynedd diwethaf o safbwynt y niferoedd sydd yn derbyn addysg Gymraeg," meddai mewn datganiad i Dros Frecwast.
"Rwyf wedi nodi bod angen shifft mewn polisi – mae strategaeth Cymraeg 2050 yn gosod targed y bydd 40% o blant yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050 – ac roedd yn hollol amlwg, hyd yn oed i'r rhai fwyaf optimistig ohonom, nad oeddem am gyflawni'r targedau o barhau i weithredu yn yr un ffyrdd ac rydym wedi bod yn ei wneud.
"Dwi hefyd yn meddwl bod canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos yr angen am bolisïau a deddfwriaeth mwy beiddgar ym maes addysg a sgiliau os ydyn ni am wyrdroi sefyllfa a dyfodol y Gymraeg."
Galw am gryfhau'r bil
Ychwanegodd: "Mae cyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg yn gam arwyddocaol o safbwynt datblygiad polisi a deddfwriaeth ar gyfer cefnogi'r Gymraeg ym myd addysg.
"Am y tro cyntaf fe fydd rhai o dargedau ac ymrwymiadau pwysicaf strategaeth iaith y llywodraeth yn cael eu gosod mewn deddfwriaeth, ac mae'r bil yn cynnig fframwaith llawer cryfach i ddatblygiad addysg Gymraeg yng Nghymru.
"Wedi dweud hynny, roeddwn hefyd yn glir wrth ddarparu tystiolaeth i bwyllgor y senedd bod elfennau o'r bil y dylid eu cryfhau ac hefyd fod yna heriau sylweddol o safbwynt gweithredu'r bil.
"Y pwysicaf o'r rhain heb os yw sicrhau gweithlu addysg ddwyieithog fydd yn galluogi ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a chynyddu darpariaeth Gymraeg ym mhob ysgol.
"Mae'r llywodraeth yn ymwybodol iawn o'r heriau hyn, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi mor belled fod cynlluniau'r llywodraeth ar gyfer creu gweithlu addysg gynyddol ddwyieithog wir yn adlewyrchu amcanion y bil nac ychwaith targedau strategaeth Cymraeg 2050."
Dywedodd Elin Maher, cyfarwyddwr cenedlaethol gweithredol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, bod "ymdrechion anferthol" wedi mynd i fewn i sicrhau twf mewn ysgolion Cymraeg a chanran y disgyblion sy'n derbyn addysg Gymraeg.
"Ni'n cytuno hefo sylwadau'r Comisiynydd bod angen newid hollol arwyddocaol," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"Ni yn ail gyfnod bil y Gymraeg ac Addysg sy'n mynd trwy'r Senedd ar hyn o bryd ac mae 'na gyfle gwirioneddol fan hyn i sicrhau newid arwyddocaol."
Ychwanegodd: "Os nad yw addysg Gymraeg o fewn profiad teuluoedd, os nad yw e'n weledol, os nad yw e yn agos ac yn lleol iddyn nhw, yna mae'r ymdrech i ni fel partneriaid lleol y Gymraeg yn gorfod mynd iddyn nhw.
"Mae'r naratif genedlaethol angen newid... Mae'n rhaid i hyn ddod o'r top ac o lywodraeth leol hefyd achos ar hyn o bryd mae'n cwympo arnom ni fel partneriaid lleol."
'Diffyg cynllunio sylweddol'
Dywedodd Meirion Prys Jones, cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith, fod yr ystadegau'n "siomedig ond ddim yn syndod".
"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am addysg Gymraeg ers 15 mlynedd ac yn y cyfnod yna does dim byd radical, dim deddfwriaeth o bwys wedi digwydd o gwbl," meddai ar raglen Dros Frecwast.
Dywedodd fod "diffyg cynllunio sylweddol" gan y llywodraeth a bod angen mwy o gymorth ar awdurdodau lleol.
Ychwanegodd: "I ni o fewn y gymuned Gymraeg mae'n teimlo bod ein system addysg Gymraeg yn gweithredu'n dda, ond mae 'na elfen o dwyll yma - hynny yw, ni'n credu hype ein hunain i raddau.
"'Da ni'n dal i fod o gwmpas yr 20%.
"Tan ein bod ni'n gallu gwthio trwy'r nenfwd gwydr yna mewn i'r brif ffrwd addysg, ni ddim yn mynd i weld miliwn o siaradwyr byth."
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd ac rydym wedi ymrwymo i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu defnydd dyddiol o'n hiaith erbyn 2050.
"Byddwn yn gwneud hyn drwy barhau i weithio ar draws y Llywodraeth a thu hwnt i flaenoriaethau Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), i gynnig gwersi Cymraeg am ddim i filoedd o bobl ifanc a'r gweithlu addysg, i gynnal ein cymunedau Cymraeg, i gynyddu defnydd iaith ym mhob ardal a chyd-destun ac i ddatblygu technoleg iaith."