Azu yn ennill ras 60m ym Mhencampwriaeth y Byd Dan Do

Jeremiah AzuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Azu i redeg y ras 60m mewn 6.49 eiliad

  • Cyhoeddwyd

Mae'r rhedwr Jeremiah Azu o Gymru wedi ennill medal aur yn ras 60m y dynion ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd Dan Do.

Dyma deitl byd cyntaf ei yrfa.

Llwyddodd i redeg y pellter mewn 6.49 eiliad, canfed eiliad yn gynt na Lachlan Kennedy o Awstralia a orffennodd yn ail, yn China.

Bythefnos yn ôl, enillodd y dyn 23 oed o Gaerdydd, y ras ym Mhencampwriaeth Ewrop dan do hefyd.

Dywedodd wrth BBC Sport: "Roeddwn i'n gwybod y gallwn ei ennill.

"Dywedais yn y bencampwriaeth Ewropeaidd fy mod i eisiau cymryd drosodd y byd. Dyma ddechrau'r daith.

"Y cynllun yw parhau i ennill. Gadewch i ni weld beth sy'n dod yn yr haf - rwy'n gyffrous iawn."

Pynciau cysylltiedig