Ifor ap Glyn: Beth yw dwyieithrwydd?
- Cyhoeddwyd
"Dwyieithrwydd yw’r norm o gwmpas y byd, nid rhywbeth od mae’r Cymry’n mynnu ei wneud..."
Mae'r bardd a darlledwr Ifor ap Glyn wedi bod yn ymweld â dinasoedd yn Ewrop i ddarganfod mwy am sut maen nhw'n yn delio â dwyieithrwydd.
Yn y rhaglen ddiweddaraf o Dwyieithrwydd dros y Dŵr ar Radio Cymru mae e'n ymweld gydag ynys Mallorca lle mae'r iaith Gatalaneg wedi’i hadfer fel prif gyfrwng addysg, ond mae twristiaeth a mewnfudo yn creu pwysau tebyg i’r rhai a geir yng nghefn gwlad Cymru.
Mewn darn arbennig i Cymru Fyw mae Ifor, a fagwyd yn Llundain, yn egluro cefndir y gyfres ac yn cymharu dwyieithrwydd yng Nghymru i'r sefyllfa mewn gwledydd eraill:
Mae dwy brif iaith yng Nghymru – ond mae ‘dwyieithog’ yn derm digon amrywiol ei ystyr! Ym myd addysg bu’n arfer am gyfnod i gyfeirio at ysgolion Cymraeg eu cyfrwng fel rhai ‘dwyieithog’ - roedd hynny’n swnio’n llai bygythiol i’r rhai oedd yn amheus o’r iaith.
Ond os oedden nhw’n ysgolion ‘dwyieithog’, oedd hynny’n golygu fod yr ysgolion eraill yn uniaith Saesneg? Dwi’n siŵr na fydden nhw’n ymffrostio yn hynny, a nhwythau’n cynnwys Ffrangeg ac Almaeneg ac ‘ambell i lesýn fach o Welsh chwara teg’ yn eu hamserlenni – ond mae’n agos at y gwir.
Methiant addysg
Un o fethiannau mwyaf y Gymru fodern oedd peidio ag arddel iaith y mwyafrif pan gyflwynwyd addysg i bawb, o’r 1870au ymlaen.
“(T)he education system,” meddai M. Wynn Thomas, “arrogantly anglophone right up to university level… probably did more harm to the long-term future of the Welsh language than any other single development.”
“Ouch...” ys dywed y Sais. Ond mae agweddau wedi newid yn araf, gyda thwf addysg Gymraeg, ac mae mwy o ewyllys da tuag at yr iaith heddiw nac a fu.
Pa mor ddwyieithog felly ydi’n gwlad ni erbyn hyn?
Bron i ugain mlynedd yn ôl, tra’n ffilmio’r gyfres deledu Popeth yn Gymraeg, bues i’n profi dwyieithrwydd nifer o ’nghyd-Gymry i’r eithaf - roeddwn i’n gwneud ‘popeth yn Gymraeg’ wrth siarad â nhw - a nhwythau’n ateb yn Saesneg gan amlaf - ond llwyddwyd dro ar ôl tro i gynnal cyfathrach oedd yn wirioneddol ddwyieithog – hynny yw, yn y ddwy iaith.
Roedd yn dangos be' sy’n bosib. Ond fel dywedodd rhyw fardd pryfoclyd ers talwm:
Yn y Gymru ddwyieithog mae pawb yn gytûn -
dan ni’n siarad ddwy iaith, maen nhw’n siarad un.
Baich
Mae’r faich o fod yn ddwyieithog yn sicr yn disgyn mwy ar ysgwyddau’r rhai sy’n siarad Cymraeg, na’r rhai sy’n siarad Saesneg yng Nghymru.
Pan on i’n tyfu fyny yn Llundain erstalwm, on i’n cael fy ngwneud i deimlo fod siarad mwy nag un iaith ychydig yn ‘od’. A dwi’m yn amau nad oedd yr un peth yn wir i lawer o ’nghyfoedion yn ninasoedd a chymoedd Cymru hyd yn oed. Paradocs hybu’r Gymraeg yn y byd sydd ohoni, yw’r angen i normaleiddio dwyieithrwydd.
Anffawd Cymru yw byw ar ymylon cymdeithas sydd yn bennaf unieithog, sef Lloegr. Ac un o’r prif ddylanwadau diwylliannol arnom o du hwnt i Loegr, yw cymdeithas arall sydd yn bennaf unieithog, sef yr Unol Daleithiau. Ond nid dyna’r patrwm sy’n dominyddu, os edrychwn o gwmpas y byd...
Rai blynyddoedd yn ôl, gofynnwyd imi gadeirio lansiad llyfr o’r enw Agweddau ar Ddwyieithrwydd, gan Enlli Thomas a Peredur Webb-Davies. Ynghanol y myrdd o ffeithiau difyr yn yr astudiaeth, roedd ‘na un wnaeth fy nharo yn fy nhalcen.
Er nad oes sicrwydd ynglŷn â faint yn union o bobl y byd sy’n medru dwy iaith neu fwy, mae’r gwahanol awdurdodau yn gytûn ar un peth, sef bod dros hanner y byd yn medru mwy nag un iaith.
Dwyieithrwydd felly yw’r norm o gwmpas y byd, nid rhywbeth od mae’r Cymry’n mynnu ei wneud - oherwydd felly, yn rhy aml, y cawsom ein cyflyru i feddwl!
Bwriad rhaglenni Dwyieithrwydd dros y Dŵr yw rhoi darlun o rai o ieithoedd eraill Ewrop sydd hefyd yn bodoli mewn cyd-destun dwyieithog.
Mae rhai fel y Wyddeleg a’r Fasgeg yn ieithoedd cymharol fach o ran nifer eu siaradwyr; mae eraill fel y Fflemeg, a’r Gatalaneg, yn rhifo’u siaradwyr yn y miliynau - ond maen nhw i gyd yn gorfod cydfyw hefo iaith arall fwy niferus, neu fwy dylanwadol. Beth yw natur eu perthynas nhw â dwyieithrwydd – a beth allwn ni ddysgu ganddynt?
Gwlad y Basg
Yng Ngwlad y Basg, gwelwyd sut mae Euskara (neu'r Fasgeg) wedi cynyddu ar raddfa y gallwn ond breuddwydio amdani yng Nghymru. Dyma wlad debyg i Gymru o ran maint poblogaeth, a’r canran ohonynt sy’n medru’r iaith gynhenid – ond yno mae niferoedd y siaradwyr Basgeg ar gynnydd. Mae addysg yn ganolog i hyn, gyda hanner plant Gwlad y Basg yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng Euskara bellach.
Yn Béal Feirste (Belfast) gwelwyd yr egni sydd o gwmpas y Wyddeleg o’i gymharu â’r syrthni yn y Weriniaeth – yno sefydlwyd y papur dyddiol cyntaf mewn unrhyw iaith Geltaidd, ac mae’r ffilm ddiweddar Kneecap yn tystio i’r bwrlwm ieithyddol hwn!
Cysylltwyd y Wyddeleg â’r mudiad gweriniaethol am ddegawdau, ond erbyn hyn mae’r adfywiad iaith wedi dechrau goresgyn yr hen raniadau sectaraidd yn y ddinas.
O’r ddwy brif iaith sydd yng Ngwlad Belg, mae’n debyg y byddai siaradwr Cymraeg yn ymdeimlo’n haws â’r Fflemeg. Dyma iaith gafodd ei gormesu am gyfnod gan y Ffrangeg, ac hyd heddiw, mae’i siaradwyr yn deirgwaith fwy tebygol o fedru’r iaith arall, nag yw siaradwyr Ffrangeg.
Ond cymunedau uniaith sydd yn rhannau helaeth o Wlad Belg – dyw hanner trigolion y wlad ddim yn medru’r iaith arall. Dyma ddwyieithrwydd digon cyndyn felly...
Y Gatalaneg ym Mallorca
Beth allwn ni obeithio ei ddysgu o’r rhaglen ddiweddaraf, Dwyiethrwydd dros y Dŵr – Mallorca felly?
Fel gyda’r Euskara yng Ngwlad y Basg, gwaharddwyd y Gatalaneg yng nghyfnod Franco (1936-75). Mae’r iaith wedi’i hadfer fel prif gyfrwng addysg ar ynys Mallorca bellach, ond yma mae twristiaeth a mewnfudo yn creu pwysau tebyg i’r rhai a geir yng nghefn gwlad Cymru – ond ar raddfa dipyn mwy, yn enwedig yn yr ardaloedd arfordirol.
Dysgwn am beryglon gor-dwristiaeth, a hanesion cyfarwydd am bobl ifainc yn methu fforddio lle i fyw, gan Pere Perelló i Nomdedeu. Bydd Rubén Chapella-Orri yn amlinellu cynllun sydd gan lywodraeth Andorra (yr unig wladwriaeth yn y byd lle mai’r Gatalaneg yw’r unig iaith swyddogol) i sicrhau fod mewnfudwyr yno yn dysgu’r iaith frodorol.
Ac ar nodyn ysgafnach, bydd Noélia Diaz Vicedo yn rhoi blas ar ddiwylliant llenyddol arloesol yr ynys; a bydd Maria Magdalena Amengual yn cyfansoddi glosa, sef cân draddodiadol fyrfyfyr yn arbennig i wrandawyr Radio Cymru – a hynny o fewn eiliadau!
Gwrandewch ar Dwyiethrwydd dros y Dŵr – Mallorca ar Radio Cymru ar Ddydd Sul, 3 Tachwedd am 16.00, ac ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Hydref
- Cyhoeddwyd4 Hydref