Teyrnged i Charles Arch wrth agor Sioe Fawr 2024

Elin Jones yn agor Sioe Fawr 2024
Disgrifiad o’r llun,

Elin Jones yn agor Sioe Frenhinol Cymru yn swyddogol ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Roedd yna deyrnged i un o gymeriadau mwyaf adnabyddus Sioe Frenhinol Cymru yn ystod agoriad swyddogol yr achlysur.

Yr amaethwr o Geredigion, Charles Arch - prif sylwebydd prif gylch y sioe am ddegawdau - oedd fod i agor y digwyddiad, ond bu farw ddechrau'r mis yn 89 oed.

"Charles oedd llais y sioe ar hyd y blynyddoedd, ac roedd yn bencampwr dros gymunedau cefn gwlad yng Ngheredigion," meddai Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, wrth lywio'r seremoni yn ei le ddydd Llun.

"Mae mor drist fod e ddim wedi medru a bod yma i agor y sioe oedd mor agos at ei galon. Dwi’n hynod o falch o allu camu mewn i’w sgidiau fe i ryw raddau, a chael yr anrhydedd fy hunain o agor y sioe."

Ffynhonnell y llun, Gareth Vaughan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Charles Arch yn cael ei adnabod fel 'llais' y Sioe Fawr a bu’n sylwebu ar gystadlaethau yn y prif gylch ers 1980

Ceredigion yw’r sir nawdd eleni ac fe gafodd y sioe gyntaf ei chynnal yn 1904 ar gaeau yn Aberystwyth, yng Ngheredigion.

Roedd y sioe yn arfer teithio i wahanol fannau yng Nghymru bob blwyddyn, cyn ymgartrefu ar ei safle parhaol yn Llanelwedd ym 1963.

Ychwanegodd Elin Jones: "Yng Ngheredigion ry’n ni’n sefyll ar ysgwyddau cymeriadau cefn gwlad mawr – Charles Arch yn un, Dai [Jones] Llanilar wrth gwrs, [ac] Elystan Morgan agorodd sioe’r Cardis y tro dwetha'.

"Mae’r genhedlaeth nesaf wedi’u hysbrydoli ganddyn nhw ac yn sefyll ar eu hysgwyddau i wneud yn siŵr bod llais y Gymru wledig a Cheredigion yn cael ei glywed."

Disgrifiad o’r llun,

Beryl Vaughan, un o aelodau tîm swyddfa'r wasg y sioe, yn llongyfarch Edward Morus Jones wrth iddo ymddeol o'r gwaith wedi 27 o flynyddoedd

Mae sioe eleni'n nodedig gan fod Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 120 oed.

Roedd yna ddathliad ddydd Llun hefyd i ddiolch i un o selogion eraill y sioe am ei gyfraniad.

Mae Edward Morus Jones yn ymddeol eleni ar ôl 27 o flynyddoedd o wasanaeth yn swyddfa'r wasg ar faes y sioe, ac fe drefnodd ei gydweithwyr gacen i ddiolch iddo.

Pynciau cysylltiedig