Ysgrifennydd Cymru'n cefnogi Gething 'yn llwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru'n dweud ei bod yn cefnogi Vaughan Gething "yn llwyr" mewn ymateb i bryderon am ba mor lwyddiannus fydd Llafur Cymru yn etholiadau'r Senedd yn 2026.
Enillodd y blaid 27 o'r 32 sedd yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau ond mae canran pleidlais Llafur wedi gostwng o 40.9% i 37% - datblygiad sydd angen "ymchwiliad manwl" yn ôl y cyn brif weinidog Mark Drakeford.
Mae'r cyn weinidog yn llywodraethau Tony Blair a Gordon Brown, Kim Howells yn rhybuddio bod cael Mr Gething wrth y llyw yn broblem, gan ei ddisgrifio fel "damaged goods" y mae'n rhaid ei ddisodli ryw ben.
Ond yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, Jo Stevens, roedd canlyniadau Llafur yng Nghymru yn "hollol syfrdanol" ac fe fynnodd bod Mr Gethin yn gwneud "job ardderchog".
- Cyhoeddwyd8 Mehefin
- Cyhoeddwyd6 Mehefin
Fe gollodd Mr Gething bleidlais o ddiffyg hyder ynddo yn y Senedd fis diwethaf, pan roedd dau AS mainc cefn Llafur yn absennol drwy salwch.
Roedd y bleidlais yn dilyn ffrae dros roddion i'w ymgyrch i fod yn arweinydd Llafur Cymru gan gwmni sy'n eiddo i droseddwr amgylcheddol.
Mae Mr Gething yn mynnu na dorrodd unrhyw reolau.
Dywedodd cyn AS Pontypridd, Kim Howells wrth raglen Sunday Supplement bod Mr Gething yn rhwystr a bod angen i Lafur Cymru gael arweinydd newydd "yn gynt yn hytrach na'r hwyrach".
"Mae cyn Aelodau Seneddol yn dweud wrtha' i pe tasai hyn [canlyniadau'r etholiad cyffredinol] wedi bod yn etholiadau'r Senedd, fydden ni wedi colli," dywedodd.
"Mae angen iddyn nhw fynd i'r afael â'r peth."
Yn 2026, fe fydd 96 o aelodau'n cael eu hethol i Senedd Cymru - 36 yn fwy na'r nifer presennol - gan ddefnyddio system hollol gyfrannol.
Yn ôl Jo Stevens, mae'r grŵp Llafur yn y Senedd wedi cefnogi Mr Gething ac mae e ei hun yn canolbwyntio ar ei waith.
"Mae gan Vaughan fy nghefnogaeth lwyr fel prif weinidog - rwy'n meddwl ei fod yn gwneud job ardderchog," dywedodd wrth raglen BBC Politics Wales.
"Fe fydd yn cario ymlaen i wneud job ardderchog, ac rwy' wir yn edrych ymlaen at gydweithio gydag e."
Roedd Ms Stevens yn canmol y ffordd y darodd y prif weididog gytundeb i roi terfyn ar streiciau meddygon yng Nghymru, yr adolygiad i'r ddeddf yn gostwng terfynau cyflymder i 20mya a'r ymgynghoriad dros gynlluniau amaeth dadleuol.
Yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol, fe addawodd y Blaid Lafur i weithio gyda'r llywodraeth ddatganoledig yng Nghaerdydd i leihau rhestrau aros GIG Cymru.
Mewn ymateb i gwestiwn a fuasai'n hoffi gweld mwy o wasanaethau iechyd tebyg i'w gilydd yng Nghymru a Lloegr, atebodd: "Gobeithio."
Ychwanegodd: "Rwy'n credu'n gryf os ydy pobl yn gwneud pethau'n dda yn unrhyw ran o'r DU dyliwn ni ddysgu o hynny, dyliwn ni rannu'r gwersi hynny."