Beth yw gobeithion rhai o'r ASau newydd?

AS Plaid Cymru yn San Steffan
Disgrifiad o’r llun,

Mae 13 o'r 32 AS sydd wedi eu hethol yng Nghymru yn aelodau newydd

  • Cyhoeddwyd

Gyda 32 o aelodau seneddol wedi'u hethol yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf, maen nhw bellach wedi cyrraedd San Steffan ac yn barod i gychwyn ar eu gwaith.

Allan o'r 32 aelod, mae 13 ohonyn nhw yn rhai newydd.

Gyda’r Ceidwadwyr wedi colli eu holl seddi yng Nghymru, mae’r aelodau newydd yn cynrychioli Llafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd yr AS Llafur newydd ar gyfer Canol a De Penfro, Henry Tufnell, ei fod yn "hynod gyffrous i fod yn rhan o hwn i gyd".

Mae Llinos Medi, AS Plaid Cymru Ynys Môn, eisoes wedi ymweld â Thŷ'r Cyffredin yn rhinwedd ei swydd flaenorol ond dywed ei bod yn "nerfus" cychwyn y rôl newydd.

Roedd yna nifer fawr yn ffarwelio ag AS Plaid Cymru Caerfyrddin, Ann Davies, yng Nghaerfyrddin ddydd Llun.

Dywedodd ei bod yn "barod am y gwaith ac am y sialens".

Bydd yr aelodau yn tyngu llw ddydd Mawrth. Mae bellach modd gwneud hyn yn Gymraeg.

Heriau economaidd Ynys Môn

Dywedodd Llinos Medi, AS newydd Ynys Môn fod bywyd yn "dra gwahanol" yn Llundain.

"'Chydig ddyddiau yn ôl roedd rywun yn nocio drysau yn Ynys Môn a rŵan ma' rywun wedi cyrraedd fama, ag yndi mae'n dod â fo yn realiti go iawn bo' fi wedi cael fy ethol a fod genna i swydd i'w wneud yma 'wan."

Er ei bod yn gymharol gyfarwydd â'r lleoliad yn rhinwedd ei swydd flaenorol, dywedodd ei bod "heb os yn nerfus, ond mae 'na gyffro hefyd achos mae 'na gyfle rŵan i ddod a llais Ynys Môn yma a llais sydd yn nabod yr ynys yn dda a'i hanghenion".

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ben Lake, Llinos Medi, Liz Saville-Roberts ac Ann Davies ail-greu llun eiconig Plaid Cymru o 1992

Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywedodd ei bod eisiau ffocysu ar "yr heriau economaidd gwahanol i ardaloedd fel Ynys Môn a herio’r llywodraeth i feddwl yn greadigol".

Dywedodd: "Does gen i ddim syniad beth i ddisgwyl ond na'i gymryd o fel mae'n dod a rhoi fy ngorau."

Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "bwysig 'mod i'n cadw'n ffyddlon i fi fy hun".

Gwella trafnidiaeth gyhoeddus Cymru

Wrth deithio i Lundain ddydd Iau er mwyn cychwyn ei rôl newydd fel AS Canol a De Penfro, fe brofodd Henry Tufnell drafferthion gyda'r gwasanaeth trên.

"Mae'r trenau yn ofnadwy i Sir Benfro," meddai.

"Maen nhw’n stopio yng Nghaerfyrddin a ti methu cael trên yn syth i Lundain.

"Mae wir yn ofnadwy. Byddai’n dda os allai Great Western Railway wneud rhywbeth am y sefyllfa.”

Mae rhai o’r trafferthion teithio sy’n wynebu ei etholaeth wedi eu datganoli, meddai, ac y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithio ar hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Henry Tufnell fod gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth iddo

Dywedodd fod datrys trafferthion trafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth iddo yn ei rôl newydd.

Byddai gwella cysylltiadau trafnidiaeth yn cael “effaith enfawr ar yr economi leol" ac ychwanegodd fod hynny yn hanfodol ar gyfer twristiaeth.

“Mae twristiaeth yn rhan allweddol o’r economi leol ac rydym wir angen cael hwnna i fyny ac yn weithredol. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn greiddiol i hynny."

Wrth bwysleisio pwysigrwydd yr economi leol, ychwanegodd fod "swyddi sy'n talu'n dda yn allweddol".

'Gwell tegwch ariannol i Sir Gaerfyrddin'

Un arall sydd wedi cyrraedd Llundain i gychwyn ar ei rôl newydd fel AS Caerfyrddin yw Ann Davies.

Wedi i nifer ymgynnull yng ngorsaf drên Caerfyrddin fore Llun i ffarwelio ag Ann Davies, dywedodd ei fod yn "teimlo'n grêt" i gael y gefnogaeth".

"Oedd o jyst yn wych, oedd e mor annisgwyl," meddai.

Wrth iddi gael ei holi ddydd Llun, dywedodd nad oedd wedi mentro mewn i Dŷ'r Cyffredin eto.

Dywedodd: "Fi'n barod am y gwaith ac am y sialens hollol wahanol i beth o ni’n meddwl y bydden ni’n neud, fi’n barod ac fe ngwna i fy ngorau.

"Fe wna i o hyd fy ngorau dros y sir dwi 'di cael fy magu ynddi ac sy’n agos iawn i’m calon".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd torf wedi ymgynnull i ffarwelio ag Ann Davies yng ngorsaf drên Caerfyrddin

“Dwi mo'yn fod yn rhan o dîm sy'n cael gwell tegwch yn ariannol i Sir Gaerfyrddin, fi 'di bod trwy’r cyngor, yn rhan o’r cyngor, fi’n gweld cymaint o gwtogi sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf.

"14 o flynyddoedd o doriadau bob blwyddyn a’r flwyddyn ddiwethaf ro' ni’n edrych ar 22 milion pounds o doriadau."

Aeth ymlaen i ddweud mai: “Tegwch i Sir Gaerfyrddin i fi eisiau... efallai ma' 'da fi syniadau yn fy meddwl i nawr, ar hyd y daith fydd 'na syniadau eraill”.

A hithau'n wraig ffarm ac yn hunan gyflogedig, dywedodd: “Ry' ni’n cadw fynd, ry' ni’n bobl ddygn iawn a 'na‘r teip o berson ydw i a fyddai’n delio gydag unrhyw beth fydd yn dod ar fy nhraws."