Honiad yn 2020 am gam-drin plentyn yn rhywiol yn Esgobaeth Bangor

- Cyhoeddwyd
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cadarnhau iddyn nhw gyfeirio honiad o gam-drin plentyn yn rhywiol yn Esgobaeth Bangor i'r heddlu yn 2020.
Mewn datganiad i raglen Newyddion S4C, maen nhw'n dweud iddyn nhw dderbyn adroddiad gan oedolyn bum mlynedd yn ôl o ymosodiad rhywiol honedig ddigwyddodd rai blynyddoeddd ynghynt pan oedd yr achwynydd yn ei harddegau cynnar.
Maen nhw'n dweud i'w hadran ddiogelu gyfeirio'r honiad at yr heddlu.
Dywed yr Eglwys yng Nghymru i'r achwynydd siarad â nhw ond na chymerwyd unrhyw gamau pellach gan nad oedd yr achwynydd am i'r mater fynd ymhellach.
Yn ôl yr Eglwys, nid clerigwr oedd yr unigolyn a gyhuddwyd ac roedd wedi gadael yr Eglwys yng Nghymru erbyn i'r heddlu wneud ymholiadau.
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn deall i'r Heddlu fod mewn cysylltiad â'r awdurdodau perthnasol yn y lleoliad lle yr oedd yr unigolyn yn byw ar y pryd.

Fe ymddeolodd Andy John fel Archesgob ddiwedd Mehefin
Daw'r datgeliad diweddaraf wedi cyfnod cythryblus i'r Eglwys a'r Esgobaeth, sydd yn cynnwys ymddeoliad sydyn cyn-Archesgob Cymru Andy John ddydd Gwener 27 Mehefin.
Mae Andy John hefyd yn Esgob Bangor.
Does dim awgrym bod Andy John ei hun wedi camymddwyn.
Cafodd crynodeb dau adroddiad ei gyhoeddi ddechrau mis Mai - roedd yn amlinellu pryderon am gymylu ffiniau rhywiol, goryfed alcohol a gwendidau diogelu a llywodraethu yn Esgobaeth a Chadeirlan Bangor.
Doedd yr Eglwys ddim am gyhoeddi'r adroddiadau llawn am resymau cyfrinachedd.
Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach i chwe adroddiad digwyddiad difrifol gael eu cyfeirio at y Comisiwn Elusennau ynglŷn â Chadeirlan ac Esgobaeth Bangor dros gyfnod o ryw ddeunaw mis.

Yr wythnos yma, cadarnhaodd yr Eglwys yng Nghymru y byddai cyfres o adolygiadau ac archwiliadau yn digwydd.
Fe ddywedon nhw byddai hynny'n cynnwys adolygiad llywodraethiant o'r Eglwys yng Nghymru ac archwiliad o holl gadeirlannau y wlad er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau diogelu yn cael eu dilyn.
Mae Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys wedi galw ar awdurdodau Esgobaeth a Chadeirlan Bangor i gydymffurfio ag ystod eang o ddiwygiadau sylfaenol gan gynnwys ym meysydd rheoli ariannol, diogelu, adnoddau dynol a phrosesau ar gyfer chwythwyr chwiban.
Bydd archwiliad diogelu allanol o holl gadeirlannau Cymru yn cael ei gomisiynu i sicrhau bod gweithdrefnau a phrotocolau priodol sy'n ymwneud â diogelu yn cael eu dilyn yn drwyadl.
Mae ymddiriedolwyr yr Eglwys yng Nghymru hefyd wedi rhybuddio bod ariannu Esgobaeth a Chadeirlan Bangor at y dyfodol yn "dibynnu'n llwyr" ar eu bod nhw'n hapus bod gweithdrefnau rheoli ac ariannu addas yn eu lle yn ogystal â gweithdrefnau gweinyddol i sicrhau llywodraethiant effeithiol.

Dywed y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes, ei bod yn poeni am ddiffyg goruchwylio diogelu mewn cyrff crefyddol
Daw y datgeliad diweddaraf wrth i Gomisiynydd Plant Cymru alw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i oruchwylio diogelu o fewn cyrff crefyddol.
Dywedodd Rocio Cifuentes wrth Newyddion S4C: "Mae'r achos hwn yn codi'r un cwestiynau rwy' i wedi eu codi droeon gyda Llywodraeth Cymru ynghylch diffyg goruchwylio diogelu mewn cyrff crefyddol.
"Dydyn ni ddim yn hyderus bod y llywodraeth yn cymryd yr angen i gael corff cryfach o ddifrif.
"Ar hyn o bryd, does dim corff sydd â'r pwerau i ymyrryd mewn materion o ran diogelu mewn cyrff crefyddol.
"Does gan neb y pwerau rheiny ac mae hynny'n broblem."
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae gennym ddisgwyliadau clir y bydd sefydliadau yng Nghymru yn dilyn gweithdrefnau diogelu Cymru ac yn cofrestru pob honiad o gam-drin i'r awdurdodau priodol mewn da bryd.
"Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, ac mae disgwyl y bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan ar ein strategaeth deng-mlynedd ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.