Yr Eglwys yng Nghymru: Ymchwiliad i honiadau o gam-drin plant yn rhywiol

Cafodd cyn-esgob Abertawe ac Aberhonddu, Anthony Pierce, ei garcharu ym mis Mawrth am achos hanesyddol o gamdrin bachgen
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-esgob sydd yn y carchar am gam-drin plentyn, a chyn-ficer gyda'r Eglwys yng Nghymru, yn destun ymchwiliad i honiadau hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol.
Mae pedwar o bobl wedi dweud wrth raglen Wales Investigates BBC Cymru fod yr Eglwys wedi anwybyddu camdriniaeth ac maen nhw wedi galw am ymchwiliad annibynnol.
Cafodd cyn-esgob Abertawe ac Aberhonddu, Anthony Pierce, ei garcharu ym mis Mawrth eleni am achos hanesyddol o gam-drin bachgen.
Mae e'n wynebu honiadau newydd o gam-drin hanesyddol, tra bod Heddlu'r De yn ymchwilio i honiadau yn erbyn cyn-ficer arall.
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru eu bod nhw'n ymddiheuro o waelod calon, yn enwedig i unrhyw un sydd wedi dioddef ac unrhyw un sydd heb gael chwarae teg oherwydd methiannau'r Eglwys.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mae'r BBC wedi darganfod i bryderon gael eu codi am Pierce yn 1986, 13 blynedd cyn iddo gael ei benodi'n Esgob.
Mae un dioddefwr wedi siarad yn gyhoeddus, gan gwestiynu sut allai person o'r fath fod wedi codi drwy'r rhengoedd pan oedd pryderon difrifol amdano.

Ym mis Chwefror eleni plediodd Anthony Pierce yn euog i bum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed
Mae hi wedi bod yn gyfnod cythryblus i'r Eglwys yng Nghymru.
Fe wnaeth Archesgob Cymru ymddeol ar ôl i ddau adroddiad beirniadol dynnu sylw at bryderon diogelu yn Esgobaeth Bangor, gan nodi fod "ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur" yno.
Y penwythnos diwethaf datgelodd BBC Cymru adroddiadau am ddiwylliant o or-yfed yng nghôr Eglwys Gadeiriol Bangor.
Er nad oes awgrym fod y cyn-Archesgob wedi ymddwyn yn amhriodol roedd ymddiriedolwyr yr Eglwys yn teimlo bod angen "newid arweinyddiaeth, prosesau a llywodraethiant" Esgobaeth Bangor.
Mae ymchwiliadau presennol yr heddlu yn edrych ar honiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol yn erbyn Anthony Pierce, yn ogystal â chyn-ficer gyda'r Eglwys yng Nghymru.

Roedd Alisdair Adams yn fyfyriwr 18 oed yn Abertawe pan ddaeth ar draws Anthony Pierce
Mae tri dioddefwr honedig - ynghyd â chyn-offeiriad - wedi dweud wrth BBC Wales Investigates eu bod nhw eisiau ymchwiliad annibynnol i'r Eglwys yng Nghymru a cham-drin.
Yn eu plith mae Alisdair Adams.
Roedd e'n fyfyriwr 18 oed yn Abertawe pan ddaeth e ar draws Anthony Pierce.
Cafodd wahoddiad i'w dy a rhoddwyd llawer o win iddo cyn i Pierce ddiffodd y golau a cheisio manteisio arno'n rhywiol.
Nid fe oedd yr unig un, ac yn dilyn cwyn fe gafodd Pierce ei wahardd o neuaddau a champws y brifysgol.

Fe wnaeth Anthony Pierce gwrdd â'r Brenin Charles - Tywysog Cymru ar y pryd - ar ymweliad ag Abertawe yn 2002
Er hynny fe barhaodd i weithio fel offeiriad a bu'n gaplan yn Ysbyty Singleton.
Cafodd ei ordeinio'n esgob yn 1999, a bu'n cwrdd â'r Brenin Charles - Tywysog Cymru ar y pryd - ar ymweliad ag Abertawe yn 2002.
Ym mis Chwefror eleni plediodd Pierce yn euog i bum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed.
Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng 1985 a 1990.

Dywed Alisdair Adams fod yr Eglwys wedi gwneud "dim byd" am weithredoedd Anthony Pierce
Mae Mr Adams wedi sôn am ei sioc fod Pierce wedi gallu parhau yn ei swydd a chael ei ddyrchafu.
"Roedd e'n manteisio ar bobl yn rhywiol, ond wnaeth yr Eglwys ddim byd am y peth," meddai.
Ar hyn o bryd mae'r Eglwys yn cynnal adolygiad i honiadau bod arweinwyr yn ymwybodol o honiadau eraill o gam-drin yn erbyn Pierce yn 1993.
Chafon nhw ddim eu pasio i'r heddlu tan 2010.
Ar ôl dod yn Esgob, Pierce oedd yn gyfrifol am ddiogelu yn ei esgobaeth.
Bu Jessica yn rhannu ei stori hi gydag Emilia Belli o raglen Wales Investigates
Mae'r rhaglen hefyd wedi siarad â Jessica - nid ei henw iawn - a oedd yn aelod o Gôr Eglwys Gadeiriol Bangor pan yn blentyn.
Pan roedd hi'n 13 oed fe fyddai aelod o staff yn yr eglwys yn ei chyffwrdd yn amhriodol.
Fe ddigwyddodd hynny am dros fis pan fyddai'r ddau ar eu pen eu hunain ar dir yr eglwys.
Wnaeth hi ddim sôn am y peth ar y pryd ond fe gysylltodd hi â'r tîm diogelu bum mlynedd yn ddiweddarach. Roedd yr aelod o staff wedi gadael erbyn hynny.
Ar ôl cwyno, dyw hi ddim yn teimlo iddi gael gwrandawiad teg.
'Wedi cael fy ngadael lawr yn ofnadwy'
Dywedodd: "Chlywes i ddim byd am beth ddigwyddodd a wnaethon nhw ddim gofyn mwy i fi chwaith.
"Dwi'n teimlo i fi gael fy ngadael lawr yn ofnadwy o ddifrifol fan 'na a dwi'n dal i ddelio gyda theimladau o'r adeg yna a'u bod nhw ddim wedi trio gwneud iawn am beth ddigwyddodd.
"Ro'n i'n teimlo drwy'r broses bod yna fai arna i, a wnaeth y tîm diogelu ddim stopio hynna rhag digwydd."
Mae Jessica yn dweud iddi gael ymddiheuriad gan y cyn-archesgob Andy John, ond mae hi eisiau i'r eglwys gydnabod yn gyhoeddus fod pethau wedi mynd o'i le.
Mae'r Eglwys yn dweud i honiadau Jessica gael eu trosglwyddo i'r heddlu ond nad oedd hi am fwrw ymlaen ag ymchwiliad.
Mae'n dweud iddyn nhw gynnig cefnogaeth i Jessica fwy nag unwaith, ond yn derbyn y dylai fod wedi cynnig cwnsela iddi.
Hefyd, mae'r system o wiriadau DBS wedi'i hailwampio ers achos Jessica i sicrhau bod cadw cofnodion yn gadarn.

Dywed Sarah Thomas fod teimlo nad ydych chi wedi cael gwrandawiad teg yn cael effaith fawr ar ddioddefwyr
Mae Sarah Thomas yn gweithio i elusen New Pathways, sy'n helpu dioddefwyr ymosodiadau rhyw.
Mae hi'n dweud bod teimlo nad y'ch chi wedi cael gwrandawiad teg yn cael effaith fawr ar ddioddefwyr.
"Pan mae rhywbeth yn digwydd mewn rhywle crefyddol mae'r person sydd wedi diodde nid dim ond yn meddwl am eu hunain, ond hefyd am yr effaith ar yr eglwys a'r gymuned," meddai.
"Os mae rhywbeth yn digwydd a dy'n nhw ddim yn cael yr ymateb ddylen nhw gael, mae hwnna yn gallu distrywio bywyd yn fwy na'r effaith o gael eich camdrin yn rhywiol."

Mae Graham Sawyer wedi ysgrifennu at wleidyddion Cymru yn galw ar y Senedd i gynnal ymchwiliad annibynnol
Mae'r rhaglen hefyd wedi clywed gan Graham Sawyer, cyn-offeiriad fu'n gweithio ym Mhont-y-pŵl yn 2003.
Fe gododd e bryderon am arweinydd ieuenctid, Darren Jenkins.
"Roeddwn i'n poeni am y cyffwrdd amhriodol," meddai.
"Doedd e ddim yn ymddangos yn rhywiol ond roedd e yn cofleidio.
Fe ges i wybod y dylwn i fod yn ofalus iawn (ynglyn a chodi hyn) neu fe allen i wynebu achos llys."
Yn y pendraw fe aeth Mr Sawyer at yr heddlu.
Cafodd Darren Jenkins ei garcharu yn 2006 am dreisio llanc 16 oed pum gwaith.
Mae Mr Sawyer yn dweud ei fod yn poeni nad yw'r diwylliant wedi newid, ac mae e wedi ysgrifennu at wleidyddion Cymru yn galw ar y Senedd i gynnal ymchwiliad annibynnol.

Mae'r Athro Syr Malcolm Evans wedi cwestiynu a oes digon wedi ei wneud ers adroddiad IICSA
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn destun dau adroddiad diogelu annibynnol hyd yma - yr Adolygiad o Achosion Hanesyddol yn 2009 a'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhyw (IICSA) a ddechreuodd yn 2014.
Mae'r athro Syr Malcolm Evans, a oedd yn aelod o banel IICSA, wedi cwestiynu a oes digon wedi ei wneud ers yr adroddiad hwnnw.
"Dyw hi ddim yn ymddangos fod yna drafodaeth eang wedi bod am y dyfodol yng Nghymru fel y bu yn Eglwys Loegr," meddai.
"Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw'r lefel honno o drafodaeth, myfyrio a gweithredu."
'Dim lle yn yr Eglwys i gamdriniaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Does dim lle yn yr Eglwys i gamdriniaeth, camymddwyn neu guddio, ac rydym yn benderfynol y bydd y materion sydd wedi eu nodi yn cael eu datrys yn llawn, a threfniadau yn cael eu gwella fel y gall holl aelodau'r eglwys, a'r gymdeithas ehangach, fod yn hyderus bod yr eglwys yn cynnig amgylchedd diogel a chefnogol i bawb."
Ychwanegodd fod ymddiriedolwyr yr Eglwys wedi galw am newidiadau, gan gynnwys ym maes diogelu a chwythu'r chwiban ac y byddai archwiliad diogelu allanol o bob cadeirlan yng Nghymru yn cael ei gomisiynu, yn ogystal a chynnal adolygiad i'r diwylliant o fewn yr Eglwys.
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Chwefror