Cymeradwyo symud llyfrgell Aberaeron yn 'sarhad'

Llyfrgell Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cyngor Ceredigion y bydd symud y llyfrgell o hen Neuadd y Sir yn helpu i arbed £70,000

  • Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Ceredigion wedi cymeradwyo cynnig i adleoli llyfrgell Aberaeron, er bod mwy na 90% o bobl wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu'r cynllun.

Dywed Cyngor Ceredigion y bydd symud y llyfrgell o'i safle presennol yng nghanol y dref i bencadlys y cyngor ar y cyrion yn helpu i arbed £70,000.

Ond mae mwyafrif y bobl a ymatebodd i ymgynghoriad yn credu na fydd yr adleoliad yn arwain at arbedion nac yn annog mwy o bobl i ddefnyddio'r llyfrgell.

Yn ôl Cyngor Ceredigion fe fydd y newid yn golygu creu llyfrgell newydd yn swyddfeydd Penmorfa “i foderneiddio’r ddarpariaeth”, gyda’r nod o gynyddu defnydd o’r llyfrgell, cynyddu oriau agor, gwella cyfleusterau i blant a sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol ac amgylcheddol.

Bydd grant o £268,000 gan Lywodraeth Cymru yn ariannu’r llyfrgell newydd ym mhencadlys y cyngor.

Nododd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r cabinet “nad yw'n bosibl rhedeg gwasanaeth llyfrgell ariannol hyfyw o adeilad mor fawr”, sef yr hen Neuadd y Sir lle mae’r llyfrgell wedi’i lleoli ar hyn o bryd.

Yn 2023-24 cyfrannodd trethi a biliau trydan uchel at "gostau sylweddol" gwerth cyfanswm o bron i £45,000.

Pan fydd y llyfrgell yn symud, bydd adeilad Neuadd y Sir – sydd mewn lleoliad canolog yn y dref – yn “addas ar gyfer ailddatblygu sympathetig” yn ôl y cyngor.

Dywed y cyngor y byddai datblygu’r adeilad yn gwella “ei effeithlonrwydd a’i gynllun er mwyn caniatáu llety busnes a/neu fasnachol a all gymryd lle nifer yr ymwelwyr a rhoi cyfleoedd cyflogaeth".

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y llyfrgell yn symud i bencadlys y cyngor ym Mhenmorfa

Mae busnesau yn Aberaeron wedi dweud eu bod yn pryderu y gallai symud y llyfrgell leihau nifer yr ymwelwyr yn y dref.

Mae Aberaeron yn un o bedair prif lyfrgell yng Ngheredigion – mae’r lleill yn Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

Mae’r cyngor yn dweud bod y defnydd o gangen Aberaeron yn “isel, gan gyfrif am oddeutu 10% o holl ddefnyddwyr gweithredol y llyfrgelloedd a 10% o fenthyciadau ar draws y sir".

96% yn gwrthwynebu symud y llyfrgell

Ond mae ymatebion i'r ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf yn awgrymu bod pobl yn anhapus iawn gyda chynigion y cyngor.

Cafwyd 896 o ymatebion i’r ymgynghoriad, gyda’r cyngor yn dweud nad oedd 45% o’r rheiny yn ddefnyddwyr llyfrgell.

Dywedodd 96% eu bod yn gwrthwynebu symud y llyfrgell, gyda 88% yn teimlo na fyddai symud yn annog cynnydd mewn defnydd o’r llyfrgell.

Fe anghytunodd 80% y byddai symud y llyfrgell yn arwain at well effeithlonrwydd, gyda 84% yn anghytuno gyda’r farn y byddai symud yr adnodd yn arwain at welliannau mewn gwasanaethau cwsmer.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans ei fod yn "sarhad" disgwyl i bobl deithio i'r safle newydd ym Mhenmorfa

Yn annerch aelodau cabinet yn eu cyfarfod, fe ddywedodd Cynghorydd Aberaeron, Elizabeth Evans i bobl ymateb i’r ymgynghoriad gydag un llais ac fe apeliodd ar y cabinet “i wneud y penderfyniad iawn ar gyfer y bobl - ac fe gewch chi eich defnyddwyr [yn y llyfrgell bresennol]”.

Fe ddywedodd hefyd y byddai ailddatblygu lleoliad presennol y llyfrgell yn Neuadd y Sir yn galluogi’r cyngor “i wneud rhywbeth sbesial a fyddai’n cydfynd gyda gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar drawsnewid canol trefi”.

Yn ôl y Cynghorydd Evans, nid oedd yr asesiad effaith ar symud y llyfrgell “yn addas i bwrpas”.

Darllenodd rhan ohono oedd yn dweud na fyddai’r newid yn esgeuluso pobl hŷn ac anabl, er gwaetha'r ffaith bod y llyfrgell yn symud 650 o fetrau o ganol y dref.

Meddai Ms Evans: “Sut mae hyn yn adlewyrchiad o fywyd pob dydd pobl fydd yn gorfod dod yma [i Benmorfa]? Does dim geiriau, mae'n sarhad.”

Wrth iddi gloi ei sylwadau, daeth cymeradwyaeth iddi o’r galeri cyhoeddus.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y llyfrgell yn symud 650 o fetrau o ganol Aberaeron

Cyfeiriodd y Cynghorydd Gareth Lloyd hefyd at yr ymgynghoriad gan ofyn: “Os nad ydych chi’n mynd i wneud sylw o ymatebion yr ymgynghoriad, beth yw eu pwrpas?

"Mae’r cyhoedd yn mynd i feddwl ein bod yn lladd democratiaeth.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Craffu, Catrin MS Davies, ei bod wedi ystyried yr ymgynghoriad ac wedi cyfeirio at y lefelau uchel o wrthwynebiad i'r cynnig yn ei sylwadau agoriadol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Catrin MS Davies eu bod wedi ystyried y gwrthwynebiad i'r cynnig

Ychwanegodd bod y defnydd o lyfrgell Aberaeron yn gymharol isel mewn cymhariaeth â llyfrgelloedd eraill Ceredigion a bod symud i Benmorfa yn sicrhau “adnodd ardderchog i bobl a thref Aberaeron".

Dywedodd hefyd y byddai parcio gwell yn y lleoliad newydd a’r gallu i aros ar agor am bum awr yr wythnos yn hirach.

Cymeradwyo yr argymhelliad i symud y llyfrgell i’w leoliad newydd wnaeth y mwyafrif o aelodau’r cabinet, gyda saith aelod o blaid ac un yn ymatal eu pleidlais.

Pynciau cysylltiedig