2,000 wiced, 10,000 pelawd ac un pen-glin newydd

Pelawdau dros y degawdau... rhai o'r dros 60,000 o beli mae Dafydd Timothy wedi eu bowlio mewn hanner canrif gyda'r un clwb
- Cyhoeddwyd
Bowlio dros 60,000 pêl mewn 10,000 pelawd, bachu 2,000 o wicedi a chael un pen-glin newydd - i gyd mewn 50 mlynedd o ymroddiad i un clwb.
Dyna gamp Dafydd Timothy o'r Rhyl, wnaeth ymuno gyda chlwb criced Carmel nôl yn 1975.
Mae o'n parhau i chwarae hyd heddiw, a 936 gêm yn ddiweddarach mae wedi cyrraedd carreg filltir go arbennig.
Fe ddechreuodd ei ddiddordeb mewn criced pan roedd yn ddisgybl yn Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl, ac Ysgol Glan Clwyd.
Mae'n cofio gweld poster ar ddiwedd yr 1960au yn hysbysebu cystadleuaeth yng nghlwb newydd Carmel and District, ger Treffynnon, ac aeth yno i roi cynnig arni.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan roedd tua 20 oed, fe gafodd gynnig lifft gan rywun o'r Rhyl oedd yn chwarae i glwb Carmel - a phenderfynu ymuno.
Mae'n cadw cofnod manwl o'r gemau, ac felly ar ddechrau ei 50fed tymor gyda'r clwb eleni, roedd yn gwybod ei fod yn nesáu at wiced rhif 2,000.

Ymroddiad - gêm wedi ei drefnu gan chwaraewyr Carmel yn dilyn eira trwm ar eu cae Pen y Gelli dros gyfnod y Nadolig tua 15 mlynedd yn ôl
"Ddaethon nhw i gyd ar frys dweud y gwir," meddai Mr Timothy ar raglen BBC Radio Cymru Dros Frecwast.
"Ro'n i'n wyth yn brin dechrau'r tymor ac roedd 'na dair i bedair gêm wedi mynd heb fawr o lwyddiant.
"Nes i fachu un neu ddau ond wedyn ddaeth pedwar yn erbyn Rhuthun dydd Sadwrn diwetha' i gyd fel bysus Crosville gynt - roeddach chi'n disgwyl am oes ac wedyn roedd rhes ohonyn nhw'n dod."
Mae'r cyfan wedi dod mewn 10,700 pelawd - sydd gyfystyr â bowlio dros 63,000 o beli, a'r cyfan wedi gadael ei farc.
'Gadael ei draul ar fy mhengliniau'
"Ges i ben-glin newydd dair blynedd yn ôl oherwydd yr holl fowlio - mae wedi gadael ei draul ar fy mhengliniau ar ôl dros 10,000 o belawdau," meddai.
"Lwcus iawn mi 'naeth y llawfeddyg joban anhygoel, ac yn rhyfedd iawn y tymor dilynol mi nes i ei gyfarfod o ym Mhontblyddyn lle'r oedd ei fab o'n chwarae.
"Roedd gwên fawr ar ei wyneb a finnau'n poeni 'I hope I'm doing the right thing playing cricket', 'Oh I'm so glad,' medda fo, 'i'ch gweld chi'n chwarae ac yn mwynhau'.
"Felly roedd o'n teimlo bod o wedi 'neud joban dda ar fy mhen-glin a ro'n i, gobeithio, yn dangos y parch yn ôl trwy barhau i gadw'n heini a chwarae."

Yn ddiweddar fe ddaeth Dafydd Timothy ar draws llun o'i daid R E 'Bob' Price (yng nghanol y rhes flaen, gyda gwallt tywyll a mwstash ac yn gafael yn ei goes), oedd yn chwarae i dîm criced y Rhyl. Mae'n debyg i'r llun gael ei dynnu yn yr 1920au
Tydi Mr Timothy ddim yn cofio ei wiced gyntaf un, mae 'na stori tu ôl i wiced rhif 2,000.
Bron i 40 mlynedd yn ôl, roedd yn maesu i dîm Carmel mewn gêm oddi cartref yn erbyn Dolgellau - gyda'i wraig yn gwylio'r gêm efo'u babi bach Mari mewn pram.
Fe darodd chwaraewr ifanc y bêl am chwech, wrth i bawb ei gwylio hi'n hedfan tuag at y pafiliwn.
"Wnaeth y bêl daro'r to a rowlio lawr ac roedd pawb yn dal eu gwynt," meddai wrth Cymru Fyw.
"Wnaeth o rowlio a disgyn a glanio reit wrth wyneb Mari yn y pram. Mi fyddai wedi gwneud niwed difrifol os fyddai wedi glanio arni, o bosib wedi ei lladd."
Tua chwe blynedd yn ôl roedd mab Dafydd - Gwion, sydd hefyd yn chwarae criced - yn gwneud ymarfer dysgu mewn ysgol yn Yr Wyddgrug.
Dechreuodd drafod y gamp gydag athro oedd yn chwarae criced ers blynyddoedd.
Wrth i'r sgwrs ddatblygu i drafod clwb Carmel, daeth i'r amlwg mai fo oedd wedi taro'r bêl wnaeth bron â niweidio Mari dri degawd ynghynt.
A phwy oedd wiced rhif 2,000 Dafydd? Yr un dyn.

Dafydd, ar y chwith yn y rhes gefn, gyda'r tîm yn 1989
"Nes i dynnu ei goes wrth iddo fo fynd allan - 'dwi wedi talu pwyth yn ôl ar ôl 38 o flynyddoedd'," meddai Mr Timothy.
"Ond roedd y digwyddiad yn Nolgellau wedi cael effaith hynod arno - wedi bod yn drawmatig iddo fo. Mae'n anhygoel mai fo oedd wiced 2,000."
Ychwanegodd ei fod yn ffodus am gael y cyfle a'r gefnogaeth gan y clwb ac i'w deulu am ei alluogi i gyrraedd y garreg filltir.
Meddai: "Dwi ddim wedi sbïo nôl a dwi wedi bod yn hynod, hynod o ddiolchgar i'r clwb bach yma - di-nod o Sir y Fflint - am roi cyfle i mi.
"Mae'n glwb bach cartrefol, teuluol, agos atoch, ac er bod ni'n hynod o gystadleuol, gobeithio ein bod ni'n chwarae brand o griced teg efo pharch at ein gwrthwynebwyr ni hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth
- Cyhoeddwyd10 Mehefin