Ben Kellaway, y cricedwr amryddawn a thalent unigryw

Ben KellawayFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Doedd buddugoliaeth Morgannwg dros Surrey yng nghwpan undydd y gêm ar yr Oval y llynedd ddim yn ddigon ynddo'i hun i greu'r penawdau.

Er yn fuddugoliaeth gyfforddus i'w chanmol yn Llundain, rhaid nodi fod mwy na thîm cyfan yn absennol i'r tîm cartref - naill ai ar ddyletswydd ryngwladol â Lloegr neu wrthi'n cystadlu yng nghystadleuaeth 'Y Cant'.

Ond ar brynhawn chwilboeth ym mis Awst fe ddigwyddodd rhywbeth arall am y tro cyntaf wrth i'r chwaraewr dawnus ifanc, Ben Kellaway, gipio wicedi wrth fowlio gyda'i law dde, ac yna'r chwith. Mae'n sgil unigryw sydd yn barod wedi dod â'r cricedwr o Sir Fynwy i amlygrwydd.

Ond cyn trafod y ddawn nodedig yma mae'n werth sôn am ei ddatblygiad a sut yn union y dechreuodd ei gariad at y gêm.

ben kellaway
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ben Kellaway ei eni yng Nghasnewydd yn 2004

"Yn rhyfedd iawn doedd dim traddodiad o unrhywun yn chwarae criced yn y teulu," meddai Ben.

"Roedd fy nhad a'n nhad-cu yn chwarae rygbi, ond roedd gen i fwy o ddiddordeb mewn pêl-droed yn ifanc iawn. Fe dyfodd y diddordeb a'r ysfa i chwarae criced pan o'n i'n wyth mlwydd oed gyda'r clwb lleol yng Nghas-gwent."

Ond mewn amser fe ddisgleiriodd doniau'r Cymro.

"Yn ffodus, roedd gen i rywfaint o ddawn ac fe ddatblygodd y sefyllfa'n gyflym, ac o fewn dim o'n i'n chwarae o fewn system ieuenctid Cymru ac yna academi Morgannwg.

"O'n i dal yn fy arddegau pan 'nes i dderbyn fy nghytundeb proffesiynol cyntaf gyda'r sir, ac roedd hynny'n freuddwyd i ddweud y gwir. Ond mae fy nyled i'n fawr i glwb Cas-gwent ble dechreuodd y cyfan, a dwi dal yn cael croeso mawr pan fydda i'n dychwelyd adref."

Dylanwad y chwaraewyr profiadol

Er gwaetha'r talent a'r addewid roedd Kellaway ei hun yn barod i gyfaddef bod cyrraedd yr uchelfannau mor gyflym yn brofiad brawychus ar adegau.

Roedd y teimlad swrreal o rannu'r ystafell newid â chwaraewyr adnabyddus byd-eang fel Marnus Labuschagne a Colin Ingram yn reit annifyr, ond bod Ingram yn enwedig wedi bod yn allweddol o ran estyn llaw a chymorth yn y blynyddoedd cynnar.

"Ma' Colin wedi bod yn ffigwr anferth ac ysbrydoledig o ran fy natblygiad. Mae wedi chwarae dros y byd ac mae ei gyfraniad i'r sir wedi bod yn anhygoel.

"Ond i fi yn bersonol mae e wedi bod yno i fi gael gair ar unrhyw adeg – mae ei ymwybyddiaeth o'r gêm yn wych ac mae ei gyngor a'i rôl fel mentor wedi bod yn amhrisiadwy."

Colin IngramFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Colin Ingram yn cynrychioli Morgannwg, 9 Mai, 2025. Mae Ingram wedi bod yn ddylanwad enfawr ar Kellaway ers iddo ennill ei le yn nhîm cyntaf y sir

Bowlio gyda'r ddwy law

Mae llwyddo fel chwaraewr amryddawn mewn criced yn dasg anodd, ond ei fwriad yw i barhau i serennu gyda'r bat a'r bêl.

Mae ei fatio eleni wedi mynd o nerth i nerth gan sgorio 181 heb fod mas yn erbyn Sir Caint, a dod o fewn pum rhediad i sgorio cant eto yn erbyn Northants ar Erddi Soffia.

Ond ag yntau eisoes wedi cipio 14 wiced ym mhob cystadleuaeth eleni mae ei ddawn gyda'r bêl yn amlwg i bawb hefyd.

Mae'r chwaraewr ei hun yn cydnabod mae ei fowlio sydd angen gwella tipyn ar hyn o bryd, a dyna pam y mae medru bowlio gyda'r ddwy law yn dipyn o arf.

"Dyw bowlio â'r llaw dde a'r chwith ddim yn rhywbeth dwi wedi gwneud erioed," meddai.

Ben KellawayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kellaway ei ymddangosiad cyntaf dros Forgannwg ar lefel dosbarth cyntaf ym mis Medi 2023

"Cyn i'r tymor y llynedd ddechrau penderfynais drio ddyfalbarhau gyda'r grefft (bowlio gyda'r ddwy law) ac ymarfer yn ddwys, oherwydd mae'n sgil unigryw does dim llawr yn gallu gwneud a dwi'n teimlo felly does fawr gen i golli wrth fentro.

"Yr hyn sy'n rhyfedd ydi, ar wahân i fowlio dwi ddim yn gallu gwneud unrhywbeth arall gyda'n llaw chwith - dim hyd yn oed dal cyllell a fforc!

"Ond dwi'n teimlo os wna i ymarfer fe allai'r weithred brofi'n werthfawr yn ystod fy ngyrfa."

Mae Ben yn chwaraewr hynod ddawnus ac unigryw, ac mae deufis cyntaf y tymor hwn wedi rhoi cipolwg o'i wir botensial a'r dystiolaeth yn awgrymu bod ganddo ddyfodol disglair.

Pynciau cysylltiedig