Galw ar bobl i gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd
- Cyhoeddwyd
Roedd Storm Dennis yn 2020 yn ergyd drom i fusnesau ym Mhontypridd gyda nifer yn gadael y dref oherwydd y difrod gafodd ei achosi gan y llifogydd.
Ers hynny, mae Jeff Baxter - perchennog siop lyfrau ar lannau Afon Rhondda - yn edrych yn gyson ar y we er mwyn monitro lefel y dŵr.
Ym mis Chwefror 2020 roedd Storyville books yn un o filoedd o fusnesau a chartrefi a gafodd eu difrodi gan y storm waethaf i daro'r ardal mewn cenhedlaeth.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bellach yn annog pobl a busnesau i gofrestru i'w system rhybudd llifogydd er mwyn eu helpu i baratoi cyn i unrhyw storm daro'r gaeaf hwn.
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2020
Yn dilyn y storm, fe wnaeth Jeff Baxter benderfynu symud Storyville books i un o'r adeiladau gwag yng nghanol y dref, ond mae dal yn poeni am weld rhagor o lifogydd.
"Dwi'n gofidio am lefel yr afon yn cynyddu a bod sefyllfa 2020 yn cael ei hailadrodd," meddai.
"Mae wastad yng nghefn eich meddwl, a dwi'n edrych yn gyson ar-lein i weld beth yw lefel yr afonydd, ac yn poeni am effaith gyffredinol y llifogydd ar ein busnes."
Mae un ymhob saith cartref mewn risg o lifogydd yn ôl CNC, ffigwr all gynyddu 30% yn y 100 mlynedd nesaf oherwydd cynhesu byd eang.
Mae CNC yn dweud bod derbyn rhybudd cynnar yn gallu lleihau effaith y llifogydd.
Dywedodd Jeff Baxter fod y data ar-lein yn helpu i dawelu ei feddwl.
"Mae'n rhoi hyder i mi, yn enwedig os ydi hi'n 02:00 a 'mod i eisiau mynd 'nôl i'r gwely."
Dim ond nawr mae Mr Baxter wedi dod yn ymwybodol o system rhybudd llifogydd CNC - ac mae'n ystyried dilyn y cynllun pan fydd yn gosod amddiffynfeydd llifogydd yn ei siop.
Gall perchnogion tai wirio'r risg o lifogydd ar wefan CNC, ac mae modd cofrestru i dderbyn rhybuddion.
Mae'r wefan hefyd yn cynnwys cyngor ymarferol, er enghraifft cadw eiddo personol ar lawr uchaf y tŷ, a sut i ddefnyddio bagiau tywod yn gywir.
'Glaw yn dod yn fwy peryglus'
Dywedodd Andy Wall, rheolwr risg llifogydd gyda CNC, fod cynhesu byd eang yn achosi tywydd cyfnewidiol iawn.
"Fe gawsom ni 12 storm y gaeaf diwethaf sy'n record. Roedd hi'n wlyb yn gyson," meddai.
"Fe wnaethom ni brofi bron i 200 o rybuddion am lifogydd, ac roeddem ni ar risg uwch o lifogydd am dros draean o'r flwyddyn.
"Mae hynny'n dangos yr hyn rydym yn gorfod delio ag ef, a bod glaw yn dod yn fwy peryglus".
Er y cyngor defnyddiol sydd ar gael, ychwanegodd Mr Wall, nid yw hynny'n gallu rhwystro dŵr rhag dod i mewn achosion difrifol.
Yn ogystal â'r siop lyfrau, cafodd Clwb y Bont - a oedd yn boblogaidd iawn yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst - ei ddifrodi gan y llifogydd yn 2020.
Mae amddiffynfeydd llifogydd wedi eu gosod ar y drysau er mwyn rhwystro' hyn ddigwyddodd yn ystod storm Dennis rhag digwydd eto.
Mae'r clwb sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr hefyd wedi cofrestru i dderbyn y rhybuddion llifogydd.
Dywed Wil Morus Jones, cyn-gadeirydd ac aelod o'r clwb ei fod dal yn ofid pan fod glaw yn disgyn ond fod y rhybuddion yn gymorth.
"Mae wir yn bwysig achos nawr mae gennym ni amddiffynfeydd llifogydd ar yr adeilad felly mae wir yn bwysig ein bod yn eu gosod".
Mae'r data ar gyfer y rhybuddion yn dod gan oddeutu 400 o orsafoedd monitro CNC o amgylch Cymru.
Maen nhw'n medru mesur dyfnder a llif yr afon yn yr afonydd ac maen nhw'n cael eu gwirio yn gyson.
Yn ôl Heledd Fychan, yr Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru, mae 'na bryder gwirioneddol yn parhau ymhlith trigolion yr ardal.
"Dwi'n ofni pe bai ni'n gweld Storm Dennis arall, mai yr un fyddai'r effaith yn anffodus," meddai.
"Yr hyn 'da ni wedi ei weld ydi ambell i gymuned sydd wedi cael cefnogaeth i greu cynllun argyfwng, ond yn anffodus, 'da ni'n dal yn gwybod bod nifer o'r cynlluniau atal llifogydd dal angen eu hariannu.
"Blynyddoedd yn ddiweddarach, yr un ydi'r risg i gartrefi a busnesau mewn nifer o'r ardaloedd dioddefodd yn ofnadwy yn 2020, a dwi'n poeni bod sefyllfa CNC yn golygu bod ganddyn nhw chwaith ddim yr adnoddau i fod yn helpu pobl i baratoi at y risg o lifogydd ac ymateb os ydi'r gwaetha'n digwydd eto."
Ychwanegodd bod yna gwestiwn hefyd ai CNC ddylai fod yn gyfrifol am wneud y gwaith yma.
"Dwi'n meddwl mai beth 'da ni ei angen ydi sefydlu fforwm llifogydd i Gymru, fel sy na'n Lloegr a'r Alban, fyddai'n cefnogi cymunedau o ran y pethau ma' nhw'n gallu ei wneud i fod yn paratoi.
"Mae 'na betha ymarferol dyla ni fod yn eu gwneud ond does gan CNC ddim yr adnoddau i wneud hynny."
'Lleihau'r perygl o lifogydd yn flaenoriaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae lleihau’r perygl o lifogydd a chynnydd yn lefel y môr yn flaenoriaeth i ni a dyna pam rydyn ni’n darparu’r lefelau uchaf erioed o gyllid i’n hawdurdodau rheoli perygl llifogydd i helpu i ddiogelu cartrefi a busnesau ledled Cymru.
“Rydym yn ariannu CNC ac awdurdodau lleol i ymgymryd â gweithgareddau ymwybyddiaeth a chydnerthedd llifogydd drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys darparu cyngor i gymunedau a hoffai ddatblygu grŵp llifogydd cymunedol.
“Mae pwysau cyllidebol ar gyfer 2024-25 wedi'u dogfennu'n dda ac nid oes unrhyw sefydliadau wedi’u heithrio i'r sgyrsiau a'r penderfyniadau cyllidebol anodd y mae angen eu gwneud.
"Mae CNC yn adolygu'n feirniadol ei holl weithgareddau gan gydnabod bod cyflawni ei swyddogaethau craidd a'i ddyletswyddau statudol yn cael blaenoriaeth."