Beirniadu Hansh S4C am greu 'argraff negyddol' o'r Rhyl

Rhaglen HanshFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y "criw o stripwyr yn anelu at roi Rhyl yn ôl ar y map gyda'u clybiau strip unigryw" meddai S4C wrth hyrwyddo'r rhaglen

  • Cyhoeddwyd

Mae rhaglen S4C wedi cael ei beirniadu gan Aelod o'r Senedd am ddarlledu "stereoteipiau niweidiol" am dref Y Rhyl.

Cafodd rhaglen ar wasanaeth Hansh, Strip ei darlledu fis diwethaf ac fe'i hyrwyddwyd gan S4C trwy ddweud bod "criw o stripwyr yn anelu at roi Rhyl yn ôl ar y map gyda'u clybiau strip unigryw".

Dywedodd Gareth Davies, AS Dyffryn Clwyd, ei fod yn "siomedig" sut yr oedd y rhaglen yn "portreadu fy etholaeth".

Gwrthododd llefarydd ar ran S4C y cyfle i ymateb.

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

"Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda phwnc y bennod" meddai Gareth Davies

Roedd rhybudd cynnwys cyn y darllediad bod y rhaglen yn "cynnwys iaith gref a golygfeydd o natur rywiol".

Wrth godi'r mater yn siambr y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Davies bod y rhaglen wedi dechrau "gyda chyfosodiad o vox pops wedi’u golygu’n ddetholus, gyda phobl yn defnyddio iaith anweddus i bardduo a chamliwio'r Rhyl".

Ychwanegodd: Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda phwnc y bennod; yn wir, mae pob diwydiant yn haeddu cynrychiolaeth.

"Ond dwi'n meddwl ei bod yn siomedig y byddai darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn dewis portreadu fy etholaeth fel un flêr, gan chwarae i mewn i stereoteipiau niweidiol am y dref yr ydym yn gweithio'n galed i'w newid.

"Gwn fod S4C yn gorff cyhoeddus annibynnol, a benodwyd gan Lywodraeth y DU, ond fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg, dylem gael rhywfaint o lais dros ei gynnwys a’i weithrediad, yn enwedig pan fo’r cynnwys yn sarhau’r bobl y mae’n ceisio eu diddanu neu eu haddysgu."

'Creu trwbwl da'

Gofynnodd Mr Davies i'r Trefnydd Jane Hutt - sy'n rheoli busnes y llywodraeth yn y Senedd - am "amlinelliad o farn Llywodraeth Cymru ar y rhaglen benodol hon ar S4C, ac amlinellu pa sylwadau a wneir i’r sianel ynghylch ei chynnwys".

Ymatebodd MS Hutt, "fel y dywedasoch, mae S4C yn ddarlledwr cyhoeddus annibynnol.

"Rwy'n meddwl eich bod wedi mynegi eich barn, ac yn ôl pob tebyg eich bod wedi cyfleu eich barn i'r darlledwr cyhoeddus, ac rwy'n meddwl mai dyna'r llwybr priodol i'w gymryd."

Mae sianel Hansh ar YouTube, dolen allanol, a chanddi 8,000 o danysgrifwyr, yn brolio ei bod yn "rhoi llwyfan i bobl ifanc Cymru drwy gomedi, straeon trawiadol a chreu trwbwl da".

Pynciau cysylltiedig