3 llun: Lluniau pwysicaf Heledd Bianchi

Heledd BianchiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
  • Cyhoeddwyd

Y gantores a’r bardd Heledd Bianchi sy’n rhannu ei hoff luniau gyda Cymru Fyw. Mae Heledd wedi rhyddhau albym ddwyieithog, Chwilben, ynghyd â chasgliad o gerddi, Galar/Grief, ar Spotify.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Teulu Heledd wedi ymgynull am lun

Dyma lun o’m teulu o ddeg gan gynnwys Poppi, y ci yn sefyll ar safle Glofa Fernill yn y Rhondda, nid nepell o’n cartref yn Nhynewydd adeg y pandemig.

Roedd e’n braf cael darganfod olion hanesyddol yn ein ardal lleol ac yn brafiach fyth rhannu ein darganfyddiadau o’r 19eg a’r 20fed ganrif gyda’n cyd cymdogion wrth droedio’r mynyddoedd.

Mae hanes safleoedd fel hyn mor bwysig i’w cofio am na byddai ein pentrefi a’n tirwedd yn edrych fel maen nhw heddiw hebddynt.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Heledd a'i chaseg, Candi

Dyma lun o fi a’m caseg, Candi, nôl yn haf, 2022 pan roedd bywyd yn hwylus.

'Mond pedair oed oedd hi yn y llun hwn ac mor annwyl hefyd. Rhoddais gartref a chariad iddi am flwyddyn tra bod hi’n gwella o anaf a gafodd gan gic gan un o geffylau ei chyn berchennog.

Cadwais i hi draw ym Mhont-y-clun am gyfnod nes bod y teithio i ymweld â hi wedi mynd yn ormod, yn enwedig gyda teulu mawr. Fy mreuddwyd i oedd i’w chadw hi ger 'y nghartref yn Nhynewdd, Treherbert, ond yn anffodus nid oedd tir yma ar gael ar ei chyfer ac felly bu rhaid i mi ffeindio cartref newydd iddi. Mae hi wedi ymgarefu yn ei chartref newydd ac mae’i pherchennog newydd yn dotio arni!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Tony Bianchi, tad Heledd, ar gopa'r Dolomites

Dyma lun o’m tad ar gopa’r Dolomites. Roedd e’n ddringwr brwd. Daw’r llun yma ag atgofion melys i mi o’m mhlentyndod yn dringo mynyddoedd o bob lliw a llun dros Gymru gyfan, Ardal y Llynoedd a’r Alpau gyda Mam, Dad a’m chwaer.

Yn cofio Mam yn straffaglu gyda’m chwaer a finne lawr Tryfan pan oeddem mond yn bedair a phum mlwydd oed tra saethai Dad ymlaen yn uchelgeisiol gyda’i fap. “Mond hanner awr arall i fynd,” gwaeddai yn y pellter. Ond bydda’i hanner awr yn aml yn troi yn ddwy a mwy; Mam druan! Pan o'n i’n dipyn yn hŷn y bydden yn rasio fy nhad i’r copa.

Bu farw fy nhad ar yr 2il o Orffennaf, 2017 yn 65 oed. Mae e’n parhau i fod yn golled enfawr yn ein bywydau ni gyd ond yn dal i’n ysbrydoli. Cyfansoddais gasgliad o gerddi dwyieithog yn fy ngalar. Câf fodlonrwydd a rhyddhad mawr o fynegi trwy ‘sgwennu, yn enwedig trwy gân neu gerdd. Penderfynais rannu’r gyfrol dan y teitl Galar, Grief ar Spotify llynedd.

Straeon perthnasol

Pynciau cysylltiedig