Rhannu 'cyfnod tywyllaf fy mywyd' am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai cynnwys yr erthygl yma beri loes
Mae gweinidog o Fôn wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am gyfnod tywyll a wnaeth iddo geisio rhoi terfyn ar ei fywyd.
Ar ddiwedd wythnos codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl, dywed y Parchedig Dyfed Wyn Roberts o Lanfairpwll bod "bod yn agored yn hynod o bwysig".
Daw ei sylwadau wedi iddo weinyddu angladd un a fu farw trwy hunanladdiad.
Ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnos dywedodd bod y profiad wedi bod yn "galed" ond "bod y fraint o helpu teulu drwy adeg mor annychmygol o anodd yn brofiad hynod o werthfawr".
Efallai bod ganddo "empathi gwahanol" gan ei fod ef ei hun yn "oroeswr", dywedodd.
Wrth drafod ei sylwadau yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru, dywed Mr Roberts ei fod yn gobeithio fod ei brofiad yn "gallu dod â phersbectif bach yn wahanol" a'i fod yn "gallu deall rhyw gymaint o stori'r person sydd wedi llwyddo i ladd ei hun".
"Hyd at heddiw dwi ddim wedi siarad yn gyhoeddus am fy mhrofiad i fy hun - dwi wedi siarad am iselder ond dyma'r tro cyntaf i mi siarad am y profiad hwn a ddigwyddodd oddeutu 20 mlynedd yn ôl.
"Mae bod yn agored yn hynod o bwysig," meddai gan ychwanegu ei fod yn pwysleisio yn ystod angladdau anodd y pwysigrwydd o rannu profiadau.
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Mai
Wrth gyfeirio at yr hyn a ddigwyddodd iddo fe dywedodd Dyfed Wyn Roberts mai "blynyddoedd o fynd i mewn ac allan o iselder, a gorbryder" a arweiniodd at y diwrnod pryd geisiodd dod â'i fywyd i ben.
"Nid un trigar ydy o, o bell ffordd. Mae'r meddwl yn mynd mor scrambled fel 'dach chi ddim yn meddwl yn iawn mewn unrhyw ffordd," meddai.
"'Ro'n i'n meddwl y byddai'r byd yn well hebdda fi.
"Mae pobl yn sôn weithiau mai cam hunanol yw cymryd eich bywyd eich hun ond 'dach chi ddim yn meddwl am bobl eraill.
"Mae'n dywyllwch, mae'n anobaith llwyr... ond y broblem ydy nad ydych chi ddim yn siarad efo neb pan 'dach chi ynghanol hyn - 'nes i ddim beth bynnag.
"Doeddwn i ddim yn chwilio am gydymdeimlad. Dymuno i'r cwbl ddod i ben roeddwn i."
Dywed ei fod yn credu fod iechyd meddwl yn dal yn stigma ymhlith rhai er ei fod yn cael ei drafod yn llawer mwy agored.
Gan gyfeirio at ei brofiad personol dywed fod ei sefyllfa ef ei hun wedi gwaethygu wedi iddo ddeffro pan oedd wedi gobeithio, ar y pryd, peidio gwneud hynny.
"Rwy'n ddyn o ffydd ac ar y pryd roeddwn yn arweinydd eglwys eitha' ceidwadol," meddai.
"Mi 'nes i wynebu cryn gondemniad am yr hyn roeddwn i wedi'i wneud.
"Dwi'n meddwl bod rhannau o'r eglwys, efallai, yn parhau i wrthod gweld salwch meddwl, iselder ac hunanladdiad fel salwch - a salwch ydy o, wrth gwrs - mae o'n ymwneud â bod y meddwl yn torri lawr mewn gwahanol ffyrdd."
Ychwanegodd fod ei brofiad o gael trawiad ar y galon flwyddyn a hanner yn ôl wedi ennyn llawer mwy o gydymdeimlad.
"Hyd yn oed heddiw ar ôl yr holl siarad sydd wedi bod 'dan ni'n gwahaniaethu - mae'r stigma yn parhau a dyna pam mae'n bwysig siarad am y pethau yma - bod ni'n torri muriau i lawr."
'Edrych ymlaen yn obeithiol'
Wrth fyfyrio ar ei gyfnod o salwch meddwl, dywed y Parchedig Roberts nad yw'r daith ar ben ond bod ffrindiau sy'n deall a "ddim yn beirniadu", therapi, meddwlgarwch ac ymarfer corff wedi helpu llawer.
"Mae'r ffaith bod hi wedi cymryd 20 mlynedd i fi siarad am y profiad, i raddau, yn awgrymu nad wyf wedi cyrraedd diwedd y daith o hyd.
"Dwi dal i deimlo - teimlad o gywilydd ac o fethiant. Mae hwnna ar adegau yn fy llethu i. Dwi ddim allan o hyn o bell ffordd.
"Dwi'n berson mewnblyg iawn a does neb, weithiau, yn gallu fy nghyrraedd i ond drwy siarad a rhannu profiad ac adeiladu pethau fel ymarfer corff, anadlu dwfn a meddwlgarwch i batrwm bob dydd dwi ddim wedi llithro gymaint fel na allai wneud rhywbeth yn ei gylch o," meddai.
"Dwi'n edrych ymlaen i'r dyfodol," ychwanegodd, "mae yna strategaethau o hyd ac efo'r strategaethau ac efo fy ffydd dwi dal yn edrych ymlaen yn obeithiol i'r dyfodol."
Os yw cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Mae'r cyfweliad hwn i'w glywed yn llawn ar Bwrw Golwg ar Radio Cymru am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds.