'Colli'r mab mor anodd ond pwysig rhannu'r profiad'
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog yng Nghaerdydd wedi dweud mai "hunllef pob rhiant yw colli plentyn, ond dwi'n meddwl bod hi'n bwysig siarad am yr hyn sydd wedi digwydd".
Bu farw Chris, mab 25 oed Dr Rosa Hunt - gweinidog Capel Tabernacl yn y brifddinas - ychydig ddyddiau cyn Nadolig 2022.
"Doedd dim cwest i'w farwolaeth a nodwyd ei fod wedi marw o achosion naturiol, ond rwy'n credu mai damwain gyda chyffuriau oedd achos ei farwolaeth yn y diwedd," meddai Dr Hunt sydd hefyd yn cyflwyno rhaglen All Things Considered ar Radio Wales yn achlysurol.
"Roedd e wedi ceisio cymryd ei fywyd fwy nag unwaith.
"Y tro cyntaf i hynny ddigwydd oedd yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y coleg a 'dan ni'n gwybod ei fod wedi trio ddwywaith wedyn - bob tro ychydig bach yn llai difrifol.
"Roedd hynny yn ychydig o gysur gan ei fod yn arwydd ei fod yn trio cael help."
Roedd Chris yn berson hynod o dalentog - wedi gwneud TGAU Mathemateg yn yr ysgol gynradd, wedi cael gradd dosbarth cyntaf ac yn gyfansoddwr o fri ers yn ifanc.
Pob tro ar ben-blwydd ei fam byddai'n cyfansoddi darn o gerddoriaeth arbennig iddi, ei recordio ac yna ei gyflwyno fel CD gyda chlawr arbennig - clawr y byddai ef ei hun wedi'i gynllunio.
'Ffrind ffyddlon'
"Roedd Chris rywfaint yn wahanol ers yn fachgen bach," medd ei fam.
"Doedd e byth eisiau mynd i'r ysgol. Roedd e eisiau aros gyda ni yn y tŷ.
"Roedd hi'n anodd iddo gydymffurfio a roedd e wastad isio gwybod y rheswm pam bod angen gwneud pethau.
"Yn y tŷ ro'n i'n hapus iawn i esbonio, ond yn yr ysgol doedd dim amser gan yr athrawon i esbonio pethe fel pam bod angen eistedd ar y carped a phethau felly.
"Roedd e wastad yn ffrind ffyddlon iawn, yn boblogaidd gyda'i ffrindiau yn yr ysgol ond doedd e ddim eisiau bod yno."
Yn ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol bu farw ei ffrind agos drwy hunanladdiad, ac roedd hynny'n "brofiad ofnadwy ac unig iddo yn ystod cyfnod allweddol".
Roedd yn hapus ymhlith ei ffrindiau yn y brifysgol ond doedd e ddim yn gweld llawer o bwynt bod yno, ac er pob anogaeth gan ei deulu i gael cymorth iechyd meddwl, roedd hynny'n anodd.
Doedd e chwaith ddim am ddychwelyd i fyw adref.
'Byw gyda thristwch a thywyllwch'
"Sioc enfawr i ni oedd cael neges ganddo yn gynnar iawn un bore yn dweud ei fod yn yr ysbyty am ei fod wedi cymryd gorddos, a sioc fwy, efallai, oedd darganfod ei fod yn cymryd cyffuriau," medd Dr Hunt.
"Yn ddiweddarach roedd yn sioc canfod pa mor ddifrifol oedd y broblem gyffuriau, ond doedd e, wrth gwrs, ddim am i ni wybod.
"Roedd e'n ein caru ni gymaint, ac mi fyddai'n cywilyddio.
"Doeddwn ni ddim yn deall ar y pryd ond erbyn hyn ni'n credu mai ryw self-medication oedd e, a phan dyw ffyrdd cyfreithiol ddim yn helpu mae rhywun yn trio unrhyw beth.
"Roedd Chris yn rhedeg llawer hefyd i drio helpu ei hun, ond y cyffuriau, dwi'n meddwl, oedd yn ei wneud i deimlo'n well ac yn llenwi'r gwacter.
"Ond yr hyn sy'n digwydd, wrth gwrs, yw bod y broblem yn mynd yn waeth ac mae'r cyfan yn vicious circle."
Ychwanegodd: "Adeg ei farwolaeth roedd e'n gweithio mewn ysgol i blant ag anghenion arbennig ac roedd e mor dda gyda nhw.
"Dydd Mercher cyn Nadolig 2022 roedd e fod i ddod adref. Roeddwn i mewn cynhadledd yn Yr Alban pan ges i'r newyddion ofnadwy gan ei ffrind gorau.
"Damwain, siŵr o fod, oedd ei farwolaeth gan ei fod wedi pacio anrhegion Nadolig i ni.
"Roedd e'n poeni cymaint am fyw blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, ac yn dioddef. Roedd e'n byw gyda thristwch a thywyllwch bob dydd."
'Gall ddigwydd i bawb'
Dywed Dr Hunt nad oedd hi'n delio gyda'r cyfan o gwbl yn ystod y misoedd cyntaf, ond bod ei ffydd yn ei chynnal a'i bod yn teimlo ei bod wedi dod yn well gweinidog yn ystod y misoedd diwethaf.
"Dwi'm yn gallu dychmygu rhywbeth gwaeth na cholli plentyn. Hunllef pob rhiant yw colli plentyn," meddai.
"Dwi wedi edrych ar ei ôl e am 25 mlynedd, dwi wedi ei fwydo e, wedi aros yn effro gydag e pan o'dd e'n sâl.
"Dwi wedi mynd i weld e'n chwarae rygbi ac wedi bod yn meddwl amdano drwy'r amser, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf pan oedd e'n sâl.
"Bob tro roedd y ffôn yn canu - ro'n wastad yn meddwl ai Chris oedd yno.
Ychwanegodd: "Mae'n anodd pan ni gyda'n gilydd fel teulu.
"Am flynyddoedd lawer ro'n ni'n chwech a nawr ni'n bump, a'r cwestiwn dwi'n ei gasáu yw faint o blant sydd gyda ni.
"Ac os ydi pobl yn gofyn lle maen nhw, dwi'm eisiau esbonio a felly dwi'n dweud tri - a dwi'n dweud yn dawel iawn yn fy mhen i 'Sori Chris, ond dwi ddim wedi anghofio amdanat ti'."
'Dwi'n trio byw'
Dywedodd Dr Hunt: "Dwi ddim yn delio gydag e drwy ffeindio rhyw fath o ateb ond dwi'n meddwl bod Duw isio ni i fyw. Byddai Chris eisiau i ni fel teulu fyw - felly dwi'n trio byw.
"Mae wedi newid fi... nawr dwi'n gweld bo fi'n weinidog gwell. Dwi'n gwneud llawer o waith gyda'r digartref bellach.
"Mae rhai ohonyn nhw'n cymryd cyffuriau neu alcohol a bob tro mae rhywun eisiau cael sgwrs gyda fi am fod yn gaeth i gyffuriau dwi'n meddwl bob tro y gallai hwn fod yn Chris a dwi eisiau bod yna ar eu cyfer nhw.
"Dwi'n deall nawr y gall hyn ddigwydd i bawb - hyd yn oed pobl fel Chris sydd wedi cael ei fagu mewn teulu a oedd yn ei garu cymaint, ac a oedd yn meddwl y byd ohono."
Dywed Dr Hunt bod cefnogaeth cynulleidfa'r capel, ffrindiau a staff Coleg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd wedi ei chynnal.
"Fel gweinidog ti sydd fel arfer yn edrych ar ôl pobl, ti sy'n caru pobl ac yn ymweld â phobl ond nawr dwi wedi dysgu sut mae derbyn cariad - ac mae'r cariad wedi bod yn anhygoel," meddai.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefanAction Line y BBC.
Mae cyfweliad llawn Rosa Hunt i'w glywed yn y rhifyn hwn o Bwrw Golwg ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2022