Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2024
- Cyhoeddwyd
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgelu enwau'r cyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024.
Cafodd y rhestr ei datgelu, sy'n cynnwys 12 o lyfrau mewn pedwar categori, ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru brynhawn Sul.
Bydd enillydd pob categori yn derbyn £1,000 a bydd £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith ynghyd â thlws Llyfr y Flwyddyn.
Yn ogystal â'r panel beirniadu, bydd cyfle i'r darllenwyr fynegi eu barn wrth i Golwg 360 a Nation Cymru gynnal pleidleisiau Barn y Bobl.
'Cyfoeth' o lyfrau Cymraeg
Y beirniaid oedd â'r dasg o ddewis y rhestr fer oedd y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a'r awdur, Nici Beech; yr actor, cyfarwyddwr a'r awdur, Hanna Jarman; y bardd ac uwch arholwr Llenyddiaeth CBAC Tudur Dylan Jones a'r awdur ac uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Rhiannon Marks.
Dywedodd Rhiannon Marks bod hi'n braf "gweld bod y fath gyfoeth o lyfrau Cymraeg wedi eu cyhoeddi y flwyddyn ddiwethaf".
Fe ychwanegodd Tudur Dylan Jones fod "amrywiaeth ac ehangder y cyfan yn fodd i agor llygaid a phob un o’r awduron yn dangos dawn arbennig i drin geiriau, gan ein syfrdanu a’n hudo fel ei gilydd".
Llŷr Titus oedd enillydd y brif wobr a'r wobr ffuglen yn 2023, ac mae ar y rhestr unwaith yn rhagor eleni o dan y categori Gwobr Ffuglen, gyda'i gyfrol Anfadwaith.
Rhestr Fer Gymraeg 2024
Y Wobr Farddoniaeth
Mae Bywyd Yma, Guto Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)
Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Barddas)
Y Traeth o Dan y Stryd, Hywel Griffiths (Barddas)
Gwobr Ffeithiol Creadigol
Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)
Y Delyn Aur, Malachy Owain Edwards (Gwasg y Bwthyn)
Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)
Gwobr Ffuglen
Anfadwaith, Llŷr Titus (Y Lolfa)
Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)
Raffl, Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy
Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)
Y Nendyrau, Seran Dolma (Gwasg y Bwthyn)
Astronot yn yr Atig, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
Rhestr Fer Saesneg 2024
Y Wobr Farddoniaeth
I Think We’re Alone Now, Abigail Parry (Bloodaxe Books)
Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing)
In Orbit, Glyn Edwards (Seren)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Sarn Helen, Tom Bullough (Granta Publications)
Birdsplaining: A Natural History, Jasmine Donahaye (New Welsh Rarebyte)
Spring Rain, Marc Hamer (Harvill Secker)
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies
Stray Dogs, Richard John Parfitt (Third Man Books)
The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, Alex McCarthy (Doubleday)
Neon Roses, Rachel Dawson (John Murray)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy
Where the River Takes Us, Lesley Parr (Bloomsbury Children’s Books)
Brilliant Black British History, Atinuke (Bloomsbury Children’s Books)
Skrimsli, Nicola Davies (Firefly Press)
'Gwledd o restr'
Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru bod "gwledd o restr" wedi ei dewis gan y beirniaid eleni gan ychwanegu fod pob un o'r cyfrolau yn "cyflwyno agwedd wahanol ar lenyddiaeth Cymru".
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru - y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth - ers 2004.
Bydd un o'r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill y brif wobr a hawlio teitl Llyfr y Flwyddyn 2024.
Bydd enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Galeri Caernarfon ar nos Iau, 4 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd21 Mai 2023