Cyhuddo Huw Edwards o greu lluniau anweddus o blant

Huw Edwards
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-gyflwynydd newyddion y BBC, Huw Edwards, yn wynebu tri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant, yn ôl Heddlu'r Met yn Llundain.

Dywed y llu bod y troseddau honedig wedi digwydd rhwng Rhagfyr 2020 ac Ebrill 2022, ac "yn gysylltiedig â delweddau a gafodd eu rhannu mewn sgwrs WhatsApp".

Maen nhw'n dweud bod Mr Edwards wedi cael ei arestio ar 8 Tachwedd 2023 a'i gyhuddo ar 26 Mehefin eleni wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron awdurdodi hynny.

Ychwanegodd eu datganiad ei fod "ar fechnïaeth i ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher 31 Gorffennaf".

Mae'r llu yn rhybuddio'r cyfryngau a'r cyhoedd bod yr achos yn un gweithredol, a ni ddylai unrhyw un gyhoeddi unrhyw beth, "gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol" a allai amharu ar yr achos yn y dyfodol.

Mae Mr Edwards yn cael ei gyhuddo o fod â chwe llun categori A, 12 llun categori B ac 19 llun categori C ar WhatsApp.

Os yn euog fe allai wynebu dedfryd o sawl blwyddyn yn y carchar.

Fe gadarnhaodd y BBC ym mis Ebrill bod Mr Edwards, sy'n 62 oed, yn gadael y gorfforaeth ar sail meddygol.

Pynciau cysylltiedig