Y Llithren Hud gan Jesica - stori fuddugol Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd

Jesica o Ysgol ID Hooson yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar BBC Radio Cymru eleni.

Daeth Jesica yn fuddugol yn adran y Cyfnod Sylfaen. Yr awdures Casia Wiliam oedd y beirniad mewn cystadleuaeth gref. Y gofynion oedd ysgrifennu stori dan y thema hud a lledrith.

Fel gwobr, fe luniodd yr artist Valériane Leblond lun clawr i stori Jesica.

Mwynhewch stori Jesica, Y Llithren Hud.

Y Llithren Hud

Ffynhonnell y llun, Valériane Leblond
Disgrifiad o’r llun,

Y Llithren Hud gan Jesica

Un diwrnod aeth Soffi i’r parc a chael sioc anferthol. Aeth Soffi i lawr y llithren melyn llachar.

"Wîîî!" gwaeddodd Soffi wrth iddi lithro i lawr y llithren hud i fyd y tylwyth teg.

Gwelodd Soffi lawer o dylwyth teg yn hedfan a dawnsio yn y goedwig.

Roedd pawb yn gwisgo ffrogiau. Roedd Soffi yn gwenu o glust i glust ym myd y tylwyth teg.

"Dwi’n cael llawer o hwyl yma, dwi am aros yma am byth," meddai.

Roedd Soffi yn hapus iawn ond roedd yn amser i fynd adref.

Aeth Soffi yn ôl i’r parc ac aeth i lawr y llithren hud eto. Tro yma aeth Soffi i fyd y deinosoriaid.

"Aaaa, mae llawer o ddeinosoriaid mawr sydd am fy mwyta! Dwi am redeg i ffwrdd!"

Roedd Soffi yn hapus eto yn y parc.

"Beth am un tro arall ar y llithren hud? Lle ga i fynd nesaf tybed?"

Aeth Soffi i lawr y llithren hud am y tro olaf un. Aeth hi i weld anifeiliaid lliwgar, rhai mawr a rhai bach. Roedd Soffi yn hoffi gwrando ar yr adar yn canu.

Roedd Soffi am ddod 'nôl i’r jyngl bob dydd.

Aeth 'nôl i’r parc bob diwrnod a gwneud llawer o ffrindiau. Doedd hi byth am ddweud wrth neb am y llithren hud.