'Cyfleoedd wedi'u methu' i asesu dynes a laddodd ddyn

Zara Radcliffe
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Zara Radcliffe wrth yr heddlu ei bod yn "gwybod y byddwn i’n lladd rhywun heddiw”

  • Cyhoeddwyd

Cafodd "cyfleoedd eu methu" i asesu iechyd meddwl dynes â sgitsoffrenia a laddodd ddyn 88 oed ac anafu tri arall mewn archfarchnad, yn ôl cwest.

Fe wnaeth Zara Radcliffe ladd John Rees yn yr ymosodiad mewn Co-op ym Mhenygraig, Rhondda Cynon Taf, ar 5 Mai 2020.

Cofnododd y Crwner Graeme Hughes reithfarn naratif, gan ychwanegu bod Mr Rees wedi cael ei “ladd yn anghyfreithlon” gan Radcliffe.

Fe wnaeth y crwner ganfod bod y ffordd roedd y tîm iechyd meddwl cymunedol - sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol y cyngor a staff meddygol y bwrdd iechyd - wedi monitro Radcliffe ar ôl iddi gael ei rhyddhau o'r ysbyty yn "annigonol".

Ffynhonnell y llun, Michael Smith
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Rees ei drywanu tra roedd ei wraig Eunice yn eistedd mewn car y tu allan

Clywodd y cwest na ddigwyddodd galwad ffôn oedd wedi’i threfnu gyda Radcliffe ar 30 Ebrill, a phe bai wedi digwydd, ei bod yn “fwy tebygol na pheidio” y byddai cydlynydd gofal Radcliffe wedi dod yn ymwybodol nad oedd hi wedi bod yn aros gartref nac yn cymryd ei meddyginiaeth.

Ychwanegodd fod eu methiant i gwblhau asesiad risg mwy diweddar pan roedd hi yn y gymuned fwy na thebyg wedi cyfrannu ymhellach at farwolaeth Mr Rees, a'i fod yn "gyfle arall a gollwyd".

Cafodd achos meddygol marwolaeth John Rees ei nodi fel trawma difrifol i’r wyneb.

Wrth gofnodi rheithfarn naratif yn y gwrandawiad ym Mhontypridd ddydd Iau, dywedodd y crwner fod John Rees wedi’i “ladd yn anghyfreithlon” a bod yr “ymosodwr yn dioddef o seicosis a bod symptomau ddim yn cael eu rheoli”.

Clywodd y cwest fod tad Radcliffe, Wayne, wedi codi pryderon amdani ar ddiwrnod yr ymosodiad.

Fe wnaeth nifer o alwadau ffôn i'r tîm iechyd meddwl argyfwng, gan ddweud wrthynt ei bod wedi ailddechrau cymryd cyffuriau hamdden.

Wnaeth neb ei ffonio yn ôl, ond fe wnaeth cydlynydd gofal gynlluniau i ymweld â'r cartref yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Am tua 14:00, gwnaeth Radcliffe ei ffordd i'r archfarchnad a defnyddio poteli gwin a diffoddwr tân i ymosod ar bedwar o bobl.

Yn ddiweddarach dywedodd wrth yr heddlu: “Roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n lladd rhywun heddiw.”

'Risg isel'

Anfonwyd Radcliffe i ysbyty diogelwch uchel Rampton, ac ym mis Hydref 2020, cafodd ei chadw am gyfnod amhenodol o dan orchymyn ysbyty.

Clywodd y cwest fod Radcliffe wedi ymosod ar blismon a staff meddygol yn y gorffennol.

Rhoddwyd tystiolaeth gan rai o’r tîm a fu'n ei thrin yn ystod arhosiad pedwar mis fel claf mewnol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gan amlinellu diagnosis o sgitsoffrenia gyda symptomau'n cynnwys ymddygiad ymosodol.

Clywodd y cwest, ar ôl pythefnos o gymryd cyffur gwrth-seicotig yn gyson, eu bod yn credu ei bod yn gwella a’i bod - ar adeg ei rhyddhau ar 24 Chwefror 2020 - yn cael ei hystyried yn risg isel.

'Gwelliannau sylweddol'

Cafodd ei gofal ei drosglwyddo i’r tîm iechyd meddwl cymunedol ond dim ond dwywaith y gwelon nhw hi yn ystod y 10 wythnos nesaf, yn rhannol oherwydd cyfyngiadau Covid.

Dywedodd Paul Mears, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, fod y bwrdd iechyd wedi dysgu o’r achos, gan sefydlu Bwrdd Gwella Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl Oedolion “i sicrhau ein bod yn canolbwyntio’n barhaus ar ddarparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel i ddefnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr sydd mewn cysylltiad â’n gwasanaethau cleifion mewnol iechyd meddwl”.

Ychwanegodd fod adolygiad diweddar o wasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn "cydnabod y gwelliannau sylweddol".

Fe wnaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf ymddiheuro i deulu Mr Rees a phawb arall a gafodd eu heffeithio, a dywedodd y bydd "yn gweithio gyda'n partneriaid i adolygu'r casgliad a mynd i'r afael ag unrhyw feysydd i'w gwella a nodwyd yn y dyfarniad".