Gyrfa ddarlledu ddisglair Huw Edwards yn deilchion

Huw EdwardsFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Edwards, a ymunodd â'r BBC ym 1984, yn un o ddarlledwyr mwyaf adnabyddus y DU

  • Cyhoeddwyd

Roedd Huw Edwards yn un o ffigyrau mwyaf cyfarwydd ac uchel ei barch ar deledu Prydain, ond mae hynny wedi newid yn llwyr wedi iddo bledio’n euog i dri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant.

Daeth cyfaddefiad cyn-gyflwynydd newyddion y BBC yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher dri mis ar ôl iddo ymddiswyddo o'r gorfforaeth ar "gyngor meddygol".

Nid oedd wedi ymddangos ar y teledu ers mis Gorffennaf y llynedd, pan gafodd ei enwi fel y person ynghanol honiadau oedd hefyd yn ymwneud â lluniau anweddus.

Mae ei ble euog yn nodi diwedd gyrfa ym myd darlledu sydd wedi ymestyn dros 40 mlynedd a mwy.

Hyd at y llynedd, Edwards oedd dewis cyntaf y BBC i arwain darllediadau o ddigwyddiadau cenedlaethol mawr, gan gynnwys etholiad cyffredinol 2019 ac angladd y Frenhines Elizabeth II.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Edwards yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher

Cafodd Edwards ei eni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg o Brifysgol Cymru, Caerdydd.

Ond dechreuodd ddilyn gyrfa yn y cyfryngau, ac fe gafodd ei swydd gyntaf ym myd darlledu yn yr orsaf radio Swansea Sound, gan ddarllen y newyddion yn Gymraeg a Saesneg.

Ymunodd â'r BBC fel newyddiadurwr dan hyfforddiant ym 1984, ac yn y pendraw cafodd swydd fel gohebydd gwleidyddol i BBC Cymru.

Dwy flynedd yn ddiweddarach daeth yn ohebydd seneddol BBC Cymru.

Erbyn dechrau'r 1990au, ef oedd prif ohebydd gwleidyddol y BBC yn San Steffan.

Daeth yn wyneb cyfarwydd ar sianel BBC News - BBC News 24 fel oedd hi ar y pryd - ar ôl iddi gael ei lansio ym 1997.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Edwards yn un o brif gylwynwyr Six O'Clock News ym 1999

Tua'r un pryd, roedd Edwards yn gweithio fel cyflwynydd achlysurol ar Six O'Clock News ar BBC One - un o'r bwletinau newyddion teledu mwyaf poblogaidd yn y DU - a daeth yn un o brif gyflwynwyr y rhaglen ym 1999.

Pedair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ddyrchafiad i'r Ten O'Clock News, ac roedd yn cyflwyno a sylwebu ar ddigwyddiadau cenedlaethol mawr i'r BBC yn aml.

Roedd y digwyddiadau hynny'n cynnwys priodas Dug a Duges Caergrawnt (fel roedden nhw'n cael eu hadnabod ar y pryd) yn 2011, angladd Dug Caeredin yn 2021, Jiwbilî Ddiemwnt a Phlatinwm y Frenhines yn 2012 a 2022, a choroni'r Brenin Charles yn 2023.

Ond efallai mai ym mis Medi 2022 y daeth y foment fwyaf arwyddocaol yng ngyrfa gyflwyno Edwards, pan gyhoeddodd farwolaeth y Frenhines Elizabeth II i’r genedl.

Cyflwyno sawl rhaglen Gymraeg

Fe wnaeth Edwards gyflwyno sawl rhaglen yn y Gymraeg hefyd, gan gynnwys Dechrau Canu, Dechrau Canmol a Bore Sul.

Roedd hefyd yn gyfrifol am amryw o gyfresi dogfen yn ymwneud â hanes Cymru, gan gynnwys Owain Glyndŵr a Chymru'r Oesoedd Canol, gwleidyddiaeth Cymru yn y 19eg ganrif ac yn fwy diweddar, ei gyfres ar hanes Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Roedd yn cefnogi nifer o sefydliadau a chyrff yng Nghymru, gan gynnwys yr Academi a enwyd ar ôl ei dad ym Mhrifysgol Abertawe, Academi Hywel Teifi.

Yn 2021 fe wnaeth Edwards raglen ddogfen Gymraeg am ei yrfa, lle datgelodd ei fod wedi dioddef pyliau o iselder.

Cafodd hefyd ei urddo i'r Orsedd yn Nhregaron yn 2022.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Edwards ei enwi fel cyflwynydd y BBC ynghanol yr honiadau gan ei wraig Vicky Flind yr haf diwethaf

Yn ogystal â digwyddiadau brenhinol mawr, roedd Edwards wedi dod yn wyneb darllediadau etholiad cyffredinol y BBC, gan gamu i esgidiau David Dimbleby.

Roedd Edwards ymysg y rheiny oedd yn ennill y cyflog mwyaf yn y BBC.

Yn 2017 - y flwyddyn gyntaf i’r BBC gael ei orfodi gan y Senedd i gyhoeddi cyflogau prif gyflwynwyr - datgelwyd bod Edwards wedi ennill £550,000.

Wedi penawdau negyddol am yr arian a wariwyd gan y BBC - a’r gwahaniaeth rhwng rhai o’i sêr gwrywaidd a benywaidd - fe gymrodd Edwards doriad cyflog, ac yn 2023 roedd yn ennill £435,000.

Ond dangosodd yr adroddiad blynyddol diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, fod ei gyflog wedi codi eto £40,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, er nad oedd ar y sgrin am y mwyafrif ohono.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Edwards wedi cyflwyno bwletin News at Ten am 20 mlynedd

Daeth ei yrfa ddisglair yn y BBC i ben ar ôl i’r Sun gyhoeddi honiadau yn haf 2023 fod cyflwynydd dienw i’r BBC wedi talu symiau mawr o arian am luniau anweddus o unigolyn.

Bu dyddiau o ddyfalu ynghylch pwy allai’r cyflwynydd fod - fe wnaeth y Sun, ac yn ddiweddarach BBC News, ryddhau rhagor o honiadau, gan gadw’r stori yn y penawdau.

Ar 13 Gorffennaf 2023, cadarnhaodd gwraig Huw Edwards, Vicky Flind, mai ef oedd y cyflwynydd dan sylw, gan ddweud ei bod yn gwneud hynny “yn bennaf oherwydd pryder am ei les meddyliol” ac i amddiffyn eu pum plentyn.

“Mae Huw yn dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol,” meddai. “Mae digwyddiadau’r dyddiau diwethaf wedi gwaethygu pethau’n fawr, mae wedi dioddef episod difrifol arall ac mae bellach yn derbyn gofal ysbyty fel claf mewnol lle bydd yn aros am y dyfodol rhagweladwy.

“Unwaith mae'n ddigon da i wneud hynny, mae’n bwriadu ymateb i’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi.”

Ni wnaeth y datganiad hwnnw erioed.

Enw da yn deilchion

Cafodd Edwards ei arestio ym mis Tachwedd ar gyhuddiadau gwahanol i'r honiadau a wnaed yn haf 2023.

Clywodd y llys ddydd Mercher fod yr heddlu wedi darganfod bod dyn arall wedi anfon 377 o ddelweddau rhywiol at Edwards ar WhatsApp, gyda 41 ohonyn nhw’n ddelweddau anweddus o blant.

Mae wedi pledio'n euog, ond nid yw wedi cael ei ddedfrydu eto.

Dywedodd ei fargyfreithiwr ei fod yn flaenorol "o gymeriad eithriadol" a bod ganddo broblemau iechyd "meddyliol a chorfforol".

Ond mae ei ble euog yn golygu bod ei yrfa ddisglair, a'i enw da, yn deilchion.