Pryder am gynllun i godi tyrbinau gwynt ger Y Bala
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun newydd i godi naw o dyrbinau gwynt ar safle rhwng Corwen a’r Bala wedi arwain at bryderon yn lleol.
Yn ôl cwmni RWE, mi fyddai’r cynllun - sy’n destun ymgynghoriad cyhoeddus - yn cynhyrchu digon o ynni i bweru 48,000 o gartrefi.
Ond mae rhai trigolion yn poeni y gallai’r safle amharu ar yr olygfa a bioamrywiaeth yr ardal.
Dywedodd RWE eu bod nhw’n gwrando ar bryderon trigolion ond yn pwysleisio bod angen cynlluniau fel hyn i gyrraedd targedau sero net.
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2024
Fel rhan o'r cynllun presennol mi fyddai naw o dyrbinau yn gorwedd ar Fynydd Mynyllod sydd i’r de-orllewin o Gorwen ac i’r gogledd ddwyrain o’r Bala.
Mi fyddai dau o’r tyrbinau yn 200m o uchder gyda’r saith arall ychydig yn llai yn 180m.
Pwysleisio mae’r cwmni bod y safle’n ddeniadol oherwydd cyflymder y gwynt ac y byddai’n arwain at fudd i’r ardal leol.
Ond gyda chyfarfod cyhoeddus eisoes wedi ei gynnal gan drigolion lleol gyda dros 100 yn bresennol, mae’r cynlluniau yn achosi "poen meddwl" yn ôl y cynghorydd sir leol, Gwyneth Ellis.
“Mae pobl yn cydnabod bod angen ynni o ffynonellau adnewyddadwy, ond ar y llaw arall mi yda' ni angen amddiffyn ein bioamrywiaeth a’n byd natur," meddai.
“Dwi’n meddwl bod pobl yn teimlo bod hwn yn ormod i’r safle yma, mae’n safle i'r gylfinir, mawn, mae’n un hanesyddol, felly dwi’n meddwl bod pobl yn teimlo ei fod o’n ormod a dwi’n dueddol o gytuno”.
Ychwanegodd y cynghorydd fod dod i gasgliad yn anodd gan ei bod hi’n deall yr angen am ynni glan, ond mynnodd bod angen prosiectau mwy “lleol sy’n rhoi budd i gymunedau”.
Yn ôl cwmni RWE, mi fyddai'r cynllun yn helpu busnesau lleol ac yn creu swyddi cynhyrchu.
Ger Mynydd Mynyllod, mae cartref Gwenllian Williams, sy’n dod o’r ardal, yn edrych allan dros y safle sy'n cael ei ystyried.
Mae hi'n anghytuno yn chwyrn gyda'r cynlluniau: “'Da ni jest ddim isho gweld o, a 'da ni wedi arfer efo prydferthwch yr ardal a mynyddoedd o flaen y tŷ a rŵan bosib da ni am weld naw ohonyn nhw.
“Efo’r haul yn mynd lawr bob nos tu ôl iddyn nhw, mi gawni’r flicker o’r haul mewn i’r gegin a lownj a bydd rhaid i ni gau ffenestri ni jest bob nos.
“Ma’n mynd i effeithio mental health ni, pam ddyle ni fyw fela, mewn bocs mewn ffordd, pam? Mae jest yn annheg."
Ychwanegodd Ms Williams eu bod nhw wedi buddsoddi mewn paneli solar, gan godi’r cwestiwn pam na all mwy o bobl wneud hynny.
Mae cwmni RWE yn cynnal sesiynau ymgynghori cyhoeddus er mwyn dod i ddeall pryderon a barn trigolion, ac yn ôl Eleri Davies, pennaeth ynni gwynt ar y tir i RWE, maen nhw’n gwrando ar bryderon pobl leol.
“Da ni’n mynd trwy broses o asesu”, meddai.
“I gyrraedd net sero mae targedau heriol iawn ‘da’r llywodraeth yng Nghymru ac yn San Steffan hefyd, felly i gyrraedd bydd angen llawer o brosiectau fel hyn ar y tir ac ar y môr... mae angen popeth arnom ni."
Ychwanegodd Ms Davies fod yr ardal ‘dan sylw wedi ei hadnabod gan Lywodraeth Cymru fel un addas i godi trybini tebyg, ac mai'r llywodraeth fydd â'r gair olaf o ran caniatâd cynllunio.
Mae RWE eisoes yn gyfrifol am sawl prosiect tebyg gan gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy yng Nghymru i bweru dros 500,000 o gartrefi.
Mi fydd yr ymatebion oll yn cael eu hystyried cyn y bydd disgwyl i Lywodraeth Cymru ddod i benderfyniad ar ddyfodol y safle yn y flwyddyn 2025.