Cymuned yn helpu ei gilydd gyda chostau gwisg ysgol

Beca Brown gyda'r gwisgoedd ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Beca Brown gyda rhai o'r gwisgoedd ysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae dechrau'r flwyddyn newydd academaidd yn gallu bod yn gyfnod o bryder i rai, yn cynnwys rhieni sy’n wynebu costau prynu gwisg ysgol mewn cyfnod o dlodi.

Felly mae un gymuned yng Ngwynedd yn helpu ei gilydd drwy gyfnewid dillad a chyfrannu i ‘fanc gwisg ysgol’ sydd ar gael i unrhywun.

Y bwriad ydi ysgafnhau’r baich ariannol i deuluoedd gan roi hwb i’r amgylchedd ar yr un pryd - a helpu normaleiddio defnyddio dillad ail-law.

'Stigma' dillad ail-law yn diflannu

Cynghorydd ward Llanrug ar Gyngor Gwynedd Beca Brown sydd tu cefn i’r fenter, a’r cynllun wedi mynd o nerth i nerth ers iddi wneud y gyntaf yn dilyn cyfnod Covid.

“Pan nes i ddechrau gwneud o ryw dair blynedd yn ôl roedd rhywun yn synhwyro dipyn bach o stigma a dipyn bach o feddwl ‘ydw i’n cael mynd i fan hyn i nôl y dillad, ydi o ar gyfer rhywun arall, ydw i’n gymwys?'” meddai ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.

“Ond mae pobl wedi arfer erbyn hyn bod o’n agored i bawb, mae ‘na groeso i bawb fynd yno i gymryd be' maen nhw angen.

"Mae o wedi mynd yn boblogaidd iawn, a pobl yn cysylltu efo fi rŵan ar ddechrau’r gwyliau yn gofyn 'pryd mae diwrnod uniforms chdi?'”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwisgoedd Ysgol Gynradd Llanrug ac Ysgol Uchwradd Brynrefail ar gael - y ddwy ysgol sydd o fewn etholaeth ward Llanrug

Dywedodd y cynghorydd bod siwmper ysgol gyda logo yn costio tua £25 a bod teuluoedd gyda sawl plentyn yn wynebu gwario cannoedd os oes angen sgidiau, cotiau a dillad ymarfer corff.

Erbyn hyn mae ganddi storfa sy’n cadw pob math o ddillad ac esgidiau mae'r disgyblion eu hangen yn ystod y flwyddyn ysgol.

Am ddeuddydd dros yr haf mae hi’n mynd a phopeth i Sefydliad Coffa Llanrug lle gall unrhywun fynd i weld beth sydd ar gael, beth sy’n ffitio - a mynd ac eitemau adref yn barod at ddechrau Medi.

Os oes unrhywun angen dillad ysgol yn ystod y flwyddyn mae posib cysylltu gyda hi i weld beth sy’n weddill yn y storfa.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwisg ymarfer corff - yn cynnwys rhai gyda logo'r ysgol uwchradd - yn cael eu cyfnewid hefyd

Meddai: “Mae pobl yn gwitchad i weld be' s'gen i ac maen nhw’n adeiladu eu neges gwisg ysgol o gwmpas be’ sydd ar gael gen i mewn ffordd. Mae pobl yn werthfawrogol ohono yn enwedig teuluoedd efo sawl plentyn.

“Dwi’n cynnig be’ bynnag dwi’n cael i mewn gan y gymuned. Rhywbeth mae’r gymuned yn rhan ohono fo ydi o, maen nhw’n dod a’u hen ddilladau nhw a dwi’n ail-ddosbarthu nhw.”

Logos ysgol 'ddim yn orfodol'

Mae costau gwisg ysgol wedi bod yn bwnc trafod gwleidyddol yn ddiweddar yn enwedig yn sgil pwysau ariannol wrth i gostau byw gynyddu.

Y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnal ymgynghoriad am fesurau fyddai’n ysgafnhau’r baich ariannol gan arwain at ganllawiau newydd sy’n dweud na ddylai logos ar wisg ysgol fod yn orfodol.

'Gwisg yn newid wrth fynd trwy'r ysgol'

Ar raglen Dros Ginio hefyd fe wnaeth Bethan Griffiths, o Gaerdydd, sydd gyda thri o blant yn yr ysgol uwchradd, ddweud bod dechrau tymor yn bryderus iawn oherwydd costau.

“Mae’n rhaid prynu’r wisg ysgol o siop arbenigol achos mae’r logo wedi ei wnïo ar y crysau polo a crysau chwith," meddai. "Petasai logo fel bathodyn neu logo ar fathodyn gellir smwddio ar y dillad, byddai hynny’n neud y gost yn haws i ni, bysa ni’n gallu prynu crysau chwys o unrhyw siop.

“Ac mae’r wisg yn newid wrth iddyn nhw fynd trwy’r ysgol. Yn ysgol y plant mae blwyddyn 7, 8 a 9 yn gwisgo un lliw crys, wedyn maen nhw’n newid lliw blwyddyn 10 ac 11 ac wedyn eto yn y chweched.”

Ychwanegodd bod ‘na bethau cadarnhaol yn digwydd gyda’r ysgol wedi sefydlu grŵp Facebook i gyfnewid gwisg ysgol - ond bod angen mwy o gymorth.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae esgidiau ysgol a rhai ymarfer corff ar gael yng nghyfnewidfa dillad Llanrug

Mae Beca Brown yn aelod Cabinet Addysg ar Gyngor Gwynedd, ac maen nhw wedi gyrru holiaduron i rieni yn gofyn am fanylion y beichiau ariannol mwya’ arnyn nhw.

Mis Rhagfyr ydi un o’r cyfnodau drutaf - oherwydd costau’r Nadolig - a’r llall ydi mis Awst oherwydd costau dechrau blwyddyn newydd yn yr ysgol.

Gyda safleoedd gwe ac aps dillad ail-law yn boblogaidd ar hyn o bryd, gobaith y cynghorydd ydi bydd mwy yn gwneud defnydd o gyfnewidfaoedd dillad yn y dyfodol.

Meddai: “Mae ail ddefnyddio dillad - neu unrhywbeth yn rhywbeth da. Mae o’n dda i’r blaned ac mae o hefyd yn cyfarch yr heria costau, wedyn faswn i’n licio gweld normaleiddio ailddefnyddio gwisgoedd ysgol - ac unrhyw ddillad.”