Dim cynlluniau i gau chweched dosbarth ysgolion Ceredigion am y tro

Ysgolion
  • Cyhoeddwyd

Mae'n ymddangos bod dyfodol pob chweched dosbarth yn ysgolion Ceredigion yn ddiogel am y tro wrth i'r cyngor sir atal cynnig i'w cau ar hyn o bryd.

Bydd cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn cyfarfod ar 5 Tachwedd i drafod y camau nesaf wedi iddyn nhw gynnal adolygiad ar addysg ôl-16 yn y sir.

Ar hyn o bryd mae chwe ysgol yn y sir yn cynnig addysg chweched dosbarth - Ysgol Uwchradd Aberteifi, Bro Teifi yn Llandysul, Aberaeron, Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan ac ysgolion Penweddig a Phenglais yn Aberystwyth.

Yn dilyn yr adolygiad cafodd dau gynnig eu cyflwyno ar gyfer ystyriaeth bellach sef Opsiwn 2 a fyddai'n datblygu'r sefyllfa bresennol, ac Opsiwn 4 a fyddai'n cau’r ddarpariaeth ôl-16 bresennol ac yn sefydlu Canolfan Ragoriaeth.

Beth yw'r cynigion?

Byddai Opsiwn 2 yn adeiladu ar y sefyllfa bresennol yng Ngheredigion gyda'r ddarpariaeth ôl-16 yn parhau ar y chwe safle presennol.

Byddai'r chwe bwrdd llywodraethu yn parhau â'u rolau presennol o ran llywodraethu hyd at 16 ond yn cytuno â'r awdurdod lleol i ffurfio Bwrdd Strategol a fyddai'n rheoli cyllideb ôl-16.

Byddai'r bwrdd yn sicrhau trefniadau addas ar gyfer cyd-gynllunio'r cwricwlwm ac yna comisiynu'r ddarpariaeth gan yr ysgolion, e-sgol a phartneriaid eraill.

Byddai'r Bwrdd Strategol yn cael ei gefnogi gan Fwrdd Gweithredol er mwyn gweithredu'r cynigion cwricwlaidd.

Y Bwrdd Strategol fyddai'n gyfrifol am fonitro ansawdd y ddarpariaeth a gwneud argymhellion i'r awdurdod lleol a'r darparwyr ar gyfer gwella.

Dros amser gallai'r argymhellion hyn gynnwys addasu nifer y safleoedd a'r hyn a ddarperir ar bob safle.

Byddai Opsiwn 4 yn cynnig newid mwy pellgyrhaeddol.

Byddai'n golygu cau'r ddarpariaeth ôl-16 bresennol a sefydlu Canolfan Ragoriaeth, a fyddai'n cynnwys amrywiaeth o bartneriaid, mewn un neu fwy o safleoedd daearyddol addas.

Corff llywodraethol sy'n annibynnol o'r ysgolion fyddai'n gyfrifol am y cyllid a'r cwricwlwm a byddai'n penodi nifer fach o staff craidd i lywio a rheoli'r gwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Reodd Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith yn poeni y byddai ethos Cymraeg yn diflannu y tu allan i ysgolion

Yn Hydref 2023 dywedodd Cyngor Ceredigion ei bod hi'n "glir" nad yw’r grant ôl-16 gan Lywodraeth Cymru yn ddigon i gynnal darpariaeth ôl-16 yn ei ffurf bresennol ac felly bod yn rhaid cyflwyno newidiadau.

Amcangyfrifwyd fod y gost o gynnal cyrsiau chweched dosbarth yn 2023-24 yn £4.2m - dros £400,000 yn fwy na’r grant chweched dosbarth gan Lywodraeth Cymru.

Yn y gorffennol mae rhai rhieni wedi mynegi eu pryderon am gael un ganolfan, ac roedd pryderon gan y gangen leol o Gymdeithas yr Iaith ac eraill y gallai’r ethos Cymraeg sy’n bodoli mewn chweched dosbarth gael ei golli.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y mater yn cael ei drafod gan Gyngor Sir Ceredigion ddydd Mawrth

Mae disgwyl i'r adroddiad a fydd yn mynd ger bron y cabinet ar 5 Tachwedd argymell y dylai'r cyngor gytuno mewn egwyddor i ddechrau'r broses o fabwysiadu Opsiwn 2 ar gyfer Medi 2026.

Ond mae yna argymhelliad iddyn nhw hefyd gymeradwyo'r cynnig i gynnal ymchwiliad pellach i Opsiwn 4 ar gyfer ystyriaeth fanylach.

Pynciau cysylltiedig