Sylfaenydd ras dyn v ceffyl Llanwrtyd wedi marw yn 90 oed

Sgwrs mewn tafarn yn 1980 a arweiniodd Gordon Green i sefydlu ras dyn v ceffyl yn Llanwrtyd
- Cyhoeddwyd
Mae Gordon Green, y dyn a sefydlodd y ras enwog dyn yn erbyn ceffyl yn Llanwrtyd, wedi marw yn 90 oed yn dilyn salwch byr.
Trefnodd Mr Green y ras yn 1980 ar ôl sgwrs mewn tafarn yn trafod a oedd dyn neu geffyl yn gyflymach wrth groesi tir mynyddig.
Mae'r ras 22 milltir yn Llanwrtyd ym Mhowys wedi digwydd yn flynyddol - ac eithrio cyfnod Covid - ers hynny.
Dim ond pump o bobl sydd wedi llwyddo i gyflawni'r gamp - tri ohonynt yn y pedair blynedd diwethaf.
Yn gynharach eleni yr athletwr o Abertawe, Dewi Griffiths enillodd y ras - fe yw'r Cymro cyntaf i redeg yn gynt na cheffyl yn y ras enwog.
Dywedodd merch Mr Green, Susannah Kingdon, ei bod hi a'i theulu yn "anhygoel o falch o'r gwaith y mae fy nhad wedi'i wneud yn y gymuned".

Mae'r ras dyn yn erbyn ceffyl wedi digwydd yn flynyddol - ac eithrio cyfnod Covid - ers 1980
Yn ogystal â'r ras dyn yn erbyn ceffyl fe drefnodd Mr Green ddigwyddiadau eraill hefyd - yn eu plith Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd.
"Anghofiai fyth y tro y cyhoeddodd wrth fwrdd cinio ei fod wedi meddwl am ddigwyddiad newydd... snorclo cors," ychwanegodd Ms Kingdon.
" Roedd y cyfan yn dipyn o sioc ond nawr mae'r gystadleuaeth honno a nifer o ddigwyddiadau eraill yn denu cystadleuwyr ledled y byd.
"Mae e wedi rhoi Llanwrtyd ar fap y byd."

Mae'r cyflwynwydd newyddion BBC Sophie Raworth wedi cystadlu mewn sawl digwyddiad yn Llandrindod ac yn ffrind i Gordon Green
Dywedodd cyflwynydd newyddion y BBC, Sophie Raworth, sy'n ffrind i'r teulu ac sydd hefyd wedi cystadlu yn y ras dyn yn erbyn ceffyl, fod Mr Green yn "ddyn hyfryd llawn syniadau" a'i fod wedi bod yn gyfrifol am rasys gorau'r DU.
Wrth ddyfarnu Gwobr Point of Light i Mr Green yn 2014, dywedodd prif weinidog y DU ar y pryd, David Cameron, fod y digwyddiadau a drefnodd yn "rhyfeddol" ac yn "hwb anhygoel" i Lanwrtyd wrth iddyn nhw ddenu miloedd i'r dref.
Y flwyddyn cynt cafodd Gordon Green wobr twristiaeth am ei fod yn denu cymaint o bobl i ganolbarth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd26 Awst 2023