'Dim dewis ond codi arian i gynnal gyrfa ym myd golff'

Mae Dion Reagan, 17 oed o Geredigion, y gobeithio gwireddu ei freuddwyd o fod yn golffiwr proffesiynol
- Cyhoeddwyd
Mae Dion Reagan o Lanwnnen yng Ngheredigion yn treulio mwyafrif o'i amser ar y cwrs golff, a'r ymarferion dyddiol yn rhan bwysig o wireddu ei freuddwyd o chwarae'n broffesiynol.
Gyda handicap o +4 mae'r chwaraewr 17 oed wedi chwarae mewn cystadlaethau amatur ar draws y byd.
Ond gyda chostau cynyddol o fewn y gamp mae wedi penderfynu codi arian i gynnal ei yrfa.
Tra'n cydnabod fod "adnoddau'n brin o'i gymharu â gwledydd mwy" mae Golff Cymru yn dweud eu bod yn "gweithio'n galed i ddatblygu chwaraewyr".
'Ffili neud hyn heb yr help'
Dechreuodd chwarae golff gyda'i Dad pan yn ddwy oed, ac mae ei ddiolch i'w deulu sydd wedi ariannu ei yrfa hyd yma yn fawr.
"O'dd Dad yn mynd â fi lan i ymarfer gyda fe bob nos, a nawr fi 'di cyrraedd lefel eithaf da a moyn gwthio'n hunan yn bellach," meddai.
"Ma' teulu a ffrindiau wedi bod yn help mawr hefyd, a ma' Mam bach fel manager!
"Ond wrth gystadlu o'n i'n gweld faint o'dd e'n mynd i gosti a phenderfynu creu tudalen ar-lein i godi arian, bydden i ffili neud hyn heb yr help."
Bydd cyfran o'r arian sy'n cael ei godi yn mynd i elusen IPF hefyd, cyflwr ar yr ysgyfaint sydd yn ei gwneud hi'n anodd anadlu.
"Dwi'n awyddus i roi nôl i elusen sy'n bwysig iawn i'r teulu," ychwanegodd.
"Rodd Tad-cu yn byw gyda IPF a dwi wedi codi arian i'r elusen yn y gorffennol drwy chwarae 72 twll mewn diwrnod.
"Nes i addo i Dad-cu cyn iddo farw y byddwn i byth yn rhoi'r gorau i'r freuddwyd."

Mae Dion wedi bod yn chwarae golff ers yn ddwy oed, gyda'i dad
Er i'r Cymro Ian Woosnam gystadlu yn y Meistri ar ddechrau'r 90au, prin yw'r Cymry sydd wedi serennu ym myd golff.
A hithau'n 15 mlynedd ers i Gasnewydd gynnal y Cwpan Ryder, mae Golff Cymru yn cydnabod fod adnoddau'n brin o'i gymharu â gwledydd eraill.
Dywedodd Gareth Jenkins, Cyfarwyddwr Perfformiad Golff Cymru eu bod "yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein chwaraewyr i ddatblygu".
"Rydym yn derbyn cyllid gan ein clybiau a thrwy Chwaraeon Cymru Wales," meddai.
"Mae adnoddau'n gyfyngedig o gymharu â'r gwledydd mawr eraill, fodd bynnag, rydym yn cynnig cymorth sylweddol trwy gynghori ar amserlenni, rhaglenni hyfforddi, ac yn cynnig cyfraniadau ariannol i rai twrnameintiau rhyngwladol.
"Rydym yn parhau i chwilio am gyfleoedd ariannu newydd i leihau'r rhwystrau ariannol sy'n wynebu ein chwaraewyr."

Mae Dion yn awyddus i droi'n broffesiynol mewn cwpl o flynyddoedd "a mynd lan y world rankings"
Un o arwyr Dion yw Rory McIlroy o Ogledd Iwerddon, a enillodd y Meistri yn gynharach eleni.
"Fi'n dilyn rhywun fel Rory McIlroy, dyw e ddim wedi dod o lot o arian ond ma' fe 'di gorfod gweithio'n galed i gyrraedd le ma' fe.
"Ar y funud gweithio'n galed, cario ymlaen i daro fy nhargedau.
"Ac wedyn gobeithio troi'n broffesiynol a mynd lan y world rankings a gweld le awn i."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr
- Cyhoeddwyd25 Mai 2021
- Cyhoeddwyd15 Chwefror