£1m i Golff Cymru yn 'hanfodol' i dyfu gêm y menywod
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £1m ar gyfer golff yng Nghymru, ac un o'r prif nodau yw hyrwyddo'r gêm i ferched.
Mae un o benaethiaid Golff Cymru wedi dweud bod y buddsoddiad yn "hanfodol" er mwyn sicrhau bod camp y merched yn cael ei hystyried ar yr un lefel â champ y dynion.
Gyda ffigyrau diweddar yn dangos cynnydd bychan o 6% yn nifer y merched sy'n chwarae golff yng Nghymru yn y pedair blynedd diwethaf, y gobaith yw gweld y to iau yn bachu ar y cyfle.
Gydag un o bencampwriaethau golff mwya'r byd yn cael ei chynnal ym Mhorthcawl yr haf nesaf, dywedodd un chwaraewr ei bod yn amser newid y ddelwedd draddodiadol o'r sawl sy'n chwarae'r gêm yma yng Nghymru.
'Angen newid y ddelwedd'
Mae Sian Elin Jones, aelod o Glwb Golff Radyr ger Caerdydd, yn ffyddiog fod y buddsoddiad am helpu i ddenu mwy o ferched a menywod i chwarae.
"Mae pobl yn dueddol o gategoreiddio'r gamp fel un elitaidd, hen ffasiwn ac yn un sy'n apelio'n bennaf at ddynion," meddai.
"Mae angen newid y ddelwedd yna gan fod gan golff lawer i'w gynnig i bawb."
Aeth ymlaen i ddweud bod angen "cael mwy o fenywod i mewn i'r gamp, gan fod y buddion iechyd ac iechyd meddwl mor allweddol i gynnal bywyd iach".
Yn ôl ystadegau diweddar gan Golff Cymru, cynnydd o 6% yn unig sydd wedi bod yn nifer y menywod sy'n chwarae'r gamp yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Gyda Phencampwriaeth Agored yr AIG i Fenywod yn cael ei chynnal ym Mhorthcawl fis Gorffennaf - y tro cyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yng Nghymru - mae gobaith y bydd y gamp yn apelio at gynulleidfa newydd.
Dywedodd Sian Elin y bydd y gystadleuaeth yn "hwb mawr i broffil golff yng Nghymru ac yn gyfle i bobl weld mawrion y gamp yn ei chwarae".
"Mae angen modelau rôl benywaidd arnom ar lefel broffesiynol.
"Mae'r arian yn hollbwysig. Mae angen i glybiau golff yn gyffredinol wella'r ddarpariaeth a chyfleoedd i fenywod," ychwanegodd.
Ond er mwyn denu mwy o fenywod i chwarae'r gamp, roedd Ms Jones o'r farn fod angen datblygu'r gamp o fewn ysgolion Cymru.
Dywedodd: "Fe hoffwn i'n bersonol weld Golff Cymru yn cynnig mwy o hyfforddiant golff yn ein hysgolion.
"Mae'r sefydliad wedi bod yn mynychu digwyddiadau lleol a chenedlaethol, fel Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol, dros y blynyddoedd diwethaf ac fe hoffwn weld hyn yn cael ei ymestyn ymhellach fel bod y gamp yn weledol i'n pobl ifanc ac o fewn eu cyrraedd."
Her 'dod â'r oedran i lawr'
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd pennaeth cyfleusterau golff, Golff Cymru, Dilwyn Griffiths ei fod yn obeithiol y byddai'r gronfa newydd yn ehangu'r gamp i gynulleidfaoedd newydd.
Dywedodd fod nifer o fuddsoddiadau gan glybiau yn y gorffennol wedi "tueddu i fod tuag at ddynion yn y clybiau" gan ddweud eu bod yn gobeithio "defnyddio'r gronfa yma i lefelu pethau allan".
Dywedodd fod y gamp yn weithgaredd hynod gymdeithasol gan ychwanegu "er bod meysydd parcio village halls yn wag, ma' rhai y clybiau golff yn llawn efo dros 60 o fenywod yna".
"Mae'n hynod o gamp social. Hyd yn oed ar ôl stopio chwarae golff mae pobl yn dod fel routine i gymysgu, trafod, gweld eu ffrindiau."
Ond mae'n cydnabod mai'r her fwyaf sy'n wynebu golff yng Nghymru yw ceisio "dod â'r oedran demograffeg 'na i lawr".
Dywedodd fod Golff Cymru bellach yn rhoi cyfle i glybiau Cymru geisio am fuddsoddiad o hyd at £25,000.
Pwysleisiodd fod telerau arbennig yn dod ynghlwm â derbyn yn arian, gan gynnwys sicrhau bod menywod a merched yn cael eu cynnwys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024